Llyfrau

RSS Icon
03 Mai 2012

Yr Elyrch – 100 heb fod allan, a £100 o wobr!

WRTH i’r Elyrch baratoi i frwydro yn erbyn rhai o’r enwau mwyaf yn yr Uwch Gynghrair, a’r tymor bron â dod i ben, mae’r llyfr Yr Elyrch: Dathlu’r 100 gan Geraint Jenkins (Y Lolfa), un o wyth teitl newydd y gyfres Quick Reads/Stori Sydyn 2012, yn edrych ’nôl dros 100 mlynedd yn hanes y tîm anhygoel hwn.

Fel rhan o’r dathliadau, mae Quick  Reads/Stori Sydyn yn cynnig y cyfle i un cefnogwr ennill gwerth £100 o dalebau i’w gwario yn Archfarchnad Clwb Pêl-droed Abertawe yn Stadiwm y Liberty.

I gystadlu, atebwch y cwestiwn hwn:  “Beth oedd dyddiad y gêm gyntaf erioed a chwaraewyd gan yr Elyrch yn 1912?”  Anfonwch eich ateb – yn cynnwys eich enw, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn – mewn e-bost at  Rhodri@cambrensis.uk.com neu ffoniwch 02920 257075. Y dyddiad cau yw dydd Llun 4ydd Mehefin.

O gae’r Vetch i Stadiwm Liberty, ac o’r rheolwr cyntaf, Walter Whittaker, i Brendan Rogers, y rheolwr presennol, mae’r gyfrol yn llawn dop o hanesion difyr ac angerddol, fydd yn apelio at unrhyw un sydd wedi dilyn hynt a helynt eu hoff dîm, yr Elyrch, dros y blynyddoedd.

Mae’r llyfr yn talu teyrnged i rai o enwogion y gêm a fu’n gwisgo’r crysau gwynion enwog yn ystod eu gyrfaoedd llwyddiannus, yn cynnwys John Charles, Ivor a Len Allchurch, a hyd yn oed Syr Alex Ferguson.

Cawn hanes un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, pan oedd John Toshack yn rheolwr y tîm. Rhwng 1978 a 1981, brwydrodd y clwb ei ffordd o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf. Yn awr, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’r tîm unwaith eto ar ei orau, ac yn chwarae yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf.

Ychwanegodd Delyth Humphreys, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae ymgyrch Stori Sydyn / Quick Reads yn denu mwy a mwy o sylw ac yn annog miloedd o bobl ledled Cymru i roi cynnig ar ddarllen – llawer ohonynt, o bosib, erioed wedi darllen llyfr o’r blaen.
"Mae’r teitlau newydd ar gyfer 2012 yn cynnig amrywiaeth ddifyr o bynciau, ac rwy’n siŵr y byddant yn apelio at bobl o bob oed, beth bynnag yw eu diddordebau."

Mae’r Athro Geraint H Jenkins, awdur y llyfr, yn hanu o Benparcau, Aberystwyth. Ymddeolodd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ar ôl bod yn y swydd er 1993. Cyn hynny roedd yn Athro a Phennaeth Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n awdur dros ddeg ar hugain o lyfrau, a thros gant o erthyglau ar amrywiaeth eang o bynciau.

Mae’r Athro Jenkins wedi ysgrifennu’n helaeth ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar, ac yn olygydd cyffredinol tair cyfres lwyddiannus a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, sef A Social History of the Welsh Language, The Visual Culture of Wales a Iolo Morganwg and the Romantic Tradition in Wales. Mae’n awdur gweithiau arobryn ar hanes Cymru, crefydd a llenyddiaeth; ei gyhoeddiad diweddaraf yw hanes cynhwysfawr o Gymru, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caer-grawnt. Ef hefyd yw golygydd Cof Cenedl, casgliad blynyddol o draethodau hanesyddol.

Rhwng 1993 a 2007 roedd yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru. Cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 2002 ac mae’n aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig; mae hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Yn weinyddwr profiadol, ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y teledu a’r radio, mae’r Athro Jenkins yn byw ym Mlaen-plwyf ac ymhlith ei ddiddordebau mae cerddoriaeth, chwaraeon a garddio.
Mae cyfrol Geraint Jenkins yn un o wyth teitl .ewydd yn y gyfres Quick Reads / Stori Sydyn ar gyfer 2012:

Teitlau Cymraeg a Chymreig Quick Reads / Stori Sydyn 2012:
Earnie: My Life at Cardiff City, Robert Earnshaw 
Going for Gold: Welsh Olympic Dreams for 2012
Finger Food, Helen Lederer
Why Do Golf Balls Have Dimples? Weird and Wonderful Facts of Everyday Life, Wendy Sadler  
Yr Elyrch: Dathlu’r 100, Geraint Jenkins
Cymru yn y Gêmau Olympaidd, John Meurig Edwards
Hunllef, ManonSteffan Ros
Tu ôl i’r Tiara: Bywyd Miss Cymru, Courtney Hamilton gydag Alun Gibbard

Rhannu |