Llyfrau
Dwy wraig brysur yn y Bala
Bydd o leiaf dwy wraig yn brysur iawn yn y Bala ddydd Sadwrn penwythnos Gŵyl Calan Mai. Yno cynhelir Bedwen Lyfrau eleni, gŵyl a drefnir gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, gyda digwyddiadau difyr a lansiadau llyfrau o bob math.
Haf Llewelyn a Sali Mali yw’r gwragedd prysur, ymysg cannoedd eraill wrth gwrs, gyda’r ddwy yn dathlu cyhoeddi 1000 Gair Cyntaf Sali Mali a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Bydd Sali Mali wedi pacio ei bag a theithio i’r Bala gan ymweld â Neuadd y Cyfnod o dro i dro drwy’r dydd, ac mae Haf yn byw gerllaw yn Llanuwchllyn.
Fel athrawes brofiadol, fe ŵyr Haf am y geiriau allweddol sydd eu hangen ar blentyn wrth ddatblygu iaith ac wedi eu cyplysu gyda lluniau gwych Simon Bradbury, ceir cyfoeth rhwng cloriau‘r gyfrol. Mae yna fanylder a hiwmor yn y lluniau lliwgar gan gynnig cyfleoedd i riant, ofalwr neu athro ddatblygu sgiliau arsylwi, cyfri a chyfathrebu plentyn ifanc.
Yn ogystal â sefyllfaoedd cyfarwydd fel yn y tŷ, yn y gegin, yn yr ardd, ar y fferm, yn y dref ayyb ceir penodau cwbl Gymreig fel yn yr eisteddfod ac o gwmpas Cymru. Mae Jac y Jwc ar y wal ddringo, Jaci Soch yn casglu sticeri a Sali Mali wrth ei bodd yn canu gyda Jac Do ar lwyfan yr eisteddfod. Gwelir Sali Mali’n ymweld â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ac yn dysgu hwylio mewn canŵ ar lyn Tegid.
Swyddi, y siop deganau, y siop trin gwallt, tywydd, y tymhorau, lliwiau, rhifau a siâp – mae’r rhestr yn un gynhwysfawr a diolch i Haf am gasglu’r holl eirfa at ei gilydd mewn cyfrol liwgar sy’n werth bob ceiniog.