Darllena.Datblyga

RSS Icon
03 Hydref 2014

Y Cymro yn cefnogi ymgyrch Darllena.Datblyga

Mae elusennau amlwg, sefydliadau, athrawon ac awduron plant wedi lansio cenhadaeth genedlaethol yng Nghymru i gael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025.

Mae'r glymblaid o'r enw Darllena.Datblyga, yn symbylu cenedl gyfan i chwarae ei rhan wrth wneud i hyn ddigwydd.

Darllen yw'r allwedd i ddyfodol plentyn; mae'n helpu i ddatgloi eu potensial ac yn agor byd o bosibiliadau a chyfleoedd. Fodd bynnag, bob blwyddyn, ‘mae pedwar o bob deg (40%) o blant 11 oed yng Nghymru yn meddu ar sgiliau darllen sydd o dan eu hoed cronolegol’ [Adroddiad Estyn 2010-11]. Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru sydd yn dangos Prawf Llythrenedd Cenedlaethol dangosir fod plant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddim yn llwyddo cystal â'u cyfoedion sydd yn darllen gyda’u rheini mewn ardaloedd mwy cefnog.

Mae adroddiad y glymblaid Darllena.Datblyga o’r enw ‘Darllen ar gyfer Dyfodol Teg’ wedi canfod hefyd y byddai CDG (Cynnyrch Domestig Gros) yn 2025 wedi bod £32 biliwn yn uwch petai camau wedi eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yn darllen yn dda erbyn iddynt gyrraedd 11 oed.

Canfu'r adroddiad hefyd:

* dywedodd 73% o'r merched rhwng 8 i 11 mlwydd oed eu bod wedi mwynhau darllen o gymharu â 59% o fechgyn.

* nid yw plant yn darllen digon y tu allan i’r ysgol, neu gyda'u tadau. Ymysg plant pum mlwydd oed y mae eu tadau yn darllen iddynt bob dydd, mae rhain hanner blwyddyn o flaen eu cyfoedion gyda’u darllen o gymharu â phlant sydd yn darllen unwaith yr wythnos.

Nod Darllena. Datblyga yw creu cenedl o ddarllenwyr cryf trwy:

* cefnogi rhieni i ddarllen gyda phlant ifanc am ddeng munud y dydd

* annog y cyhoedd i wirfoddoli i helpu plant dan anfantais i wella eu darllen

* adeiladu clymblaid bwerus o'r cyhoedd mwyaf dylanwadol, preifat a mudiadau elusennol i addo i gefnogi'r genhadaeth

* annog pob plaid wleidyddol i gefnogi targed 2025

Yn cefnogi'r genhadaeth mae nifer o awduron plant Cymru gan gynnwys Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Elin Meek, Manon Steffan Ros, Eurgain Haf, Jon Gower, Jenny Sullivan, Allan Cliff, Dan Anthony, Elen Caldecott, ac maent wedi darparu storïau 10-munud y gall rhieni fwynhau darllen gyda’u plant.

Dros yr wythnosau nesaf, ac mewn partneriaeth arbennig gyda’r glymblaid Darllena.Datblyga, bydd Y Cymro yn cyhoeddi'r straeon sydd wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg gan rai o’r awduron yma er mwyn annog plant a’u rhieni i fwynhau darllen.

Yn ôl yr awdures Caryl Lewis roedd y ffaith fod ei rhieni wedi darllen bob nos gyda hi pan yn blentyn wedi arwain at ei datblygiad fel awdur. A hithau yn fam i ddau o blant ifainc erbyn hyn, ame hithau yn olrhain yr un traddodiad: “Bob nos fe fyddai mam yn adrodd stori inni yn y gwely. Roedd e’n amser arbennig. Amser ni gyda mam heb neb arall yn mynd a’i sylw. Roedd y straeon yn meithrin dychymyg. Yn helpu gyda’n sgiliau iaith a hefyd yn helpu inni gysgu!

“Erbyn hyn dwi’n darllen i fy mhlant innau bob nos a hefyd yn ystod y dydd. Dwi newydd gyhoeddi llyfr o’r enw Sgleinio’r Lleuad. Dyma un o’r straeon oeddwn i’n ei hadrodd i’r plant pan oedden nhw’n fach iawn. Stori yw hi am Byrti a Bwbw sy’n byw ar y lleuad ac yn ei glanhau. Ond gan fod plant yn rhy brysur i edrych ar y lleuad a’i gwerthfawrogi erbyn hyn, mae Byrti a Bwbw yn penderfynu rhoi’r gorau i’w glanhau.”

Ychwanega yr awdur a'r darlledwr Jon Gower: "Mae methu â  darllen yn dda yn broblem sy'n tyfu, yn arbennig, mae'n ymddangos, mewn ardaloedd sydd eisoes yn dioddef anfantais economaidd a chymdeithasol. Mae'n broblem sydd angen ei thaclo er mwyn galluogi ein plant i gael bywydau da sy’n llawn boddhad a dyfodol boddhaol."

 

Dywedodd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, sy'n rhan o'r glymblaid: "Rhaid i ni weithredu nawr i newid y stori ar gyfer ein plant yng Nghymru. Mae Darllena. Datblyga yn ymwneud â phawb yn dod at ei gilydd i ysgrifennu’r bennod nesaf ac i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle teg a chyfartal i ddysgu darllen yn dda, beth bynnag eu cefndir.

"Rydym yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith drwy ei ‘Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol’ a’r ymgyrch 'Addysg yn Dechrau yn y Cartref'. Mae hyn yn cynnwys yr ymgyrch ‘Rho amser i ddarllen’ a lansiwyd yn 2010 sy’n hyrwyddo y gwahaniaeth mawr y gall rhieni ei wneud wrth ddarllen gyda’u plant am ddim ond deng munud y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd y ffaith ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer ein plant."

Ychwanega Dr Chris Howard, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yng Nghymru (NAHT) sy'n rhan o'r glymblaid: "Mae darllen yn dda yn datgloi y drws i greadigrwydd gydol oes, cyflogaeth a mwynhad o ddysgu. Nid yw deng munud y dydd yn llawer i'w sbario i blentyn ifanc iawn ond mae ysgolion yn sylweddoli bod llawer i'w wneud wrth adeiladu hyder ac ymroddiad yn eu cymunedau ehangach. Mae'r ymgyrch yn cynnig cyfle i ysgogi cefnogaeth i blant sydd ei angen fwyaf a byddai buddugoliaeth ar eu cyfer nhw yn fuddugoliaeth i Gymru."

Mae Achub y Plant hefyd yn gwahodd teuluoedd i ddigwyddiad rhad ac am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod gwyliau hanner tymor ar ddydd Iau 30 Hydref i ddathlu popeth sy'n hudolus am ddarllen. Yn ystod y dydd, bydd ystod eang o wynebau enwog gan gynnwys cyflwynydd CBeebies a anwyd yng Nghaerdydd Alex Winters a gwesteion arbennig gan gynnwys y Gruffalo, Winnie’r Wrach a Sali Mali yn galw heibio i gyfarfod â chefnogwyr ifanc.

Am fwy o wybodaeth am Darllena.Datblyga ac i arwyddo’r ddeiseb ewch i www.readongeton.org a www.savethechildren.org.uk/reading a dilynwch ni ar Twitter ar #DarllenaDatblyga.

I ddarllen y straeon cliciwch ar y linc Darllena.Datblgu sydd ar ohcr chwith Hafan Y Cymro. Mae'r gyntaf gan Caryl Lewis yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Rhannu |