Cerddoriaeth

RSS Icon
09 Medi 2011

Cerddoriaeth Byd yng Nghymru

Mae’r elusen gerddoriaeth Live Music Now Cymru (LMN), â chymorth Carlos Chirinos o Venezuela, yn chwilio am y dalent gerddoriaeth byd gorau yma yng Nghymru fel rhan o’u prosiect World Musicians Recruitment sy’n cael ei lansio mewn Diwrnod Agored ar ddydd Mercher, 12fed o Hydref yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd rhwng 2-4yh.

 

Gwahoddir cerddorion byd ifanc i’r digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim, er mwyn cael gwybod mwy am y broses o ymgeisio a chlyweld, lle, os yn llwyddiannus, y caiff cerddorion talentog hyd a lled Cymru’r cyfle i ymgymryd â chynllun arloesol estyn allan â cherddoriaeth, sy’n cael ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Dyma’r tro cyntaf i Live Music Now Cymru fentro i gerddoriaeth byd, a’r bwriad yw cynyddu’r nifer o genres cerddorol sydd ar gael i’r rheini sydd â mynediad cyfyngedig at greu cerddoriaeth, wrth ddatblygu gyrfaoedd cerddorion newydd, ifanc na fyddai, fel arall, yn cael y cyfle i esgyn yn y maes cerddorol.

 

Yn gynhenid, mae cerddoriaeth byd yn un o’r genres cerddorol mwyaf eang, â llawer iawn o ddyfnder ac amrywiaeth. Gall gerddoriaeth byd gynnwys cerddoriaeth o bob cornel o’r ddaear, megis cerddoriaeth draddodiadol, neu gerddoriaeth gwerin o ddiwylliant a grëwyd gan gerddorion brodorol sydd â chysylltiad agos i gerddoriaeth eu bröydd cynefinol.

 

Dywedodd Carlos Chirinos, ymgynghorwr recriwtio cerddoriaeth nad yw’n glasurol i Live Music Now, “Amcan Live Music Now ydi recriwtio cerddorion â safon uchel o gerddoriaeth byd byw, beth bynnag yw ei genre. Rydym yn chwilio am gerddoriaeth amlddiwylliannol, a phobl â’r gallu i greu cerddoriaeth draddodiadol, o bob math o gefndiroedd diwylliannol.

 

“Mae’r Diwrnod Agored sy’n cael ei gynnal yn Chapter ym mis Hydref yn gyfle i bobl ifanc ddod i gael gwybod mwy am y cynllun a’r broses o wneud cais. Fy rôl i fel ymgynghorwr recriwtio yw gweithio ag ymgeiswyr dichonol i sicrhau fod cerddorion o safon uchel yn cael y cyfle i glyweld, drwy roi cyngor a chyfarwyddyd.

 

“Mae llawer ohonynt yn hynod dalentog, ond â diffyg hyder neu adnoddau i wthio ymlaen a gwneud eu hunain yn hysbys i’r bobl gywir yn y diwydiant. Mae Live Music Now Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc Cymru, yn y gobaith o ddod o hyd i dalent cudd.”

 

Mae Carlos, pan nad yw’n gweithio â Live Music Now, yn Ethnogerddoregwr sy’n seiliedig yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, Prifysgol Llundain, lle mae o hefyd yn rheoli gorsaf radio. Cyn gweithio i’r brifysgol, roedd Carlos yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth byw a recordio. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn ei alluogi i helpu cerddorion dichonol Live Music Now i ddatblygu ceisiadau cryf, a’u cyfarparu â’r sgiliau angenrheidiol i reoli eu gyrfa eu hunain petai nhw’n llwyddiannus.

 

Mae Carlos yn parhau, “Bwriad Live Music Now yw darparu ymgeiswyr â chefnogaeth cyn-glyweliad; gan helpu i siapio’r hyn mae cerddorion yn ei wneud eisoes ond mewn modd mwy effeithiol yn seiliedig ar ein profiad o’r diwydiant cerddoriaeth fyw. Mae rhai ohonynt yn gerddorion talentog iawn, ond yn eisiau’r sgiliau a’r profiad i weithio mewn cerddoriaeth estyn allan, a gallant golli cyfleon. Bydd fy rôl fel ymgynghorwr recriwtio o gymorth i oresgyn hyn. Mae’n bwysig fod y bobl ifanc hyn yn ymwybodol o sut i ymgeisio, sut i baratoi repertoire, a sut i deilwra perfformiad i gynulleidfaoedd penodol, yn ogystal â sut i baratoi’r gwaith papur ar gyfer y broses o glyweld. Mae’r gweddill, wedyn, yn eu dwylo nhw!”

 

Dywedodd Gilian Green, cyfarwyddwr Live Music Now Cymru, “Mae Live Music Now Cymru yn falch iawn o gael mynd mewn i fyd cerddoriaeth nad yw’n glasurol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld pa fath o dalent cerddoriaeth byd newydd ac amrwd sydd ar gael yng Nghymru, sydd heb eu darganfod hyd yma yn y brif ffrwd gerddorol. Nid yn unig y byddwn ni’n cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i’r cerddorion ifanc, talentog yma, byddwn ni hefyd yn darparu rhywbeth cwbl wahanol i gynulleidfaoedd yn y sectorau lles, addysg a gofal iechyd.

 

Esbonia Gillian: “Mae cefndir Carlos mewn Anthropoleg ac fel Ethnogerddoregwr wedi rhoi iddo ddealltwriaeth o gymunedau sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol, gan alluogi iddo fanteisio ar botensial mewn grwpiau na fyddai gan Live Music Now fynediad atynt fel arall, gan ddod â cherddoriaeth na wyddai rhai ohonom am ei fodolaeth i’r wyneb. Mae’n amser cyffrous iawn i ni ac i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.”

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â digwyddiad gwybodaeth World Musicians Recruitment ym mis Hydref ewch i: www.facebook.com/livemusicnow neu cysylltwch â wales@livemusicnow.org.

Rhannu |