Darllena.Datblyga

RSS Icon
03 Hydref 2014

Stori 1 - Y Tywysog a’r Storïwr

Y Tywysog a’r Storïwr
gan Caryl Lewis

Amser maith yn ôl, mewn castell crand, roedd tywysog o’r enw Ronald yn byw. Nawr, roedd gan Ronald BOB PETH. Roedd ganddo ffatri melysion ei hun, cogydd i wneud bwyd yn arbennig ar ei gyfer a digon o deganau i lenwi bob stafell yn y castell. Roedd ganddo ddraig anwes yn y selar a hyd yn oed storïwr arbennig fyddai’n dod i ddweud straeon wrtho bob nos. Nawr, fe dyfodd Ronald i fod yn dywysog bach diog a blin a oedd yn meddwl ei fod yn fwy clyfar na phawb arall. 

Un noson, ac yntau ar fin mynd i’w wely, dyma’r hen storïwr yn dod ato i ddechrau adrodd stori.‘O na!,’ meddai Ronald a oedd y eistedd ar ei wely crand, ‘dim rhagor o straeon!’ Dwi’n rhy hen i gael stori bellach. Dwi wedi cael un bob nos ers imi fod yn fabi a dwi wedi cael llond bol ohonyn nhw!’ Croesodd Ronald ei freichiau ac edrych ar yr hen storïwr. ‘Na!, dwi ddim eisiau clywed UN stori arall. A dweud y gwir, dwi eisiau cael gwared ar bob stori o’r wlad. Dim straeon i fi na neb arall byth eto!,’ meddai’n benderfynol.  

Edrychodd yr hen storïwr arno mewn syndod. Roedd yr hen ddyn wedi byw yn y castell erioed ac wedi adrodd straeon i bob tywysog a thywysoges ers cyn co’! Suddodd ei galon ond fe allai weld nad oedd Ronald yn mynd i newid ei feddwl. Tynnodd yr hen storïwr anadl hir cyn cau’r llyfr stori. Yna, dyma fe’n estyn i mewn i boced ei gôt a thynnu hudlath oddi yno. Dyma fe’n sibrwd geiriau hud o dan ei anadl ac yna, er mawr syndod i Ronald, dyma olau yn ymddangos ar ddiwedd yr hudlath. Edrychodd Ronald ar ffenestr yr ystafell ac yn sydyn, dyma hi’n ffrwydro ar agor mewn chwa o wynt. A beth oedd tu allan? Wel, miloedd ar filoedd o eiriau bach wrth gwrs. Geiriau a straeon, chwedlau a breuddwydion. Dyma nhw’n cael eu sugno i fyny trwy simnai bob tŷ yn y ddinas.  Dyma nhw’n cael eu tynnu o dudalennau llyfrau a’u sugno o feddyliau bobol a’u  llusgo drwy’r strydoedd tuag at y castell. Gwasgodd Ronald ei ddwylo dros ei glustiau wrth i’r gwynt chwipio drwy’r ystafell . Yna, dyma’r hudlath yn llyncu’r straeon i gyd, a chyda ‘SHLWP’ fawr, fe ddiflannodd pob stori i mewn i hudlath denau'r hen storïwr.

Wedi gorffen, a’r cyfan unwaith eto’n dawel, cododd yr hen ddyn, a chydio yn ei ffon a cherdded yn sigledig am allan. Fe wyddai y byddai’n rhaid iddo adael y castell a chwilio am rywle arall i fyw a cherddodd allan o’r castell a’i lyfr yn ei law a’r hudlath yn saff yn ei boced. Gwenodd Ronald yn fodlon. Roedd e wrth ei fodd. Dim rhagor o hen straeon dwl a mwy o amser i fwyta melysion a chwarae gyda'i ddraig anwes a’i deganau.
Drannoeth roedd hi’n dawel iawn yn y ddinas. Doedd gan neb lawer i’w ddweud.

Byddai’r gwragedd yn mynd â’u basgedi i’r farchnad i brynu hwn ar llall yn y boreau. Ond doedd dim bwrlwm yn y farchnad. Dim siarad. Dim clonc. Roedd y dynion yn dawel wrth eu gwaith a’r plant yn ffaelu’n deg â meddwl am gêm i’w chwarae. Doedd Ronald heb sylwi, roedd yntau’n rhy brysur yn bwyta melysion yn y castell.
Wrth i’r diwrnodau droi yn wythnosau, fe aeth pethau o ddrwg i waeth. Gan nad oedd straeon am bobl eraill i’w cael, doedd pobl ddim yn deall ei gilydd. Ac oherwydd nad oedden nhw’n deall ei gilydd, dechreuodd pobl gwympo mas. Yn araf bach, fe aeth y cwympo mas, yn ymladd ac ar ôl amser, fe aeth yr ymladd yn ryfel. Nawr, roedd pawb yn y ddinas yn drist ofnadwy. Doedd gan y mamau ddim bwyd i’w roi i’w plant; roedd y dynion wedi blino ar yr holl ymladd, ac roedd y plant yn ffaelu â chysgu heb stori i roi cysur yn y nos.

Un diwrnod, ar ôl bwyta pentwr arall o felysion, edrychodd Ronald allan o’r ffenestr a gweld fod pawb o’r ddinas yn sefyll ar lawnt y castell! Plant a dynion, menywod a merched, yn hen ac ifanc.

 ‘Ryn ni wedi cael llond bol o fod heb straeon!,’meddai nhw’n un côr. ‘Mae’n rhaid iti adael inni gael straeon. Roedd POPETH yn well pan oedd gennym ni straeon!’ Edrychodd Ronald arnyn nhw’n syn. Yn wir, fe roedd yntau wedi dechrau gweld eisiau ei straeon hefyd. ‘Ond,’meddai Ronald, ‘a’i lais wedi mynd yn fach fach. Dwi ddim yn gwybod lle mae’r Storïwr. Nes i ddweud wrtho fe am fynd â’r straeon i gyd!’ Edrychodd Ronald i lawr ar y wynebau llwydion ac fe wyddai bod rhaid iddo wneud rhywbeth.

Yna, dyma Ronald yn galw am ei ddraig anwes ac yn neidio ar ei chefn. Dyma fe’n sibrwd yn ei chlust a dyma hi’n hedfan i fyny i’r awyr. Yn wir, nid oedd Ronald wedi bod allan o’r castell am fisoedd ac fe wenodd wrth anadlu’r awyr iach. Ond lle oedd y storïwr? Dyma Ronald a’r ddraig yn hedfan yn ôl ac ymlaen uwchben y ddinas am hir ond doedd dim sôn am yr hen ddyn. Yna, fe hedfanodd y ddau dros goedwigoedd a llynnoedd, dros fynyddoedd a ffriddoedd ac yna, o’r diwedd, dyma Ronald yn gweld bwthyn bach gwyngalchog ar gopa mynydd. A beth wyddoch chi, oedd yn dod allan o’r simnai? Wel, geiriau bach duon, fel mwg. Dyma’r ddraig yn glanio o flaen y bwthyn ac aeth Ronald i gnocio ar y drws. O’r diwedd, dyma’r Storïwr yn dod i’w agor.

‘Dwi wedi bod yn ddwl,’ meddai Ronald. ‘Ma’n ddrwg gen i.’  ‘Dwi ddim yn rhy hen i gael stori. A dweud y gwir’, meddai gan wenu ar yr hen ddyn, ‘dwi ddim yn meddwl y bydda i BYTH yn rhy hen i gal stori.’

A dyma’r hen Storïwr yn neidio ar gefn y ddraig gyda Ronald ac yn hedfan yn uchel yn ôl tuag at y castell. Ac wrth i’r ddinas ddod i’r golwg, dyma’r Storïwr yn tynnu’r hudlath o’i boced ac yn arllwys y straeon gyd yn ôl i’r ddinas. Ac ar ôl hynny, roedd pawb yn hapus. Daeth pobl i ddeall ei gilydd yn well a pheidio â chwympo mas. Roedd y plant yn mynd i’w gwelyau yn gysurus ac fe wrandodd Ronald ar stori bob nos gan yr hen Storïwr. Gorchmynnodd Ronald y dylai’r ffatri melysion wneud melysion i bob plentyn bach ac fe rannodd ei deganau gyda’r plant tlawd yn y ddinas. Do, drwy wrando ar stori bob nos, fe dyfodd Ronald i fod yn dywysog hael a charedig fyddai’n cael ei garu gan bawb.

Y diwedd.

Rhannu |