Llyfrau
Nofel Flasus Newydd Manon Steffan Ros
Mae nofel newydd Manon Steffan Ros yn cynnig mwy i’r darllenydd na gwledd o eiriau. Mae Blasu hefyd yn bryd i’r synhwyrau, wrth i’r bwydydd ddiferu’n gelfydd i’r stori ac i fyd y cymeriadau.
“Dwi wastad wedi bod dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad efo bwyd,” cyfaddefa Manon Steffan Ros. “Mae fy atgofion hefyd ynghlwm â pha bynnag fwyd oedd o gwmpas ar y pryd – mae fy ngŵr yn fy herian i am ’mod i’n cofio’n union pa bryd ges i mewn bwyty ddeng mlynedd yn ôl, ond yn methu cofio lle dwi ’di rhoi fy ngoriadau! Mae bwyd yn brofiad emosiynol i mi, mae o’n un o’r ffyrdd dwi’n dangos cariad.”
Ond er bod pob pennod yn dechrau gyda rysáit wahanaol, mae Manon yn prysuro i bwysleisio nad llyfr ryseitiau yw’r nofel hon ond cyfle i ddarllenwyr flasu a phrofi’r un pethau â’r prif gymeriad, Pegi. Wrth ddewis a dethol y ryseitiau ar gyfer y nofel, cyfrannodd Manon ambell un sy’n agos at ei chalon – gan gynnwys pwdin barlys roedd ei hen hen nain yn ei baratoi bob bore ar gyfer naw o blant, a rysáit am grempogau ceirch ei nain o ochr arall y teulu.“Mi fues i’n pendroni am hydoedd a ddylwn i ddewis ryseitiau ro’n i’n gwybod oedd yn boblogaidd a thrin y nofel fel cyfle i arddangos fy hoff fwyd. Ond, yn y diwedd, roedd amgylchiadau Pegi yn llywio’r ryseitiau.”
Awydd archwilio’r profiadau sydd ynghlwm â blasau arbennig oedd yr awdures wrth fynd ati i greu’r nofel hon a hynny ar ôl iddi sylwi ar bwysigrwydd perthynas pobl â bwyd. Stori Pegi a’i pherthynas hi efo bwyd ydi prif gwrs Blasu, wrth iddi drio dygymod ag atgofion o’i phlentyndod anodd. “Mae cael perthynas gymhleth efo bwyd bron â bod yn norm erbyn hyn,” eglura Manon. “Dwi’n synnu faint o bobl sydd wedi dioddef o ryw anhwylder bwyta yn ystod eu bywydau, ac erbyn heddiw rydan ni’n gweld bwydydd fel rhai da neu ddrwg. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod bwyd a bwyta’n brofiad emosiynol – tydi o ddim yn fater o fwynhau neu gasáu, mae o’n weithred o ddrygioni neu ddaioni.”
Dyma ail nofel yr awdures i oedolion, a hynny’n dilyn llwyddiant ei nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn, enillydd gwobr Barn y Bobl Golwg 360 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Yn yr un flwyddyn fe enillodd Manon Wobr Tir na-Nog am Trwy’r Tonnau, nofel i blant a phobl ifanc, ac mae ei nofel ddiweddaraf i bobl ifanc Prism, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na-Nog 2012.
Meddai Catrin Beard am Blasu: “Mewn byd lle mae greddfau naturiol yr unigolyn yn pylu, mae hon yn nofel sy’n ymdrin â sawl ysfa gyntefig sy’n ddwfn yn y ddynoliaeth.”
Cynhelir lansiad Blasu yn Llyfrgell Ceredigion (Llyfrgell newydd y Dref), Neuadd y Dref, Aberystwyth, nos Fercher yr 16eg o Fai am 7.30yh. Bydd gwin a chacennau bach ar gael – croeso cynnes i bawb!