Llyfrau
Tai Mawr a Mieri
Cafodd cyfrol hardd Tai Mawr a Mieri: Plastai Coll Cymru / Ancestral Houses: The Lost Mansions of Wales ei lansio yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, nos Iau, 3 Mai.
Mae’r gyfrol yn cynnwys portffolio trawiadol o luniau du-a-gwyn Paul White o adfeilion tai ledled Cymru. Cyplyswyd y ffotograffau atmosfferig â thestun Cymraeg Siân Melangell Dafydd a thestun Saesneg Damian Walford Davies.
Treuliodd Paul yr ugain mlynedd ddiwethaf yn cofnodi adfeilion anheddau bychain a neuaddau mawr Cymru. Mae’n gweithio’n gyfan gwbl mewn du a gwyn, gan ddefnyddio camera maes pren a wnaed yn Siapan a dulliau ffotograffig traddodiadol. Bu’n arddangos yn helaeth drwy Gymru a thu hwnt, a chynrychiolir ei waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus. Gellir gweld ei bortffolio syfrdanol ar ei wefan www.welshruins.co.uk
Yn y cyflwyniad i’r gyfrol esbonia Siân Melangell a Damian ‘Wedi inni ein trwytho ein hunain yn hanes diwylliannol a phersonol y tai mawr, dechreuasom ar daith glera dros Gymru benbaladr, llyfrynnau nodiadau yn ein dwylo, a Paul yn ein harwain yn ddeheuig… Roedd tenantiaeth – hen a diweddar – y plastai i’w theimlo’n hynod gryf ym mhob lle. Ymetyb y testunau Cymraeg a Saesneg, felly, i gyfuniad o ddaearyddiaeth a delwedd.’
‘Dydw i ddim yn uniaethu â’r gwerthoedd hynny a gynhaliai’r tai mawr’, meddai Paul White; ‘Maen nhw’n cynrychioli cyfnod o anghydraddoldeb enbyd o ran cyfoeth, adnoddau a chyfle – ffordd o fyw sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn mewn annhegwch cymdeithasol.’
‘O ganlyniad, nid yw’r delweddau yn y llyfr hwn yn pledio achos cadw ac adfer mewn unrhyw ffordd seml. Ac eto, rhaid cydnabod mai cartrefi ac aelwydydd oedd y plastai hyn unwaith – gofod a garwyd. Maent yn garnedd, ond gellir o hyd ymglywed â churiad calon a phrofi eiliadau o einioes yma,’ ychwanega’r awduron.