Llyfrau
Hanes Hynod Merch Ddewr Owain Glyndŵr
Mae enw Owain Glyndŵr wedi’i serio yng nghof y genedl fel arweinydd cenedlaetholgar Cymru, a’r Cymro brodorol olaf i gael ei adnabod fel Tywysog Cymru. Er bod llawer wedi’i gofnodi am Glyndŵr, serch hynny, fe ddiflannodd o dudalennau hanes ym 1412 ac nid yw’n sicr ymhle yn union mae ei fan claddu. Yn ogystal, oni bai am y wybodaeth a geir mewn cerddi a ganwyd gan feirdd y cyfnod, nid oes llawer o hanes plant Glyndŵr i’w ganfod ychwaith.
Cynnig atebion i’r dirgelion hyn y mae John Hughes yn ei nofel newydd, Glyndŵr's Daughter, (Y Lolfa) sy’n gofnod ffuglennol o fywyd a thrafferthion un o ferched Tywysog Cymru - Gwenllian. Rydym yn dibynnu yn bennaf ar gerddi gan y beirdd canoloesol Lewys Glyn Cothi ac Ieuan Gyfanedd am ein gwybodaeth am Gwenllian, ond er eu bod yn canu clod i’w phrydferthwch, ei deallusrwydd a’i theyrngarwch, nid oes son am y ffaith fod ei bywyd hi, fel merch i Glyndŵr, wedi’i glymu i lanw a thrai rhyfel ei thad.
Mae’r awdur yn tynnu’r darllenydd yn ôl gydag ef i adeg gythryblus a thywyll yr oes, ac yn dangos sut y tynnwyd Gwenllian yn ddwfn i fyd cynllwynio er mwyn helpu achos ei thad, a sut y bu iddi orfod dioddef creulondeb ar ei eithaf yn ystod adeg gwrthryfel Glyndwr.
Cynigir lleoliad newydd i fedd Glyndwr gan yr awdur yn y nofel yn ogystal, gan ddadlau yn erbyn y syniadaeth draddodiadol ei fod wedi’i gladdu yn agos at ei gartref, neu ar ystâd un o’i ferched eraill yn Sir Henffordd. O ganlyniad i’r ffaith fod Gwenllian yn byw yng Nghenarth, Llanidloes, cred Hughes ei bod mewn gwell sefyllfa na gweddill ei theulu i helpu cuddio ei thad a thwyllo ei elynion yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, gan ei bod yn byw mewn man fwy anghysbell. Byddai hi, felly, wedi chwarae rhan hollbwysig yn ei gladdu. Tybed ymhle yn ôl John Hughes, felly, bu gladdu Owain Glyndwr un cyfnos yn nhywyllwch hydref, 1415?
Dyma nofel gyntaf John Hughes, sy’n hanu o Lanidloes. Mae ganddo PhD mewn Cemeg, a newydd ymddeol fel prifathro Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi 26 mlynedd yn y swydd.