Cerddoriaeth

RSS Icon
09 Medi 2011

Gig Enfawr 50: Gwyneth Glyn yw'r Chweched Artist i Gadarnhau

Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yr wythnos yma mai Gwyneth Glyn yw'r chweched artist i gadarnhau y bydd yn chwarae yn y gig enfawr, '50', a drefnir ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid ar y 13 a'r 14 o Orfennaf blwyddyn nesaf, er mwyn dathlu penblwydd y mudiad yn hanner cant.

 

Meddai Owain Schiavone, un o drefnwyr '50': "Mae'r rhestr o artistiad gwych a fydd yn perfformio yn '50' mis Gorffennaf nesaf yn parhau i dyfu ac rydym yn falch iawn o fedru cadarnhau mai Gwyneth Glyn yw'r chweched artist i ymuno â'r rhestr honno.

 

"Yn ogystal â Gwyneth Glyn cyhoeddyd eisoes y bydd Gruff Rhys, Gai Toms, Steve Eaves, Sen Segur a Gildas yn perfformio yn '50'."

 

Meddai un o'r artistiaid hynny, y cerddor blues enwog, Steve Eaves: "Fel cyn Is-Gadeirydd y Gymdeithas, dwi’n falch iawn o gael y cyfle i berfformio yn y cyngerdd i ddathlu ei hanner canmlwyddiant. Y Gymdeithas ydi’r mudiad gwleidyddol pwysica yng Nghymru, ac mae’n cael ei hedmygu gan leiafrifoedd ar draws Ewrop a thu hwnt am ei radicaliaeth, ei gwerthoedd a’i dyfalbarhad. Ar ben hynny, dros y blynyddoedd mae wedi trefnu mwy o gigs nag unrhyw fudiad arall yng Nghymru, a hebddi hi fasa’r sîn roc Cymraeg ddim wedi datlygu mor gry a hyderus ac amrywiol. Mae’r cyngerdd '50' yn gyfle i ddathlu hyn, ac yn gyfle i bawb sy’n malio am yr iaith ddangos eu cefnogaeth i’r Gymdeithas."

 

Ychwanegodd Owain Schiavone: "Wrth gwrs, fel y pwysleisiwyd eisoes, nid gig cyffredin fydd '50' - rydym am fod yn uchelgeisiol!

 

"Gan fod '50' yn cael ei drefnu i nodi penblwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, mae'n fwriad, dros y ddwy noson, i gynnig llwyfan i bumdeg o artistiaid Cymraeg blaenllaw.

 

"Byddwn yn cadarnhau enwau'r artistiaid eraill rhwng nawr a'r penwythnos mawr, gyda enw un artist newydd yn cael ei gyhoeddi bob wythnos. Er mwyn sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf dylid cadw golwg ar ein gwefan arbennig - hannercant.com."

 

Rhannu |