Cerddoriaeth
Symffoni mawreddog newydd i fand pres
MAE comisiwn un o’r symffoniau mwyaf sylweddol erioed ar gyfer band pres wedi cael ei gyhoeddi.
Yn ystod 2012 bydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu eu pen blwyddi yn 60 oed a 30 oed. Comisiynwyd y gwaith newydd hwn ar y cyd gan y ddau fand o Cerddoriaeth Ieuenctid a Tŷ Cerdd-Canolfan Gerddoriaeth Cymru.
Cynigiwyd i Edward Gregson, cyn Bennaeth y Royal Northern College of Music, a chyfansoddwr o bwys rhyngwladol, gyfansoddi gwaith newydd ar gyfer y ddau fand, a’i ddewis ef oedd ysgrifennu symffoni.
Mae ‘Symffoni ar gyfer Band Pres’ yn waith sylweddol sy’n para am 17 munud, sy’n gofyn llawer yn gerddorol ac y dechnegol, ac yn gweddu’r achlysur ac enw da y ddau fand.
Dywedodd y Cyfansoddwr : “Pan holwyd fi am gomisiwn ar y cyd i greu gwaith newydd i ddathlu’r cerrig milltir hyn, roeddwn i wrth fy modd yn ei dderbyn, a phenderfynais ymateb drwy ysgrifennu gwaith addas i fawredd yr achlysuron arbennig hyn, sef, symffoni ar gyfer pres.
Y dyddiau hyn, cerddoriaeth gerddorol, siambr, ac offerynnol yw prif waith Edward Gregson, ond yn y gorffennol mae wedi ysgrifennu’n helaeth i fandiau pres a chwyth.
Ychwanegodd : “Yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, dim ond tri gwaith ar gyfer pres yr wyf wedi’u hysgrifennu, felly mae hyn yn awgrymu mai rhyw fath o ddychwelyd i gyfansoddi i fand pres yr wyf yn ei wneud.”
Eglurodd Phillip Briggs, Gweinyddydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, “Mae hwn yn gomisiwn arwyddocaol iawn ar gyfer blwyddyn arwyddocaol iawn i’r BPCIPF. Ers 1952, y flwyddyn y sefydlwyd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, mae’r BPCIPF wedi comisiynu nifer fawr o brif gyfansoddwyr, ac y mae hi’n addas mai yn y Flwyddyn Jiwbili Ddiemwnt hon y mae’r BPCIPF wedi comisynu’r cyfansoddwr adnabyddus, rhyngwladol hwn, Edward Gregson. Mae pawb yn y BPCIPF wrth eu bodd bod Edward wedi derbyn y comisiwn hwn.”
Dywedodd Robert Nicholls, Cyfarwyddwr Canolfan Tŷ Cerdd Cymru : “Mae hi’n bleser i n i gyhoeddi’r newyddion cyffrous hwn, a rydym yn ei ystyried yn fraint fod Edward Gregson wedi cytuno i gyfansoddi ar gyfer y dathliad hwn. Rwyf yn sicr y bydd ‘Symffoni ar gyfer Band Pres’ yn gyfraniad gwerthfawr i stôr gyffredinol bandiau pres, a mawr obeithiaf y bydd llawer o fandiau yn cael y pleser o berfformio’r gerddoriaeth yn y dyfodol.”
Ychwanegodd : “Ers sefydlu Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, mae Tŷ Cerdd wedi comisiynu 20 prif waith dros y cyfnod hwn, ond tri chomisiwn* yn unig ar gyfer band pres a gomisiynwyd gennym ni erioed, felly mae hwn yn achlysur arbennig iawn.”
Cynhelir perfformiadau yn ystod y Gwanwyn a’r Haf o’r symffoni newydd mewn lleoliadau cyngerdd i nodi’r pen blwydd. Cyhoeddir y lleoliadau a’r dyddiadau cyn bo hir.
Llun: Edward Gregson