Cerddoriaeth

RSS Icon
16 Chwefror 2012

Rhoi llais i’r dyfodol

Mae un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Pwyll ap Siôn, wedi ysgrifennu oratorio newydd sbon, Gair ar Gnawd, a fydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf erioed yn Galeri, Caernarfon ym mis Mawrth.

Bydd côr o 40 o gantorion o’r gymuned leol yn rhoi bywyd i’r gerddoriaeth a’r geiriau yn y ddrama operatig gyfoes newydd hon sydd wedi’i chreu gan Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn. Comisiynwyd Gair ar Gnawd gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Ers mis Hydref y llynedd mae’r côr wedi bod yn ymarfer yn brysur bob nos Lun yn paratoi ar gyfer dau berfformiad o’r oratorio. Nos Lun 12 Mawrth am 7.30pm bydd Gair ar Gnawd i’w gweld am y tro cyntaf erioed yn Galeri, perfformiad a fydd yn cael ei noddi gan Pendine Park, y sefydliad gofal sydd wedi ennill gwobrau. Ddydd Sul 18 Mawrth bydd cyfle arall i weld y cynhyrchiad yn y Stiwt, Wrecsam am 5.00pm.

Mae Gair ar Gnawd yn adrodd stori am ymrafael tebyg i Dafydd a Goliath rhwng datblygwyr casino mawr a chymuned leol sydd â’u bywoliaeth yn cael ei bygwth.

“Mae’n ymwneud ag iaith, ardal, hunaniaeth a’r hyn rydyn ni’n credu ynddo,” medd Pwyll. “Ond mae hefyd yn ymwneud â phobl yn dod ynghyd ac yn gweithio i wneud y byd yn lle gwell. Mae hyn i gyd yn digwydd drwy ddau brif gymeriad, Awen, tatŵydd ac Anwar, sydd wedi cyfieithu’r Beibl i bob iaith yn y byd.”

Cenir y prif rannau gan ddau aelod o Gorws enwog OCC, sef Siân Meinir (Awen) a Philip Lloyd Evans (Anwar). Ond mae libreto Menna’n llwyddo i ddod â nifer o leisiau eraill i mewn i’r gymysgedd, sef y gweithwyr adeiladu, y datblygwyr, cynghorydd lleol a chymuned sy’n awyddus i gael ei chlywed yn erbyn y rheiny sy’n cefnogi datblygiad tai atgas a diangen. Bydd y tapestri cyfoethog hwn o leisiau’n cael ei greu gan y côr cymunedol, sy’n cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Gwendoline a Margaret Davies.

Mae hwn yn brosiect arbennig i OCC, gan ei fod yn lansio tair blynedd o weithio yn y Gogledd. Bydd pob ymarfer yn Gymraeg – y tro cyntaf i’r Cwmni – ac mae’r tîm artistig, dan arweiniad Pwyll a Menna, ymhlith rhai o’r artistiaid uchaf eu parch ym myd cerddorol Cymru. Yn eu plith mae Jenny Pearson, Cyfarwyddwr Cerdd y Côr Cymunedol, Angharad Lee, y Cyfarwyddwr, a Sioned Webb, Pianydd yr Ymarferion.

Meddai Mario Kreft, perchennog Pendine Park a Hyrwyddwr Cymunedol OCC: “Mae Gair ar Gnawd yn brosiect cyffrous sy’n sicr yn cyd-fynd â’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Pendine Park, lle mae mwynhau’r celfyddydau’n helpu i wella ansawdd bywyd i’n trigolion. Mae OCC yn gwmni o safon fyd-eang sy’n rhoi llawer iawn o bleser i lawer o bobl, ac mae’n wych ei weld yn estyn allan fel y gall hyd yn oed mwy o bobl yn y gymuned fod yn rhan ohono."

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn wirioneddol at ddatblygu ymhellach ein perthynas ag OCC gyda charreg filltir ddiwylliannol mor arwyddocaol â Gair ar Gnawd,” meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Galeri. “Roedd yr opera siambr Red Flight Barcud gan OCC yn un o’r digwyddiadau artistig cyntaf yn y ganolfan, ac o ganlyniad mae i’r cwmni le arbennig yn ein calonnau. Roeddem yn awyddus i’r Cwmni ddod yn ôl ryw ddydd gyda phrosiect a fyddai’n edrych ar themâu fel iaith a hunaniaeth - a dyma nhw! Rydyn ni hefyd wrth ein bodd i fod yn estyn allan i’r gymuned leol, a fydd yn rhan sylfaenol o’r digwyddiad artistig arloesol hwn.”

Rhannu |