Llyfrau

RSS Icon
16 Awst 2012

Hanes Erchyll Abertawe yn dod yn fyw mewn llyfr newydd

Mae hanes rhyfedd a gwaedlyd Abertawe yn cael ei ddatgelu mewn llyfr newydd gan aelod o dîm Addysg y Cyngor.

Ysgrifennwyd Bloody Welsh History - Swansea gan Geoff Brookes sy'n gweithio yn Rhwydwaith Dysgu 14 i 19 Cyngor Abertawe.

Mae'r llyfr yn rhoi sylw i straeon marwolaeth, llongddrylliadau a llofruddiaethau ac yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau erchyll ac arswydus y ddinas yn cynnwys Menyw Goch Pafiland y Rhufeiniaid, ymosodiad y Llychlynwyr, clefydau marwol, terfysgoedd ffatri, colera a'r Blitz.

Meddai Geoff, cyn-ddirprwy bennaeth ac awdur â diddordeb hirdymor yn hanes Cymru, "Mae diddordeb mawr mewn hanes erchyll ar hyn o bryd. Mae'n gwneud hanes yn fwy cyffrous a hygyrch i fwy o bobl.

"Fel bachgen o Abertawe rwy'n gobeithio y bydd yn tanio mwy o ddiddordeb yn y ddinas drwy edrych ar ei orffennol mwy dramatig. Mewn sawl ffordd mae'n dangos gymaint rydym wedi datblygu."

Roedd Geoff yn Bennaeth ar yr adran Saesneg yn Ysgol Gyfun Dilwyn Llewelyn ac yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed. Ysgrifennodd Stories in Welsh Stone ar gyfer Welsh Country Magazine yn 2008.

Cyhoeddir Bloody Welsh History - Swansea fel llyfr clawr meddal gan The History Press.

 

Rhannu |