Darllena.Datblyga

RSS Icon

Stori 3 - Cath

Cath gan Manon Steffan Ros

Cathod.

Ych a fi! Roeddwn i’n eu casáu nhw, pob un wan jac ohonyn nhw. Roedd rhai pobol ofn cŵn, a rhai eraill yn casáu pryfaid cop neu gacwn neu lygod mawr. Ond byddai’n well gen i gael fy nghloi mewn ystafell efo clamp o gi anferth, nyth cacwn neu ddwsin o lygod mawr na gorfod bod ar yr un stryd â chath.

‘Ond ma’ nhw mor ddel!’ meddai Mam un diwrnod wedi iddi ‘ngweld i’n llamu o lwybr ryw gath ddu ar y ffordd adref o’r ysgol. ‘A wnawn nhw mo dy frifo di, Siôn. Glywais i ‘rioed am gath yn ymosod ar neb!’

‘Dwi’m yn licio nhw,’ atebais yn swta.

‘Ond pam?’ gofynnodd Mam. ‘Rwyt ti mor ddewr fel arfer!’

‘Dydw i ddim yn licio’r ffordd maen nhw’n symud.’ Roedd o’n anodd esbonio. Roeddwn i’n swnio mor wirion. Sut fedrwn i esbonio i Mam fod gweld cath yn stelcian o un ochr i’r stryd i’r llall yn gwneud i ‘nghalon i gyflymu? Ac yn waeth byth, fod gweld llygaid gloyw cath yn syllu arna i yn ddigon i wneud i mi ddrysu?

Roedd ‘na rywbeth mor glyfar amdanyn nhw- dyna oedd yn fy nychryn i yn fwy na dim. Weithiau, pan fyddai Mai, cath drws nesa’, yn neidio ar sil ffenest ystafell fyw tŷ ni, ac yn syllu i mewn ac yn syllu arnom ni drwy’r gwydr, roeddwn i’n siŵr ei bod hi’n deall popeth oedd yn mynd ymlaen o’i chwmpas. Roedd hi’n dal fy llygaid, fel petasai’n trio dweud, Dwi’n dy wylio di, Sion.

‘Mai druan,’ meddai Mam, fel petai’n medru darllen fy meddwl. ‘Mae hi wedi bod ar goll ers dyddiau. Maen nhw’n poeni amdani’n ofnadwy.’ Ac er na fyddwn i’n meiddio dweud dim yn uchel, rhaid i mi gyfaddef i mi feddwl, Gobeithio na ddaw’r hen gath slei yna byth yn ei hôl, wir.

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, roeddwn i’n eistedd yn fy llofft yn chwarae ar y cyfrifiadur. Roedd Mam wedi mynd allan i bigo mwyar duon ar y mynydd, a minnau’n mwynhau’r llonydd pan ddaeth y sŵn mwyaf ofnadwy o’r ardd.

Gêm gwffio oeddwn i’n chwarae, ac mi feddyliais i am ychydig mai dyna oedd yn gyfrifol am y sŵn gweiddi. Ond na. Roedd y twrw fel babi bach yn gweiddi, yn uwch na’r gêm, a rhoddais y cyfrifiadur i un ochr cyn mynd draw at y ffenest.

Cyflymodd fy nghalon wrth weld Mai, y gath, yn sefyll ynghanol ein gardd yn mewian fel na chlywais i ‘run cath yn gwneud o’r blaen. Heblaw i mi ei gweld hi â’m llygaid fy hun, fyddwn i byth wedi credu fod creadur mor fach yn gallu gwneud ffasiwn dwrw. Roedd hi fel bwystfil o ffilm arswyd neu hunllef, ac yn waeth na hyn i gyd, roedd hi’n syllu i fyny ar ffenest fy llofft. Troais i ffwrdd, cyn sylweddoli fod rhywbeth yn anarferol am y gath heddiw. Edrychais arni eto. Roedd hi’n sefyll ar sgarff amryliw- sgarff Mam.

Wnes i ddim meddwl o gwbl wedyn. Ar ôl stwffio fy nhraed i mewn i sgidiau rhedeg, allan â fi i’r ardd gefn. Dechreuodd Mai redeg i ffwrdd, ac er bod y ffordd roedd ei chorff yn gwibio a’r llygaid craff yn troi i edrych arna i yn ddigon i wneud i mi chwysu mewn dychryn, roedd rhaid i mi ei dilyn.

Roedd Mam wedi cwympo, ac roedd hi’n eistedd dan wrych, y mwyar duon roedd hi wedi eu hel yn flith draphlith o’i chwmpas.

‘Sion!’ meddai mewn rhyddhad wrth fy ngweld i. Roedd golwg welw arni. ‘Oes gen ti dy ffôn? Dwi’n meddwl ‘mod i wedi torri ‘nhroed.’

‘Be ddigwyddodd?’ gofynnais gan roi ‘mraich o’i chwmpas hi. Byddai’n rhaid ffonio ambiwlans- diolch byth bod fy ffôn fach yn fy mhoced.

‘Clywed mewian wnes i,’ esboniodd. ‘a phwyso draw i gael golwg. Roedd Mai yna, wedi cael cathod bach! Mi gollais i ‘nghydbwysedd rhywsut.’ Cododd Mam y dail ar waelod y berth, a gwelais dri o’r creaduriaid bach tlysaf erioed. Roedd Mai yno hefyd, wedi dychwelyd at ei chathod bach yn syth.

‘Fyddwn i byth wedi dod o hyd i chi heblaw am y gath,’ meddwn wrth ddeialu 999. ‘Dyn a ŵyr pa mor hir fyddech chi wedi bod yma tasa Mai heb ddod i fy nôl i, Mam.’

Mewiodd Mai, a dal fy llygaid eto fel petai hi’n deall yn iawn. Doedd hi ddim yn ymddangos mor ddychrynllyd rŵan.

Ychydig wythnosau wedyn, ar yr un diwrnod y cafodd Mam dynnu’r plastar oddi ar ei ffêr, daeth aelod newydd i’n teulu ni. Moi oedd ei enw fo, ac roedd o’n llwyd ac yn ddu gyda llygaid mawr gwyrdd. Roedd ei fasged yn fy llofft i, ond buan iawn y penderfynodd y gath fach ei fod am gysgu ar droed fy ngwely, a dyna lle y cysgodd o byth wedyn. Roeddwn i dal fymryn o’i ofn o ar y dechrau, yn enwedig pan roedd o’n fach ac yn cripian, ond roedd hi’n amhosib peidio gwirioni arno. Weithiau, byddwn yn dychwelyd o’r ysgol neu o gêm bêl droed i weld Moi a Mai yn cysgu ar fy ngwely. Bryd hynny, byddai Mai yn codi ei phen ac yn edrych arna i, ac roedd hi’n anodd meddwl ‘mod i wedi ei hofn hi ar un adeg.

 

Rhannu |