Llyfrau

RSS Icon
10 Awst 2012

Cyfrol gyntaf yn ennill gwobr llyfr rhyngwladol

Mae hyfforddwraig bersonol, Carol Mead, sy’n rhedeg Able Fitness ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, newydd ddarganfod fod ei hail ddiddordeb mewn bywyd, barddoniaeth, yn edrych yn reit iach hefyd!

Yn ôl ym mis Mawrth, yn hollol ddamweiniol, wrth chwilio’r Rhyngrwyd am wybodaeth ynghylch hunan-gyhoeddi, daeth ar draws cystadleuaeth i awduron llyfrau. Yn anarferol, o wraig nad yw bron byth yn trio cystadlaethau, a heb ddweud wrth neb, penderfynodd roi cynnig arni.

“Am wythnosau, chlywais i ddim byd, ond mi edrychais ar eu gwefan yn gyson. O dipyn i beth, pylodd fy niddordeb nes imi sbïo’n sydyn ar y tudalen gwpl o wythnosau’n ôl, o ran ymyrraeth, a chael fy mod i wedi cyrraedd y ‘Rhestr Hir’!”.

Er hynny, mi benderfynais beidio â dweud wrth neb, rhag ofn i hynny ddifetha fy lwc, ond yn ddiweddar cyhoeddwyd y rhestr fer ac i’m syndod dyna “Sea Things – Carol Mead” arni!”

Yn fuan wedyn, derbyniodd Carol becyn yn cynnwys dau blac gwydr, y naill iddi hi a’r llall i’r dylunydd, ei thad-yng-nghyfraith, Gareth Davies. Gyda nhw yr oedd llythyr yn dweud i’w llyfr o farddoniaeth i blant, Sea Things, ennill y drydedd wobr yng Ngwobrau Llyfrau Rhyngwladol Rubery 2012.

Dywedodd y beirniaid:  “Y mae’r lluniau’n wych, gan ddefnyddio lliwiau bywiog ac yn llawn dychymyg. Aeth llawer o feddwl i olwg y llyfr, ac mae’n dal y llygad heb fod yn orlachar. Mae’r cysodi’n chwareus ac yn gweddu i fwriad y llyfr.  Cytunodd y beirniaid i gyd mai llyfr hardd ydoedd, a fyddai’n dda ar gyfer ysgolion.”

I gael gwybod rhagor neu i archebu’r llyfr, gwelwch flog Carol ar lein, Able Creations, ar <http://www.ablecreations.co.uk> neu ffoniwch hi ar 07764 694297.

Llun:  “Carol a Gareth â’u gwobrau”

Rhannu |