Cerddoriaeth

RSS Icon
21 Hydref 2011

Pedwar yn gwneud argraff

Mae criw o gantorion o Opera Cenedlaethol Cymru wedi dod ynghyd i ffurfio Pedwar. Aelodau’r pedwarawd yw Meriel Andrew (soprano) o Aberaeron, Siân Meinir (mezzo) o Ddolgellau, Huw Llywelyn (tenor) o Fethel,Caernarfon a Martin Lloyd (bas) o Abertawe.

Roedd bob un o’r pedwar yn wynebau cyfarwydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol cyn troi’n gantorion proffesiynol.

Cantorion opera amser llawn ydynt, ond bydd cyngherddau Pedwar yn cynnwys llawer mwy na cherddoriaeth opera yn unig. Er enghraifft, bydd rhan o bob cyngerdd wedi’i neilltuo ar gyfer cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan grefydd, gan gynnwys arias adnabyddus o weithiau oratorio ac emynau a chaneuon Negroaidd. Er hynny, peidiwch a phoeni, bydd digonedd o ffefrynnau o fyd yr opera!

Cynhelir cyngerdd cyntaf Pedwar yng Nghapel Ebeneser, Dyfnant, Abertawe nos Sul 23 Hydref. Y noson honno, bydd y grŵp yn rhannu’r llwyfan â Chôr Meibion Dyfnant.

Yn dilyn hynny, byddant yn perfformio nos Sul 6 Tachwedd yng Nghapel Seilo, Llandudno. Annette Bryn Parri fydd yn cyfeilio iddynt yn y ddau gyngerdd.

Gellir cael mwy o wybodaeth wrth ffonio Martin Lloyd (De) ar 07733044094 neu Robin Jones (Gogledd) ar 07780869907
 

Rhannu |