Cerddoriaeth
Clyweliadau - Only Kids Aloud
Mae Cyfarwyddwr Cerdd Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, Tim Rhys Evans yn chwilio am blant rhwng 9 a 13 oed i ymuno ag ef yn ei fenter newydd, gyffrous a diweddaraf, Only Kids Aloud.
Bydd Tim Rhys Evans yn chwilio ledled Cymru am bobl ifanc dalentog, merched a bechgyn, i greu côr plant o 60 o leisiau a fydd yn perfformio gydag Opera Mariinsky sy'n fyd-enwog ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm y gwanwyn nesaf.
Ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd Only Kids Aloud yn ymddangos ar y llwyfan fel y Corws Plant ar gyfer perfformiad o Symffoni Rhif 8 gan Mahler sef y symffoni ar gyfer mil o leisiau, o dan arweiniad un o arweinyddion amlycaf y byd heddiw, Maestro Valery Gergiev. Bydd cerddorfa, corws ac unawdwyr Opera Mariinsky yn ymuno â hwy.
Dywed Tim Rhys Evans: 'Mae hwn yn gyfle unigryw i blant ledled Cymru, o bob cefndir, gymryd rhan mewn prosiect anhygoel gydag un o arweinyddion a cherddorfeydd rhyngwladol amlycaf y byd.
"Cânt gyfle i berfformio ar un o'r llwyfannau rhyngwladol gorau yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sef un o'm hoff leoliadau. Gan adeiladu ar lwyddiant Only Boys Aloud mae hwn yn gyfle i blant o bob cwr o'r wlad brofi a bod yn rhan o'r cyfle gwych hwn. Bydd hwn yn sicr yn ddigwyddiad arbennig iawn.'
Cynhelir clyweliadau yn y lleoliadau canlynol ledled Cymru:
24 Hydref - Canolfan Hamdden Colwyn, Bae Colwyn
24 Hydref - Canolfan Hamdden John Brights, Llandudno
25 Hydref - Canolfan Ucheldre, Caergybi
25 Hydref - Galeri, Caernarfon
26 Hydref - Canolfan y Morlan, Aberystwyth
26 Hydref - Canolfan Gymunedol Glan-yr-afon, Llanfair-ym-Muallt
27 Hydref - Clwb Rygbi'r Quins, Caerfyrddin
27 Hydref - Neuadd Brangwyn, Abertawe
28 Hydref - Community 1st Butetown, Atlantic House, Caerdydd
Bydd y plant a ddewisir yn cael ei hyfforddi gan aelodau o Only Men Aloud ac yn perfformio o dan arweiniad Maestro Gergiev yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 1 Ebrill 2012.
Cefnogir y prosiect yn hael gan Eclipse Printing Ltd a chan Arts & Kids INVEST.
Mae Theatr Mariinsky yn un o bartneriaid strategol Canolfan Mileniwm Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu clyweliad, cysylltwch â Chanolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6450 neu anfonwch e-bost i education@wmc.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau Opera Mariinsky yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ewch i'n gwefan www.wmc.org.uk neu ffoniwch 029 2063 6464.