Llyfrau

RSS Icon
03 Mai 2012

Capten Abertawe yn Datgelu Cyfrinach Llwyddiant yr Elyrch yn ei Hunangofiant

Mae Garry Monk, capten Abertawe, yn chwaraewr anghyffredin. Nid yn unig mae wedi chwarae ym mhedair cynghrair pyramid pêl-droed Lloegr ond mae wedi bod yn gapten ym mhob adran hefyd.

Yr wythnos hon bydd y pêl-droediwr uchel ei barch yn cyhoeddi hanes ei fywyd mewn cyfrol ddadlennol a difyr Garry Monk: Loud, Proud and Honest (£9.95 Y Lolfa).

Yn y gyfrol mae’n trafod ei brofiad yn cydweithio gyda nifer o gadeiryddion, rheolwyr a chwaraewyr ac er ei fod yn canmol Kenny Jacket, Roberto Martinez a Brendan Rodgers mae ganddo sylwadau deifiol am Paulo Sousa a Peter Ridsdale. Mae’n croniclo datblygiad syfrdanol clwb pêl-droed Abertawe ac yn datgelu nifer o gyfrinachau am lwyddiant y clwb wrth iddynt ddringo trwy’r cynghreiriau. Mae’n gorffen y gyfrol gyda’r daith fyth gofiadwy i Wembley a phennod yn dilyn hynt y clwb yn yr Uwchgynghrair.

Cynchwynnod Garry Monk ei yrfa yn Torquay cyn symud i Southampton gan chwarae o dan reolaeth Glenn Hoddle a Gordon Strachan yn yr Uwchgynghrair. Erbyn hyn mae Garry Monk yn arwr yn Abertawe ac mae’r gyfrol sy’n datgelu llawer am yr hyn sydd yn mynd ymlaen tu ôl i’r llennu, yn sicr o blesio cefnogwyr selog yr Elyrch, gan efallai godi gwrychyn rhai o gefnogwyr Caerdydd.

 Lansir Garry Monk: Loud, Proud and Honest (£9.95 Y Lolfa) yn siop Stadiwm y Liberty ar ddydd Llun y 7fed o Fai rhwng 2-3 o’r gloch.

 

Rhannu |