http://www.y-cymro.comY CymroCalan yn rhyddhau pedwerydd albwm
Mae Calan, y band o Gymru sydd wedi ennill clod am eu sain pop-gwerin swmpus a'u hegni gwefreiddiol, ar fin rhyddhau eu pedwerydd albwm: 'Solomon'.

Wedi eu hysbrydoli gan straeon a chwedlau Cymru, maent yn plethu alawon traddodiadol gyda churiadau cyfoes, wrth i’r delyn, gitâr, acordion a’r ffidlau chwalu’n ddigyfaddawd drwy’r hen ganeuon.

Arbrofi yw'r gêm i Calan – y nod yw rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth ein cyndeidiau - cewch ddawnsio, neidio, a gollwng eich peint i fiwsig na wyddoch ei fod yn 200 oed!

'Kân' yw trac agoriadol yr albym newydd – cân sy’n cynnwys harmoniau brodorol arswydus yr hen ganu pwnc – hanner canu, hanner llafar-ganu ac mi glywir yn aml ers stalwm wrth adrodd salmau yng nghapeli Sir Benfro. 30 eiliad yn ddiweddarach, mae'r cwbl wedi trawsnewid i mewn i rap ddwyieithog i gyfeiliant curiadau hip-hop llesmeiriol.

Er hyn, mae Calan yn dal i barchu'r hen gerddoriaeth, ac o dro i dro maent yn cofio i'w chwarae yn dryw i'r traddodiad…nes i'r bâs gicio nôl i mewn unwaith eto!

Mae'r sengl, 'Apparition' (ynghyd â fideo newydd) yn olrhain hanes y tylwyth teg.

Yn ôl dyddiaduron y Parch. Edmund Jones, daroganwr yng Nghymru yn y deunawfed ganrif, nid creaduriaid swynol a phert mo rhain, ond cythreuliaid arswydus fyddai'n herwgipio pobl ar eu ffordd yn ôl o'r dafarn min nos.

Dywedir eu bod wedi ffoi gyda dyfodiad y diwydiant haearn a glo, ond mae Calan yn cadw'r atgofion yn fyw gyda ffidlau ffrwydrol, offer taro trwm a dawnsio cyfoes.

Mae 'Solomon’ yn adrodd hanes dyn sy'n gweiddi am gymorth Beiblaidd gan ei fod yn methu'n lân a bachu hogan – dim Tinder i'w helpu yn yr hen ddyddiau!

Cawn hefyd y clasur 'Pe Cawn i Hon', ond y tro yma i gyfeiliant Ffender Stratocaster ac amp vintage

'The Big D' sy’n cloi’r albym, ac mae’n agor gyda dawns glocsen fodern – stepiau traddodiadol y bencampwraig Beth yn asio'n berffaith gyda synau sosbenni, padellau a size 15s byddarol Patrick.

Dyma gerddoriaeth sydd wir yn hanesyddol, ac yn ddarn annatod o arlwy draddodiadol cyfoethog Cymru.

Er bod Calan yn hen ddigon gwybodus am y sachbib Gymreig, a'i bwysigrwydd o fewn y traddodiad...prif nod eu defnyddio yw byddaru’r rhai sy'n gwrando.

Rhyddheir ‘Solomon’ 14 Ebrill cyn i Calan fentro ar daith – gan berfformio mewn 26 o leoliadau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban ym mis Ebrill a Mai – ac yna ymlaen i Borneo Rainforest Festival, Denmarc, UDA, Tsiena, Awstralia a Phortiwgal - mae'n dipyn o newid o'u dyddiau cynnar yn bysgio ar strydoedd Caerdydd!

Noson lansio – 14 Ebrill yn Buffalo Bar, Caerdydd – mynediad am ddim. Alun Gaffey yn westai gwadd a set gan Calan.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/5193/
2017-03-31T00:00:00+1:00Cyfle i ennill Tlws Sbardun a £500
Unwaith eto eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cystadleuaeth i wobrwyo cân werinol ac acwstig ei naws, gyda Thlws Sbardun a £500 yn wobr i’r enillydd.

Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru, fel un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf.

Elidyr Glyn, cerddor ifanc o ardal Caernarfon oedd enillydd cyntaf y wobr y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, a derbyniodd dlws hyfryd o waith yr artist, Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn.

Dros y misoedd diwethaf, mae Elidyr wedi bod yn perfformio ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â chael cyfle i recordio sesiwn arbennig ar gyfer BBC Radio Cymru fel enillydd cyntaf Tlws Sbardun, fel rhan o gyfres o sesiynau gan nifer o artistiaid.

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o gynnal cystadleuaeth Tlws Sbardun unwaith eto eleni.

"Roedd safon y gystadleuaeth y llynedd yn arbennig o uchel, gyda nifer yn haeddu derbyn y Tlws, a gobeithio y gwelwn gystadleuaeth o’r un anian eto eleni ym Môn.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwenno a chyfeillion Sbardun am gynnig y gystadleuaeth, gan roi cyfle i berfformwyr a chyfansoddwyr Cymraeg fynd ati i greu cân newydd a gwreiddiol.

"Roedd cyfraniad Sbardun i’r sîn ac i Gymru yn enfawr, a braf yw gwybod bod modd dathlu hyn unwaith eto eleni drwy’r gystadleuaeth hon.”

1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth a dylid cyflwyno’r gân ar gryno-ddisg neu MP3. Caniateir cywaith.

Mae ffurflenni cais ar gael yn y rhestr testunau neu ar-lein, http://www.eisteddfod.cymru/cystadlu/rhestr-testunau

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Linda Griffiths a Dewi Pws.

Mae’r Tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.

Llun: Alun ‘Sbardun’ Huws

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/5076/
2017-02-28T00:00:00+1:00Rebecca Evans yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd Rebecca Evans yn ymuno â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddathlu nawddsant Cymru yn Neuadd Dewi Sant.

Bydd y soprano a’r artistiaid newydd addawol Joshua Owen Mills a Charlie Lovell-Jones yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru gyda cherddoriaeth gan Syr Karl Jenkins, Paul Mealor, Ivor Novello, Morfydd Owen a Joseph Parry.

Ac yntau’n enillydd y fedal gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yn un o feiolinwyr mwyaf addawol y DU, mae Charlie Lovell-Jones, 18 o Gaerdydd, yn dod â’r ddwy sgil i'r llwyfan mewn perfformiad arbennig o gyfansoddiad newydd gyda Rebecca o’r enw Cariad Cyntaf.

Dywedodd Rebecca Evans: "Dwi'n credu bod yr awyrgylch yn mynd i fod yn drydanol.

"Bydd y gerddoriaeth a ddewiswyd yn ysgogi hynny yn sicr, yn enwedig gyda thonau godidog Cerddorfa'r BBC, yn un o'r neuaddau cyngerdd gorau yn y byd (a enwyd ar ôl ein Nawddsant).

"Dylai fod yn gyngerdd i'w fwynhau ac yn gyngerdd i'w gofio.

"Dwi wedi adnabod Charlie ers tipyn a dwi wrth fy modd ag ef.

"Mae e mor anhygoel o dalentog ac mae'n chwarae'r ffidil mor ddiymdrech.

"Mae cerddoriaeth yn arllwys allan ohono - mae'n wych ei fod yn gyfansoddwr o fri hefyd."

Ychwanegodd Rebecca: "Dwi'n edrych ymlaen yn arw at ganu gyda Joshua Owen Mills.

"Mae e mor dalentog a byddwn ni'n canu un o'r deuawdau Cymraeg hynaf erioed a fydd yn gymaint o hwyl, yn enwedig i mi, gan fod fy hen fam-gu wedi chwarae'r piano ym mherfformiad cyntaf erioed o Hywel a Blodwen, gyda Joseph Parry ei hun ar y podiwm!"

Dywedodd Charlie Lovell-Jones: "Dyma'r tro cyntaf i mi berfformio fy ngherddoriaeth fy hun gyda cherddorfa, a dwi'n gyffrous tu hwnt.

"Mae cael y soprano byd enwog Rebecca Evans yn canu fy ngherddoriaeth yn freuddwyd.

"Dwi wedi gweithio gyda Rebecca o'r blaen ac roeddwn i'n ymwybodol o sut y gallai ei llais ychwanegu at fy ngherddoriaeth.

"Mae'r darn lleisiol yn heriol iawn ac yn llawn lliw, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed Rebecca yn dod â fy nodau i'n fyw."

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau, ewch i http://bbc.co.uk/bbcnow neu ffoniwch Linell Cynulleidfaoedd y BBC ar 0800 052 1812.

Lluniau: Rebecca Evans, Charlie Lovell-Jones a Joshua Owen Mills

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/5053/
2017-02-23T00:00:00+1:00Gwobrau’r Selar: Y Bandana’n brif enillwyr
Y grŵp nad ydynt mwyach, Y Bandana, oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar mewn noson enfawr arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn.

Cipiodd y grŵp o ardal Caernarfon, a chwalodd yn hydref 2016, bedair o wobrau ar y noson – Record Hir Orau, Gwaith Celf Gorau, Cân Orau a Band Gorau.

Mae’r grŵp wedi bod yn un o’r rhai amlycaf, a mwyaf poblogaidd yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac maen nhw wedi ennill teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar deirgwaith yn y gorffennol yn 2010, 2011 a 2012.

Mae’r aelodau i gyd wedi bod yn gweithio ar brosiectau amgen yn ddiweddar a cyhoeddwyd y byddai Y Bandana’n dod i ben gyda gig olaf yng Nghaernarfon ym mis Hydref.

Roedd Gig Olaf Y Bandana ar restr fer categori ‘Digwyddiad Byw Olaf’ y gwobrau, ond cipiwyd y wobr honno gan Maes B, a ddaeth i’r brig hefyd yng nghategori’r ‘Hyrwyddwr Gorau’.

Cafodd Yws Gwynedd noson dda hefyd yn cipio dwy wobr sef ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am fideo ei sengl ‘Sgrin’, gan hefyd ennill teitl ‘Artist Unigol Gorau’ am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd yn noson gofiadwy iawn i’r grŵp ifanc o Bwllheli, Ffracas, wrth iddyn nhw gipio’r wobr am y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ yn ogystal â ‘Record Fer Orau’ am eu EP cyntaf, Niwl.

Yn y categorïau eraill ar y noson, cipiodd Osian Williams o Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog a Siddi y wobr am yr ‘Offerynnwr Gorau’, a Lisa Gwilym ddaeth i’r brig yn y bleidlais dros y ‘Cyflwynydd Gorau’.

“Teg dweud bod heno wedi bod yn noson gofiadwy arall, ac mae mor braf gweld dros 1000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg,” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Holl egwyddor Gwobrau’r Selar ydy bod yr enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais boblogaidd, a does dim amheuaeth bod Y Bandana wedi bod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd hanes y sin Gymraeg. Y nhw ydy grŵp mwyaf llwyddiannus hanes Gwobrau’r Selar, ac mae’n briodol eu bod nhw’n cipio llond trol o wobrau ym mlwyddyn olaf y grŵp. Maen nhw wedi bod yn grŵp pwysig, ac yn haeddu’r clod yma.”

Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2016:

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana

Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Yws Gwynedd

Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Ffracas

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn): Maes B

Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Osian Williams

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Fel Tôn Gron – Y Bandana

Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Y Bandana

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Fel Tôn Gron – Y Bandana

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Niwl - Ffracas

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Sgrin – Yws Gwynedd

Llun: Y Bandana a’r wobr ‘Record Hir Orau (Y Selar)

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/5034/
2017-02-20T00:00:00+1:00Y Blew, Jarman a Wicipop
Yn ogystal â dathlu llwyddiant y sin gyfoes, fe fydd Gwobrau’r Selar yn talu teyrnged ac yn dathlu treftadaeth y sin bop Gymraeg ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror.

Mae’r Gwobrau’n cael eu cysylltu’n bennaf â llwyddiant artistiaid cyfoes, ond eleni bydd cyfle i ddysgu mwy am seiliau yr hyn sydd gennym heddiw gyda chyfres o weithgareddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd eisoes bod Geraint Jarman i dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni, gan gydnabod ei gyfraniad aruthrol o bwysig i ganu cyfoes Cymraeg dros y 40 mlynedd diwethaf.

Yn ogystal â pherfformio ym Mhantycelyn ar nos Wener 17 Chwefror, bydd Geraint yn cynnal sgwrs arbennig gydag Emyr Glyn Williams o Recordiau Ankst Musik ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd ail sgwrs yn cael ei chynnal yn Y Drwm hefyd, wrth i Rhys Gwynfor holi Dafydd Evans o grŵp arloesol Y Blew – y grŵp roc electronig Cymraeg cyntaf a ffurfiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth union hanner can mlynedd yn ôl.

Bydd nifer o weithgareddau eraill yn y Llyfrgell yn ystod y dydd gan gynnwys arddangosfa o femorabilia Y Blew a Geraint Jarman sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell, teithiau tywys o’r archifau cerddoriaeth a sesiynau arbennig gan Wicipedia i annog pobl i gyhoeddi mwy o gynnwys am gerddoriaeth Gymraeg ar y gwyddionadur ar-lein.

Dysgu am hanes y sin

“Er mai dathlu llwyddiant y presennol ac edrych ymlaen i’r dyfodol ydy prif amcan Gwobrau’r Selar, rydan ni’n awyddus iawn i bobl sy’n dilyn y sin ddysgu mwy am yr hanes,” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Mae sefyllfa’r sin yn iach iawn ar hyn o bryd, ac yn gryfach nag erioed o safbwynt safon a dyfnder yr artistiaid.

"Ond dwi’n credu ei bod yn bwysig i bobl ddysgu am yr hyn sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol – mae’r datblygiad dros yr hanner can mlynedd ers i’r Blew arloesi trwy ffurfio fel grŵp roc Cymraeg yn rhyfeddol, ac mae’r sori’n un ddifyr dros ben.”

Wicipop

Ar hyn o bryd mae Wicipedia Cymru’n cynnal ymgyrch arbennig i gynyddu’r cynnwys a gwybodaeth am gerddoriaeth Gymraeg ar y gwasanaeth.

Bydd sesiynau’n cael eu cynnal i gyflwyno pobl i’r gwasanaeth a sut i fynd ati i greu cynnwys pop Cymraeg o 10:00 ymlaen, ac mae paned a thamaid i’w fwyta i unrhyw un sy’n galw mewn.

“Mae Wicipop yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau Gwobrau Selar ac mae croeso mawr i bawb fynychu’r ‘Golygathon’ Wicipop,” meddai Jason Evans, Wicipediwr Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Dysgu sut i olygu Wicipedia, cyfoethogi’r cofnod o’r sin pop yng Nghymru a chyfle i fwynau pryd o fwyd am ddim yn y fargen!”

Cyfoeth cerddorol y Llyfrgell

Nid dim ond llyfrau sy’n Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth gwrs, mae casgliad eang o archifau ffilm, sain, celf weledol ac amrywiol eraill rhwng y muriau.

Bydd teithiau tywys arbennig yn ystod y dydd yn rhoi cyfle i bobl gael blas o’r eitemau cerddorol difyr sydd yn yr archif.

“Mae cyfoeth o eitemau’n ymwneud â’r sin gerddoriaeth Gymraeg yma, ac mae’r teithiau tywys fydd yn digwydd am 11:30 a 15:30 yn gyfle gwych i gael blas o’r rhain,” meddai Dan Griffiths o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

“Rydym hefyd yn paratoi arddangosfa fach aml-gyfrwng o eitemau Y Blew a Geraint Jarman yn benodol fydd i’w gweld rhwng Dydd Miwsig Cymru ar 10 Chwefror, a phenwythnos Gwobrau’r Selar.”

Bydd y gweithgareddau uchod i gyd yn digwydd rhwng 10:00 a 16:00 ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror, ac mae mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar a digwyddiad Facebook Gwobrau’r Selar.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4991/
2017-02-03T00:00:00+1:00Cwlwm Celtaidd 2017 yn cynnal cystadleuaeth corau plant
Cynhelir cystadleuaeth corau plant am y tro cyntaf fel rhan o’r ŵyl ryng-Geltaidd Cwlwm Celtaiff ar 12 Mawrth, ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.

Bydd plant ysgolion cynradd o dde Cymru yn cael y cyfle i berfformio a chystadlu yng nghystadleuaeth corawl cyntaf Cwlwm Celtaidd. Bydd plant ifanc dan 11 oed yn perfformio caneuon o draddodiadau gwerin o Gymru a thu hwnt.

Bydd y gystadleuaeth gorawl yn ychwanegu at gystadleuaeth Cerddor Ifanc yr Ŵyl sydd wedi bod yn croesawu offerynwyr ifanc, 10 i 18 oed, o’r gwledydd Celtaidd i gystadlu a pherfformio.

Enillydd Cerddor Ifanc yr Ŵyl yn 2016 oedd Aneirin Jones, ffidlwr 18 oed o Bontardawe.

Bydd Aneirin yn perfformio gydag enillydd y wobr yn 2015, Dylan Cairns-Howarth yn yr ŵyl eleni.

Dywed Aneirin: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad hynod o wych wrth i bob beirniad roi cyngor ynglŷn a fy mherfformiad, boed yn sylwad technegol neu sut i wella fy mherfformiad ymhellach.

"Fu'n gyfraniad enfawr i’r ffordd rwy’n ymdrin, perfformio ac ymarfer fy repertoire.”

Ymysg y perfformwy yr yr ŵyl eleni mae Jamie Smith’s Mabon a Calan.

Llun: Aneirin Jones gyda beirniaid y gystadleuaeth y llynedd

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4968/
2017-01-30T00:00:00+1:00Calan a Jamie Smith’s Mabon yw prif artistiaid Cwlwm Celtaidd 2017
Y bandiau gwerin-Geltaidd Calan a Jamie Smith’s Mabon yw prif artistiaid Gŵyl Ryng-Geltaidd Cymru eleni.

Bydd Calan a Jamie Smith’s Mabon yn ymuno ag artistiaid eraill i berfformio ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar Fawrth 10-12fed, ar gyfer yr ŵyl flynyddol sy’n dathlu cerddoriaeth a dawns o’r gwledydd Celtaidd.

Am benwythnos cyfan bydd modd mwynhau perfformiadau, gweithdai, dawnsio stryd yn ogystal â dangosiad o gêm rygbi 6 Gwlad Cymru v Iwerddon ar sgrin fawr am ddim ond £25.

Mae’r band gwerin ifanc o Gymru, Calan, wedi gwneud enw i’w hunain ym Mhrydain a thu hwnt. Byddant yn hyrwyddo eu halbwm newydd, ‘Solomon’ ar daith byd eang yn fuan. Bydd cyfle i glywed blas o'r deunydd newydd yn Cwlwm Celtaidd ar nos Sadwrn, Mawrth 11eg.

Dywed Angharad Jenkins, sy’n chwarae ffidil i Calan; "Dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Cwlwm Celtaidd eleni.

"Mae e’n bleser i fod yn rhan o ŵyl Gymreig, sy’n dathlu cerddoriaeth a dawns y gwledydd Celtaidd i gyd. Yn ogystal â hynny, mae’n braf i gwrdd â hen ffrindiau o Ynys Manaw, Yr Alban a mwy, a hynny ar ein stepen drws. Dwi’n siŵr fydd 'na barti mawr i’w gael ym Mhorthcawl dros y penwythnos!”

Ar nos Wener, Mawrth 10fed, bydd cyfle i fwynhau gêm rygbi 6 Gwlad Cymru v Iwerddon mewn noson hwyliog o gerddoriaeth a dawns gyda pherfformiad gan Jamie Smith’s Mabon i gloi’r noson.

Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y cyngherddau, neu docyn penwythnos ar wefan Pafiliwn y Grand.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4928/
2017-01-18T00:00:00+1:00Prosiect cydweithiol Bendith yn mynd ar daith
Mae prosiect cydweithiol y bandiau Cymraeg Colorama a Plu, ‘Bendith’, yn cael ei ryddhau - eu halbwm gyda thaith a fydd yn ymweld â Salford, Caernarfon a Chaerdydd yr wythnos nesaf.

Wedi adolygiadau da ar gyfer eu sengl ‘Danybanc’ a gafodd ei ryddhau’n ddigidol ar 9 Mai, bydd yr albwm ‘Bendith’ yn cael ei ryddhau ar 7 Hydref, gyda’r prosiect yn ymweld â Eglwys Sacred Trinity Salford ar 6 Hydref, Galeri, Caernarfon ar 7 Hydref ac Eglwys St Ioan, Treganna ar 8 Hydref.

Dywed Marged Rhys o Plu: “Rydym wedi’n cyffroi ac yn edrych ymlaen yn fawr i fynd â Bendith ar daith a chael ensemble anhygoel yn ymuno ar y llwyfan.

"Dyma’n unig gigs yng Nghymru fel Bendith yn y dyfodol agos felly rydym yn gobeithio gweld cymaint o bobl a phosib i’n clywed yn fyw.”

Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan wreiddiau – ymdeimlad o le, teulu a chartref.

Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely.

Wedi ei ryddhau ar label Agati, bydd yr Albwm ar gael ar ffurf CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify, Amazon o Hydref 07, 2016 ac eisoes ar gael o siopau lleol.

Mae tocynnau ar gael o wefan www.bendith.cymru

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4385/
2016-09-29T00:00:00+1:00Cian Ciáran yn edrych ymlaen at ddathlu ail-lansiad Fuzzy Logic y Super Furry Animals
MAE hi ychydig dros flwyddyn ers i Cian Ciarán ddychwelyd i’r sin cerddorol gyda’r Super Furry Animals yn dilyn seibiant estynedig.

Ar ôl yr ‘hiatus’ o chwe blynedd, gofynnais i Cian, sy’n wreiddiol o Bentraeth, Ynys Môn, os oedd o wedi disgwyl cymaint o groeso nôl efo’r band.

Meddai: “Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i ddisgwyl. Ar ôl chwe blynedd i ffwrdd, doeddem ni ddim yn gwybod os oedd pobl yn dal yn ymwybodol ohonom. Ond, ie, roedd o’n groeso cynnes ac yn galonogol iawn. Fe wnaeth i ni eisiau dyfalbarhau a gwneud mwy.

“Y llynedd, fe wnaethom ddwywaith cymaint ag yr oeddem wedi’i gynllunio, ac mae pethe wedi treiddio i mewn i’r flwyddyn hon.”

Rŵan, mae’r grŵp newydd gyhoeddi taith newydd ar ddiwedd y flwyddyn, i chwarae eu sioeau mwyaf ers blynyddoedd, gan gynnwys noson yn y Roundhouse yn Llundain a noson arbennig yn y Motorpoint yng Nghaerdydd.

Nod y daith fydd dathlu ail-lansiad eu halbwm cyntaf, Fuzzy Logic.

“Mae’n 20 mlynedd ers dechreuodd y cyfan ac i Fuzzy Logic gael ei ryddhau,” meddai Cian.

Mae’r fersiwn newydd o Fuzzy Logic yn cynnwys record finyl a thraciau bonws o’r archifau i gyd-fynd â’r fersiwn wreiddiol.

Bydd ffyddloniaid y grŵp yn dal i gofio’r gigs mawr a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Bangor a’r Pafiliwn yn Llangollen flynyddoedd yn ôl, ond fydd y band yn ymweld â gogledd Cymru y tro yma?

“Gŵyl Rhif 6 yw’r prif ddigwyddiad cyn belled ag y mae gogledd Cymru yn y cwestiwn ar hyn o bryd. Mi fasa gwneud sioe ein hunain yn y gogledd yn wych ond, am y tro, y prif ffocws yw perfformio sioe wych yng Ngŵyl Rhif 6.”

Dyma’r tro cyntaf i’r Super Furry Animals chwarae yng Ngŵyl Rhif 6 ac mae’n swnio fel bod Cian yn edrych ‘mlaen at y gig.

“Mae gen i lawer o atgofion melys o Bortmeirion,” meddai. “Fel hogyn ifanc, dwi’n cofio cael amser gwych yn chwarae yno; i mi mae’n lle cyfarwydd.

“Es i i’r ŵyl ychydig o flynyddoedd ac mi wnes i fwynhau; mae’n lleoliad swreal sy’n addas i gerddoriaeth y band.

“Dydan ni heb chwarae yn y gogledd orllewin ers Pesda Roc yn 2004.

“Mae tri allan o bump ohonom yn dod o’r gogledd, felly mae’n achlysur arbennig.

“Er fy mod i’n byw yng Nghaerdydd rŵan, dwi’n dal i weld gogledd Cymru fel cartref.”

Ar ôl ffurfio yn 1993 ac yna arwyddo gyda’r label Creation yn 1995 (label Oasis a Primal Scream), fe gafwyd llwyddiant masnachol gyda’u halbwm cyntaf Fuzzy Logic.

A wnaeth y bachgen diymhongar o Bentraeth ddisgwyl y fath lwyddiant, mor fuan?

“Dim rili. Cymerais flwyddyn allan o’r coleg i wneud y mwyaf o’r cyfle gan feddwl y gall hyn fod fy unig gyfle.

“Ymhen dim roddem ni yn Stiwdios Rockfield yn recordio. Roedd bod mewn stiwdio yn beth eitha’ cyfarwydd ond roedd cael y cyfle i recordio mewn stiwdio mor eiconig a chyfoethog mewn hanes yn brofiad yn ei hun.”

Gyda Fuzzy Logic yn ennill canmoliaeth eang ac yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar y radio, cychwynnodd y Super Furries ar gam nesaf eu taith wrth ddechrau’r gwaith ar eu halbwm nesaf, Radiator.

Erbyn hyn, roedd Cian yn perfformio ar Top of The Pops ac yn wyneb rheolaidd yn yr NME a’r cylchgrawn Melody Maker.

Ond, sut ddigwyddodd hyn i gyd? Sut ddechreuodd y Super Furries?

“Roedd fy mrawd yn chwarae drymiau i Catatonia ar y pryd ac wedi bod isio dechrau’r SFA ers perth amser.

“Roeddwn i newydd symud i Gaerdydd yn 1994, roedd Gruff hefyd newydd symud i Gaerdydd ar ôl cyfnod yn byw yn Barcelona (Roedd Bunf a Guto eisoes yno wrth gwrs).

“Roedd yr hogiau wedi recordio ychydig o demos gyda Rhys Ifans yn canu ac roeddent wedi bod yn recordio llawer o synths ac effeithiau gwahanol, felly roedd angen pumed aelod er mwyn ymgorffori’r miwsig i mewn i sioe fyw.

“Roeddem yn ymarfer o dan y bwâu rheilffordd yn y dref neu yn hen stiwdio ‘Big Noise’.

“Roedd o’n hwyl ond roedd pawb yn dal i ganolbwyntio ar y miwsig.

“Chwaraeodd y band dair gig cyn i mi ymuno â nhw. Erbyn iddynt ddechrau chwarae’n fyw roedd Rhys wedi gadael i ddilyn ei yrfa actio ac roedd Gruff yn canu.

“Fy ngig gyntaf gyda’r band oedd mewn lleoliad o’r enw The Monarch yn Llundain. Yn fuan ar ôl hynny, mi wnes i lofnodi gyda’r label. Mae gen i fy mrawd i ddiolch a’r ffaith yr oeddwn yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

“Rhoddais gynnig i astudio cerddoriaeth ym Manceinion ond nid oedd lle i fi yno, ond cefais gynnig lle mewn ysgol ffilm yng Nghasnewydd.

“Dyna sut wnes i lanio yng Nghaerdydd. Bryd hynny, roedd pawb yn mynd i’r un clybiau ac i mewn i’r un gerddoriaeth. Mae’n debyg mai tynged oedd o!” eglurodd gyda’i acen ogleddol sydd mor gryf ag erioed .

Yn ystod ei yrfa fel cynhyrchydd, mae Cian wedi gweithio gyda sawl artist yn cynnwys y Kaiser Chiefs a’r Manic Street Preachers; mae o hefyd wedi ennill gwobr BAFTA am y trac sain i Pen Talar.

Fel disgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, beth oedd ei obeithion a’i uchelgeisiau bryd hynny?

“Fel y rhan fwyaf o hogia’ yn eu harddegau, nid oeddwn yn gallu aros i adael yr ysgol,” meddai gan chwerthin.

“Ar ôl ysgol mi es i goleg celf ym Mangor. Roeddwn yn byw am y penwythnos, pryd byddem yn mynd i bartïon mewn coedwigoedd ac ar draethau.

“Hefyd, dechreuais arbrofi gyda gwneud cerddoriaeth o amgylch yr amser yma gyda grŵp electronica o’r enw Wwzz, roedd hyn yn rhan fawr o fy addysg gerddorol.

“Roedd hi’n amser cyffrous i gerddoriaeth, roedd ‘Acid House’ yn gwneud ffordd i ‘Tecno’ a ‘Hardcore’ yn datblygu i ‘Jungle’ ac yn ei dro i ‘Drum and Bass’.”

Ar ôl gadael Coleg Menai ym Mangor, aeth Cian i astudio ffilm yng Nghasnewydd, cyfrwng sy’n dal yn ei swyno hyd heddiw.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi gwneud ychydig o draciau sain i gyd-fynd â chynyrchiadau teledu a ffilm.

“Hoffwn wneud mwy o hyn gan y bydd yn gyfle da i weithio gyda ffilm eto.

“Cefais fy swyno gan ffilm ers gwylio ffilmiau Scorsese a Kubrick.

“Dwi wastad wedi bod â diddordeb, dyna pam wnes i benderfynu gwneud ffilm yn y coleg.

“Mi faswn wrth fy modd cyfarwyddo ffilm un diwrnod, fodd bynnag, mae’n fyd newydd i mi, felly, am y tro, dim ond breuddwyd yw hi!”

Yn fwy diweddar, mae Cian wedi gorffen ei sgôr gerddorfaol lawn gyntaf yn seiliedig ar yr hen stori garu drasig yn Nant Gwrtheyrn, Rhys a Meinir.

“Roedd gennai syniadau a chaneuon yr oeddwn wedi bod yn eu casglu a’u cofnodi ers blynyddoedd.

“Yna, tua phum mlynedd yn ôl, penderfynais wneud defnydd o’r traciau hyn drwy edrych ar ychydig o wahanol lwybrau i wireddu’r prosiect.

“Clywais stori Rhys a Meinir yn fachgen ifanc, gan fy nhad, felly mi wnaeth daro tant dwfn gyda mi.

“Ar ôl ambell i wrthodiad a chyfres o gyfarfodydd mi gefais fy nghyflwyno i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

“Roedd yn broses hir ac yn gromlin ddysgu serth,” esboniodd, “ond, gobeithio y bydd yn werth yr ymdrech!”

• Mae’r Super Furry Animals yn chwarae Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ar nos Sul, 4 Medi.

• Bydd Rhys a Meinir yn cael ei berfformio yn Pontio, Bangor ar 19 Tachwedd.

Llun: Cian Ciarán gan KAREN F

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4146/
2016-08-23T00:00:00+1:00Colorama a Plu yn rhyddhau Bendith
Mae albwm prosiect cydweithiol y bandiau Cymraeg Colorama a Plu, Bendith, yn cael ei ryddhau yn fuan.

Wedi adolygiadau da ar gyfer eu sengl Danybanc a gafodd ei ryddhau’n ddigidol o 9 Mai, bydd yr albwm Bendith yn cael ei ryddhau ar 7 Hydref gyda’r prosiect yn mynd ar daith yr un wythnos.

Dywed Carwyn Ellis o Colorama: “Rydym i gyd mor falch o’r albwm – mae wir yn gywaith berffaith o gerddoriaeth Plu a’n un innau gyda llawer o bwyslais ar harmonïau lleisiol ac offeryniaeth wahanol.”

Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan wreiddiau – ymdeimlad o le, teulu a chartref gyda rhan helaeth o’r caneuon wedi eu seilio ar ardal benodol o Sir Gaerfyrddin sy’n agos iawn at galon Carwyn ac wedi enwi nifer o’r caneuon.

Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely.

Mae llawer o gerddorion eraill yn ymddangos ar yr albwm gan gynnwys Georgia Ruth a Patrick Rimes sy’n ychwanegu naws mwy cerddorfaol i’r caneuon.

Dywed Elan Rhys o Plu: “Rydym mor falch o’r caneuon ac yn ddiolchgar iawn i Mason am sgorio rhannau cerddorion ychwanegol.

"Maen nhw wir yn ychwanegu rhywbeth i’r gerddoriaeth sy’n anfon ias lawr fy nghefn i!”

Wedi ei ryddhau ar label Agati, bydd yr albwm ar gael ar ffurf CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify, Amazon o 7 Hydref.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/4090/
2016-08-15T00:00:00+1:00Burum yn rhyddhau trydydd albwm o'r enw 'Llef
Bydd Burum yn rhyddhau eu trydydd albwm o'r enw Llef ym mis Mai.

Er taw emyn adnabyddus yw Llef, gwneuthiriad gweddill yr albwm yw trefniannau jazz newydd o hen alawon gwerin Cymraeg.

Recordiwyd y CD yn Sir Benfro, gydag Owain Fleetwood-Jenkins, ar benwythnos oer ym mis Ionawr. Fel ar ei ddau CD blaenorol (Alawon, 2007 a Caniadau, 2012) mae Burum yn parhau i greu cerddoriaeth newydd, cyffrous ac arloesol allan o hen alawon traddodiadol Cymraeg.

Mae Burum ar daith o Gymru i hyrwyddo'r CD newydd, a byddant yn perfformio yn Y Cŵps, Aberystwyth ar Nos Iau 19eg o Fai, Tafarn y Fic, Llithfaen ar nos Wener 20fed o Fai ac yn y Blue Sky Cafe, Bangor ar nos Sadwrn 21ain o Fai. Bydd yr holl gyngherddau yma yn dechrau am 8pm.

Mae Burum y cael ei arwain gan y trwmpedwr Tomos Williams (Fernhill) a'i frawd Daniel Williams ar y tenor sacs, ac mae'r band yn cynnwys sŵn unigryw Ceri Rhys Matthews (Fernhill) ar y ffliwt bren, sydd yn gosod sŵn y band tu allan i fyd y chwechawd jazz arferol, ac yn fwy yn y byd gwerinol.

Cynhwysa Llef nifer o alawon gwerin adnabyddus fel Titrwm Tatrwm, Y Gwydr Glas a Ffarwel i Aberystwyth, ond y cyd-destun a'r hyn sydd yn digwydd yn ystod y gân sydd yn gwneud y fersiynau yma mor unigryw a gwreiddiol.

Mae'r CD hefyd yn cynnwys caneuon llai cyfarwydd o'r traddodiad Cymreig fel Pryd O'wn ar Ddiwrnod a Gwêl yr Adeilad.

Mae Burum wedi bod yn bodoli ers bron i 10 mlynedd erbyn hyn, ac mae'r cyfeillgarwch a'r empathi cerddorol sydd wedi tyfu dros y cyfnod yma yn amlwg i'w glywed yn y gerddoriaeth.

Dros y blynyddoedd diwetha' mae Burum wedi bod ar daith o India ddwywaith, wedi chwarae yng Nghwyl Geltaidd Lorient, Llydaw, ac wedi chwarae yng ngwyliau Jazz Aberhonddu a Teignmouth.

Mae'r band eisioes wedi perfformio yn Nhrefynyw, Caerdydd, Abertawe ac Aberteifi fel rhan o'r daith a maent yn edrych ymlaen ymweld â gogledd Cymru diwedd yr wythnos 'ma.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3738/
2016-05-16T00:00:00+1:00Allan yn y Fan yn perfformio dau gyngerdd arbennig efo Malinky
Mae'r band Cymreig blaenllaw Allan Yn Y Fan, diolch i gefnogaeth cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru,yn mynd i berfformio dau gyngerdd ar y cyd gyda Malinky, grŵp canu gwerin blaenllaw o'r Alban, ddydd Iau 8 Mehefin (Memo Trecelyn) a dydd Gwener 9 Mehefin (Neuadd Victoria, Llanwrtyd).

Mae Malinky yn cynnwys tri canwr ac offerynnwyr gwych yn Steve Byrne (aelod sefydlu), Mark Dunlop o Ogledd Iwerddon a Fiona Hunter, canwr Albanaidd y flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Draddodiadol yr Alban 2015, ynghyd â'r cyfansoddwr ac aml-offerynnwr adnabyddus Mike Vass.

Cafodd eu halbwm 2015 "Far Better Days" a gynhyrchwyd gan eu hen gyfaill Donald Shaw ei chanmol i'r cymylau gan y cyfryngau: “Magnificent…a master-class in arrangement..another great release from one of Scotland’s finest.” R2 Magazine; “Full of grit and passion…a sweet and beautiful album.” Songlines

Yn y cyfamser mae Allan Yn Y Fan wedi dadlennu'r chwechawd newydd y llynedd, wedi bod ar daith lwyddiannus arall yn yr Alban yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o wyliau gwerin adnabyddus Prydain.

Dros y gaeaf bu’r band yn canolbwyntio ar wneud eu chweched albwm tra, yn ddealladwy, bu eu prif leisydd Catrin O'Neill hefyd braidd yn brysur gyda genedigaeth ei mab.

Mae'r dyddiadau hyn yn nodi dychweliad Allan Yn Y Fan i'r llwyfan yn eu mamwlad gyda'u perfformiad cyntaf ychydig cyn hynny yng Ngŵyl Gwanwyn Shepley yn Swydd Efrog ar 21/22 Mai.

Bydd y ddau gyngerdd hyn yn rhoi cyfle prin i gynulleidfaoedd yn Nhrecelyn a Llanwrtyd i glywed dau grŵp sy'n cyhwfan y faner dros y goreuon mewn cerddoriaeth draddodiadol ar gyfer eu dwy genedl.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3723/
2016-05-11T00:00:00+1:00Cwmni Theatr Maldwyn yn cyhoeddi CD o ganeuon y sioe ‘Gwydion’
WEDI perfformiad ysgubol mewn pafiliwn gorlawn yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau y llynedd, mae Cwmni Theatr Maldwyn ar y cyd gyda chwmni Recordiau Sain wedi cyhoeddi recordiad o holl ganeuon y sioe gerdd wefreiddiol, Gwydion.

Ysgrifennwyd y sioe gan y diweddar Derec Williams, Penri Roberts a Gareth Glyn ac mae’r sioe yn seiliedig ar Bedwaredd Gainc y Mabinogion, gan weld yr holl chwedl trwy lygaid y dewin cynllwyngar, Gwydion.

Er mwyn bodloni ei nai, Lleu Llaw Gyffes, mae Gwydion yn mynd ati i greu gwraig iddo – Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau.

Ond wrth i berthynas Lleu a Blodeuwedd droi’n chwerw, a fydd Gwydion yn gallu achub Lleu cyn i bethau fynd yn rhy bell?

Dyma gyfle i ail fwynhau caneuon y sioe arbennig Gwydion gan hefyd roi ffrwyth llafur y cast a’r criw fu’n rhan o’r cynhyrchiad ar gof a chadw.

Lansiodd Cwmni Theatr Meirion y CD ddwbl newydd yn y Brigands Inn, Mallwyd.

Roeddy cd ar werth ar y noson, ac roedd aelodau o’r cast yn rhoi ambell i gân o sioe Gwydion ynghyd ag ambell i berl o sioeau’r gorffennol.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3604/
2016-04-13T00:00:00+1:00Aled Jones ar frig y siartau
MAE albwm newydd gan Aled Jones yn canu deuawd ag ef ei hun yn blentyn wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol.

Ar ôl ailddarganfod y recordiadau olaf ohono fel soprano bachgen, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen, cafodd y syniad o’u defnyddio i ganu deuawd rhwng y bachgen a’r dyn.

Mae One Voice bellach yn curo albwm Adele 25 yn siart Amazon.

“Mae’n anhygoel bod ar y blaen i Adele yn y siart – sy’n rhywle nad ydw i erioed wedi bod o’r blaen ynddo yn fy mywyd cynt,” meddai’r canwr adnabyddus sy’n wreiddiol o Sir Fôn.

“Dw i’n edrych arno bob hanner awr oherwydd dw i prin yn ei gredu.”

Dywedodd fod ei lwyddiant wedi creu cryn argraff ar ei blant, Lucas ac Emilia.

“Maen nhw wrth eu boddau efo cerddoriaeth,” meddai.

“Ond dydyn nhw ddim yn tueddu i wrando llawer arnaf fi. A phan glywodd fy mab fod ei dad ar y blaen i Adele yn y siart roedd o’n meddwl mai camgymeriad oedd hynny!”

Mae Aled Jones ar fin cychwyn taith o gyngherddau mewn eglwysi cadeiriol pryd y bydd yn canu rhai o’r hen ffefrynnau yn ogystal â chaneuon o’r albwm newydd.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3558/
2016-04-06T00:00:00+1:00Tenor enwog yn ymuno ar lwyfan gyda Katherine Jenkins
Cyhoeddwyd y bydd un o denoriaid gorau’r byd yn ymddangos ar lwyfan gyda’r seren canu clasurol Katherine Jenkins OBE yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dyma fydd trydydd ymddangosiad Noah Stewart yn Llangollen mewn pedair blynedd wrth iddo baratoi i ymuno â’r mezzo soprano o Gymru ar y llwyfan mewn addasiad cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen.

Mae Stewart, sy’n hanu o Harlem, Efrog Newydd, yn edrych ymlaen yn arw i berfformio ochr yn ochr â Katherine wrth iddi bortreadu Carmen y sipsi danllyd, yn Llangollen, sydd yn lle ‘arbennig’ iddo ac yn un o’i hoff leoliadau cyngerdd.

Ar noson agoriadol yr ŵyl eleni ar nos Fawrth, 5 Gorffennaf, bydd yn chwarae prif ran Don José gyferbyn â Katherine.

Dywedodd Stewart: “Rydw i mor gyffrous ac mae am fod yn noson ragorol, ac mae Katherine yn gantores ardderchog ac yn berson gwirioneddol brydferth.

“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen. Mi wnaethon ni ganu yn Proms Glasgow dri haf yn ôl, ac rwy’n meddwl i ni ganu cyfres o ddeuawdau ar y noson olaf. Mae ganddi lais anhygoel ac mae’n ferch mor ddisglair a thalentog

Mae uchafbwyntiau eraill gŵyl eleni - y 70ain ers iddi ddechrau yn 1947 - yn cynnwys y seren bas bariton Bryn Terfel a’r tenor enwog Joseph Calleja ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf, ynghyd â Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues sy’n dod a’r llen i lawr ar yr ŵyl gyda pharti hwyliog ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.

Bydd cyngerdd nos Fercher yn ddathliad o theatr gerdd gyda Kerry Ellis, brenhines y gân ar lwyfannau’r West End, a Collabro a enillodd Britain’s Got Talent yn 2014.

Yn ymuno â nhw fydd doniau Academi Theatr Gerddorol Glasgow, CBC Voices o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cherddorfa Opera Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk.

Bydd cyngerdd nos Wener, Calon Llangollen, yn arddangos y gorau o’r cystadleuwyr rhyngwladol, a bydd hefyd yn cynnwys cystadleuaeth y Pencampwyr Dawns a Swae Carnifal y Caribî.

Daw’r cystadlu i ben ar nos Sadwrn gyda chystadleuaeth enwog Côr y Byd pan fydd corau amrywiol yn ymgiprys am Dlws Pavarotti. Ar y noson hefyd bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan y grŵp lleisiol poblogaidd, The Swingles.

Mae Stewart yn hen gyfarwydd â chwarae rhan Don José.

Dywedodd: “Rwyf wedi chwarae Don José fwy nag unrhyw ran arall ar hyd fy ngyrfa, o leiaf 36 gwaith. Rwyf newydd gwblhau taith 16 diwrnod ledled y DU gyda Scottish Opera gan chwarae’r union ran yma.

“Mae’n gymeirad gwych i’w chwarae a’i berfformio ac mae Don José yn rhywun mor gymhleth sy’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r ferch sipsi hudolus a rhywiol yma. Mae’n stori drasig o driongl serch, ac mae’r opera wedi cael ei pherfformio fwy o weithiau nag unrhyw un arall.

“Rwy’n credu bod pobl yn uniaethu mor hawdd gyda Carmen, Don José a’r Toreador deniadol Escamillo.

“Mae’n mynd i fod yn noson arbennig Rwy’n credu bod pawb yn gyfarwydd â Chân y Blodau o Carmen, mae’n un o’r ariâu operatig mwyaf enwog. Ac mae Don José yn ffigwr mor drasig; mae’n rhan anhygoel.”

Meddai Katherine Jenkins: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr gan fod y rhan yn un yr wyf wedi bod eisiau ei chanu ers amser. Astudiais Carmen yn yr Academi Gerdd Frenhinol cyn i mi raddio a chan fy mod yn mezzo soprano, dyma yw fy hoff opera.

“Rwyf bob amser wedi siarad am wneud hyn a dyma fydd y tro cyntaf y bydd fy nilynwyr yn gallu clywed yr holl arias mewn un noson.

“Rwyf fel arfer yn cynnwys sawl aria operatig yn fy nghyngherddau, ond dw i erioed wedi perfformio holl arias un opera arbennig mewn un cyngerdd.

“Mae Carmen yn gymeriad mor wych ac mae’n un o’r operâu mwyaf poblogaidd. Mae’n mynd i fod yn noson arbennig, ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar ato ac rwyf i’n bersonol yn teimlo’n gyffrous iawn i ddod nôl i Langollen am y digwyddiad cofiadwy yma.”

Mae Stewart wrth ei fodd o gael dychwelyd i Langollen, a dywed ei bod yn fan lle mae pawb yn siarad yr un iaith - iaith cerddoriaeth.

Dywedodd: “Rydych yn cyfarfod â phobl nad ydych erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen, pobl o ben draw’r byd, ond eto i gyd rydych yn rhannu cariad arbennig at gerddoriaeth.

“Rwyf bob amser yn cael yr argraff bod pobl yn edmygu, parchu ac yn caru ei gilydd yn Llangollen a cherddoriaeth yw’r glud sy’n clymu pobl at ei gilydd. Mae pawb yn Llangollen yn enillydd.”

Mae cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, wrth ei fodd bod Noah Stewart yn dychwelyd i Langollen ac yn ymddangos ochr yn ochr â Katherine.

Meddai: “Mae hon yn argoeli bod yn noson anhygoel o gerddoriaeth i’r rhai sy’n ddigon ffodus i fod yn y gynulleidfa.

“Mae cael Katherine Jenkins OBE a Noah Stewart ar lwyfan gyda’i gilydd yn dipyn o bluen yn het yr Eisteddfod, byddent yn deilwng o lenwi unrhyw un o neuaddau cyngerdd mwyaf y byd.”

“Mae gennym hefyd rai artistiaid gwych fydd yn ymuno gyda Katherine a Noah ar y llwyfan. Bydd y bariton Adam Gilbert yn chwarae rhan El Dancairo a bydd Lukask Karauda yn chwarae rhan Escamillo.

“Mae gennym hefyd y mezzo soprano o Gymru Caryl Hughes, Aberdaron yn chwarae rhan Mercedes a’r tenor Trystan Griffiths, sy’n hanu o Glunderwen, Sir Benfro fydd El Remenado.

“Bydd cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, dan arweiniad baton Anthony Inglis, a lleisiau Côr Cytgan Clwyd o Ruthun yn ychwanegu at yr hyn fydd yn siŵr o fod yn noson hudolus o gerddoriaeth a drama.”

Am fwy o wybodaeth am yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gan gynnwys tocynnau, ewch i www.international-eisteddfod.co.uk

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3454/
2016-03-17T00:00:00+1:00Huw Chiswell a'r Band ar lwyfan y Maes nos Wener yr Eisteddfod
HUW Chiswell a’r Band fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes ar nos Wener yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau.

Mae’r slot nos Wener wedi datblygu’n un o uchafbwyntiau mawr wythnos yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf, gydag awyrgylch arbennig wrth i bawb baratoi ar gyfer y penwythnos.

Dyma fydd y tro cyntaf i Huw berfformio gyda band llawn ers pedair neu bum mlynedd ac meddai: “Mae cael cyfle i berfformio gyda band llawn yn eithaf anghyffredin erbyn heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen at bawb ddod nôl at ei gilydd ar y llwyfan.

“Roedden ni’n credu y byddai’r slot yma ar nos Wener wythnos yr Eisteddfod yn un werth ei chael, ac yn esgus i gael pawb nôl at ei gilydd mewn awyrgylch arbennig, gan fod ‘na sbel fach ers i ni wneud unrhyw beth ar y cyd.

“Dydyn ni heb benderfynu beth i’w chwarae eto ar y noson, ond mae’n siŵr mai cymysgedd o’r hen ffefrynnau a chaneuon ychydig yn fwy newydd gawn ni ar y noson.

“Cyfle braf i ddod â ffrindiau ynghyd ac ail-fyw rhai o’r profiadau cynnar!

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at y noson yn barod – mae hon yn slot gyda thipyn o draddodiad erbyn hyn, a gobeithio y bydd nos Wener eleni’n ddathliad i goroni wythnos yr Eisteddfod.

“Gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni, gobeithio y bydd nifer fawr o ddysgwyr ar y Maes.

“Mae nifer o’r caneuon cynnar yn adnabyddus i ddysgwyr gan eu bod nhw’n cael eu defnyddio ar rai o’r cyrsiau, felly rwy’n gobeithio y daw carfan fawr atom i fwynhau noson yn yr Eisteddfod ar ôl clywed rhai o’r caneuon wrth ddysgu Cymraeg.”

Yn wreiddiol o Gwm Tawe, bu Huw Chiswell yn aelod o grwpiau pop gan gynnwys Y Crach a’r Trwynau Coch cyn cychwyn perfformio a rhyddhau recordiau fel artist unigol.

Mae’n gyfansoddwr cerddoriaeth, yn offerynnwr dawnus, yn awdur geiriau caboledig, ac yn ganwr ysgubol.

Ac yn ychwanegol at hyn i gyd mae’r elfen arall honno – y ddawn i daro ar yr union air, yr union ddarn o alaw, yr union syniad sy’n cyfleu rhywbeth a all daro rhyw dant “yn nwfn y galon”.

Mae ei ganeuon yn gyfoes ac yn atgofus yr un pryd, ac yn codi o brofiad na ellir fyth ei amau.

Dyma’r noson gyntaf i’w chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf a thocynnau ar werth o 1 Ebrill ymlaen.

Am wybodaeth a thocynnau ewch i www.eisteddfod.cymru

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3430/
2016-03-15T00:00:00+1:00Al Lewis yn Neuadd Ogwen, Bethesda
Bydd y canwr-cyfansoddwr Al Lewis yn perfformio yn Neuadd Ogwen am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn 19 Mawrth.

Fel artist dwyieithog, mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o arddull glasurol canwyr-cyfansoddwyr y 70au gyda naws fodern

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, daeth Al i sylw’r cyhoedd wrth i’w gân ‘Llosgi’ ddod yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2007.

Ers hynny, mae wedi rhyddhau 5 albwm sydd wedi treulio sawl wythnos yn safle rhif 1 Siart C2 BBC Radio Cymru, ac mi gipiodd wobr ‘Artist Gwrywaidd Gorau’ yng Ngwobrau RAP am 2 flynedd yn olynol.

Un o’i lwyddiannau mwyaf hyd heddiw yw’r sengl Nadoligaidd ‘A Child’s Christmas in Wales’ a gafodd ei seilio ar stori byr Dylan Thomas.

Dyma oedd y gân gyntaf ddwyieithog â geiriau Cymraeg i gael ei chwarae ar restr BBC Radio 2.

Ar y noson mi fydd Siôn Richards, artist disglair lleol yn cefnogi. Cafodd Siôn ei gomisiynu i ysgrifennu cân o’r enw ‘Bradwr’ ar gyfer y sioe ‘Chwalfa’ a fu’n llwyddiant ysgubol.

Mae tocynnau £10 ar gael o Siop Ogwen (01248 208 485) neu ar y we www.neuaddogwen.com

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3434/
2016-03-15T00:00:00+1:00Stereophonics fydd prif sêr cyngerdd mawreddog yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yr haf hwn
Yn perfformio gyda’r rocwyr o Gymru ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf bydd Catfish a'r Bottlemen sydd wedi ennill Gwobr Brit a gwesteion arbennig eraill.

Mae disgwyl i hyd at 20,000 o bobl fynychu'r gig, yr un cyntaf ers i Motorhead a Twisted Sister berfformio yn y cae ras yn 1982.

Treuliodd y brifysgol a’i phartner VMS Live fisoedd yn trefnu'r digwyddiad gyda'r nod o gynnal diwrnod o gerddoriaeth fyw o'r radd flaenaf i’r rhanbarth.

Meddai Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Mae hyn wedi cymryd llawer o amser ac ymdrech gan VMS Live a ninnau ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y perfformwyr gwych hyn yn ymddangos yma yn ystod yr haf.

"Mae'n fwy na 30 mlynedd ers i'r stadiwm gynnal cyngerdd felly mae cael enw mawr fel Stereophonics, a sêr ar eu cynnydd fel Catfish a'r Bottlemen, yn gamp fawr i ni.

"Rydym yn gobeithio mai’r sioe hon fydd y gyntaf o nifer o sioeau byw fydd yn digwydd yn y stadiwm dros y blynyddoedd nesaf wrth i'n perthynas â VMS Live dyfu’n gryfach."

Ychwanegodd: "Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddod â mwy o enwau mawr i Wrecsam, felly cewch wybod mwy yn y man."

Gyda’u gwerthiant gyrfa o 10 miliwn o albymau, mae gan y Stereophonics haf prysur iawn o’u blaenau gyda 10 o ddyddiadau wedi eu trefnu eisoes, gan gynnwys prif slot yng Ngŵyl Ynys Wyth ym mis Mehefin.

Dywed y grŵp Catfish and the Bottlemen o Landudno, a enillodd y wobr orau am m Ddod i Amlygrwydd yng Ngwobrau’r Brits yr wythnos ddiwethaf, eu bod yn ‘gyffrous iawn’ ynglŷn â chwarae yn y sioe yn Wrecsam.

Yr artistiaid fydd y cyntaf i chwarae gig byw yn y stadiwm ers Gŵyl Wrecsam 1982, pan chwaraeodd y cewri roc caled Motorhead, Budgie, Tank, Raven, Orion a Twisted Sister yng nghartref clwb pêl-droed y dref.

Ystyrir Stereophonics - Kelly Jones yn canu a chwarae gitâr, Richard Jones ar y gitâr fas, Adam Zindani ar gitâr a Jamie Morrison yn drymio – fel un o’r bandiau gorau yn y wlad, ac mae ei halbwm Rhif 1 diweddaraf, Keep The Village Alive, yn cynnwys y senglau poblogaidd C'est La Vie, I Wanna Get Lost With You a Song for the Summer.

Bydd y tocynnau yn mynd ar werth dydd Gwener yma am 9am. Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.stereophonics.com neu i wefan ddigwyddiadau newydd-ei-lansio y brifysgol www.glyndwr.ac.uk/en/events

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3376/
2016-03-03T00:00:00+1:00Ar Log ym Mhwllheli
MAE’R grŵp gwerin eiconig, Ar Log, yn dathlu 40 mlynedd eleni.

Mae taith arbennig ar y gweill ond cyn hynny byddant yn perfformio yng Nghlwb Golff Pwllheli ar nos Sadwrn, Mawrth y 5ed.

Ffurfiwyd Ar Log yn Awst 1976 yn arbennig ar gyfer perfformio mewn gŵyl yn Lorient, Llydaw.

Yn dilyn yr ŵyl, penderfynwyd, ar anogaeth y Dubliners, i barhau, ac i geisio ennill eu bywoliaeth yn teithio.

Llwyddwyd i wneud hyn am saith mlynedd gan deithio dramor yn rheolaidd am naw mis o bob blwyddyn.

Maent wedi perfformio mewn un-ar-hugain o wledydd ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop a Gogledd a De America gan hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon Cymru.

Rhwng 1978 a 1996 llwyddodd Ar Log i ryddhau 10 albwm a dwy sengl.

Mae ticedi ar gyfer y noson ym Mhwllheli ar gael yn Tonnau, Pwllheli, neu drwy ffonio 01758 612903.

Mi fydd y canwr, y bardd a’r actor Dewi Pws hefyd yn ymddangos ar y noson ac mi fydd elw’r cyngerdd yn mynd i gronfa Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3355/
2016-02-24T00:00:00+1:00Meinir y soprano swynol i serennu
Mae un o gantorion ifanc mwyaf talentog gwledydd Prydain yn paratoi i serennu yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y soprano Meinir Wyn Roberts o Gaernarfon, ymhlith yr uchafbwyntiau yng Nghyngerdd Gala Fienna a gynhelir yn Eglwys San Silyn, Wrecsam, ar 2 Ionawr.

Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia a grëwyd gan ddau frawd cerddorol o Wrecsam, Robert a Jonathan Guy.

Mae’r gerddorfa newydd am gymryd cam arall tuag at ddod yn gwbl broffesiynol ar ôl derbyn grant o £5,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Robert hefyd wedi cael ei wahodd i arwain mewn gŵyl yn Jeju, De Corea ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Ond cyn hynny, mae’n edrych ymlaen at y cyngerdd yn Wrecsam gyda Meinir, y mae ei gyrfa hithau hefyd yn blodeuo ar ôl iddi gael ei henwi yn Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Dywed Meinir ei bod wrth ei bodd i gael ymddangos gyda NEW Sinfonia.

Meddai: “Mae’n wych i gantorion fel fi i gael y cyfle i berfformio gyda cherddorfa fawr. Fel arfer, rwyf ond yn cael gweithio gyda phianydd ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr cael gerddorfa fawr y tu ôl i chi.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych ac roedd ennill cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Llangollen yn gychwyn haf anhygoel i mi.

“Mi es ymlaen i ennill prif ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod ac yna hedfan draw i Columbus, Ohio i berfformio fel unawdydd yng Ngŵyl Gymreig Gogledd America.”

Ychwanegodd: “Rwy’n mwynhau gweithio gyda NEW Sinfonia ac mae Robert Guy wedi bod yn wych wrth ganiatáu i mi ddewis y darnau y byddaf yn eu perfformio.

“Rwyf wedi dewis rhai ffefrynnau personol, fel Cân Rusalka i’r Lleuad, Piangero gan Handel, aria Norina gan Gaetano Donizetti a Je Veux Vivre o Romeo a Juliette.”

Mae golygon Meinir, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, ar yrfa yn y byd opera, ac unwaith y mae hi wedi cwblhau ei Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth yn Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ei bwriad yw mynychu clyweliadau i geisio sicrhau lle mewn ysgol opera.

Meddai: “Rwy’n gorffen fy ngradd meistr yr haf nesaf, ac yna rwy’n gobeithio cael lle mewn ysgol opera yn Llundain. Dyna lle dwi eisiau bod a’m breuddwyd yw bod ar y llwyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru neu yn Covent Garden neu unrhyw un o’r lleoliadau opera mawr.

“Rwy’n gwybod bod angen mwy o brofiad arnaf o ran canu prif rôl ac rwy’n mynychu dosbarthiadau actio fel rhan o’m gradd meistr. Ond opera yw popeth i mi. Dyna rwyf am ei wneud, dyna yw fy mreuddwyd.”

Bu Robert a Jonathan ill dau yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion a’u cenhadaeth fel mentoriaid yw gwneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Robert: “Mae pethau’n mynd yn dda iawn gyda’r NEW Sinfonia, y gwnes i a Jonathan ei sefydlu dros bedair blynedd yn ôl. Breuddwyd y ddau ohonom yw cael cerddorfa cwbl broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru, ac yn araf bach mae’r freuddwyd yn troi’n ffaith.

“Erbyn hyn mae gennym dros 40 o gerddorion a’r nod yw cael cerddorfa cwbl broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru.

“Mae pethau’n mynd yn dda ac rydym yn perfformio’n rheolaidd sawl gwaith bob mis. Weithiau bydd gennym dros 40 o gerddorion yn y gerddorfa ac weithiau 10 neu lai. Dyna pam rydym wedi penderfynu galw’r gerddorfa yn NEW Sinfonia.”

“Mae cael artist unigol fel Meinir Wyn Roberts yn perfformio gyda ni yn anhygoel. Mae ganddi lais rhyfeddol, a heb os mi fydd hi’n seren enfawr yn y dyfodol.

“Rydym eisoes wedi perfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, ac oedd yn brofiad rhagorol wrth i ni gael gweithio gyda’r cyfansoddwyr Karl Jenkins a’r Athro Paul Mealor, a ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer priodas Dug a Duges Caergrawnt.

“Byddwn yn perfformio cyngerdd mawr ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf ochr yn ochr â thri chôr blaenllaw arall sydd yn wych. Erbyn hyn rydym yn cael gwaith rheolaidd gan berfformio ddwywaith, tair gwaith neu hyd yn oed bedair gwaith y mis.”

Mae’r cerddorion sy’n rhan o NEW Sinfonia i gyd rhwng 18 a 28 oed, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o ogledd Cymru.

Maent yn ymarfer yn eglwys Bresbyteraidd y Drindod yn Wrecsam, lle mae côr Cantorion y Rhos, y mae Robert hefyd yn ei arwain, hefyd yn perfformio.

Dywed ei frawd iau Jonathan, sy’n chwarae’r clarinét, ei fod ef hefyd yn gyffrous wrth weld sut y mae NEW Sinfonia yn datblygu.

Dywedodd: “Mae cydweithio gyda fy mrawd yn wych ac mae’n gweithio cystal oherwydd ein bod yn ymddiried yn ein gilydd.

“Mae’n deimlad braf gweld ein breuddwyd o gerddorfa wirioneddol broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru ac sy’n cynnwys cerddorion o’r ardal, yn cael ei gwrieddu. Rydym wedi gweithio’n anhygoel o galed am dros bedair blynedd i sefydlu NEW Sinfonia, a does dim amheuaeth bod y cerddorion yn credu’n llwyr yn yr hyn rydym yn ei wneud.”

I gael mwy o wybodaeth a thocynnau, sy’n £12, consesiynau £10, myfyrwyr a rhai dan 18 oed £3 neu £25 am docyn teulu, ewch i www.newsinfonia.org.uk ac am fwy o wybodaeth am Meinir Wyn Roberts, ewch i www.meinirwynrobertssoprano.com.

http://www.y-cymro.com/cerddoriaeth/i/3088/
2015-12-17T00:00:00+1:00