Cerddoriaeth
John Owen-Jones i berfformio yn Eisteddfod Llangollen
Mae un o berfformwyr gorau byd y sioe gerdd, John Owen-Jones, ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2012.
Bydd John Owen-Jones, sy’n wreiddiol o Borth Tywyn ger Llanelli, yn perfformio yn ystod diweddglo mawreddog yr ŵyl ar nos Sul 8 Gorffennaf. Yn y cyngerdd hwnnw, bydd Owen-Jones, sydd fwyaf adnabyddus ar lwyfannau’r West End a Broadway, yn ymuno â’r cantorion clasurol Wynne Evans a Mark Llywelyn Evans, y soprano Fflur Wyn a Chôr CF1.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Swyddfa Docynnau agor yn swyddogol. Mae modd prynu tocynnau i’r cyngherddau ac i’r maes drwy ffonio 01978 862001 neu drwy ymweld â gwefan yr Eisteddfod.
Meddai John Owen-Jones: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio yn niweddglo arbennig Eisteddfod Llangollen 2012 – fyddai’n hedfan o Ddulyn yn arbennig i berfformio yna. Mae pob un ohonom sy’n cymryd rhan yn mynd i sicrhau fod y gynulleidfa yn meddwl bod y sioe orau wedi’i chadw at ddiwedd yr wythnos!”
Yn ddiweddar, mae John Owen-Jones wedi ail-ymuno â sioe gerdd The Phantom of the Opera. Fe oedd yn chwarae’r brif ran yn y West End rhwng 2001 a 2005 a fe hefyd sydd wedi portreadu’r Phantom am y cyfnod hira’.
Ymhlith yr enwau eraill sydd eisoes wedi’u cadarnhau i berfformio yn yr Eisteddfod rhwng 3 – 8 Gorffennaf 2012 yw Alfie Boe, Karl Jenkins, Lesley Garrett, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a’r offerynwyr Alison Balsom a Nicola Benedetti.