Cerddoriaeth

RSS Icon
09 Medi 2011

Cawl a Chân gyda Gwibdaith Hen Fran

Mae un o fandiau gwerin fwyaf poblogaidd Cymru yn dod i Neuadd Goffa Trelawnyd. Ar Fedi’r 19eg bydd sêr y sin gwerin Cymraeg, Gwibdaith Hen Frân yn perfformio caneuon o’i albymau, ‘Cedors Hen Wrach’, ‘Tafod Dy Wraig’ a ‘Llechan Wlyb’. Croeso i gerddorion dod a’u hofferynnau, i ymuno gyda’r gweithdai bydd Gwibdaith yn cynnal am ddim.

Yn ogystal bydd yna hwyl i’r holl deulu gyda phaentio wynebau, cwis Cymraeg, gemau a chawl cartref blasus.

Trefnir y noson gan Fenter Iaith Sir y Fflint a Chlwb Hwyl Hwyr i ddathlu cwblhad llwyddiannus prosiect Iaith a Threftadaeth y Fenter, ac i lansio flwyddyn newydd o weithgareddau hwyl gyda chlybiau ieuenctid iaith Gymraeg, Clwb Hwyl Hwyr a Chlwb Pop.

Bydd y noson yn cychwyn am 6yh ac yn addas i bob oedran.

Am wybodaeth ynglŷn â’r noson cysylltwch â Rebecca Davies: rebecca@menteriaithsiryfflint.co.uk, 01352 744042.

Am wybodaeth ynglŷn ag ymuno â Chlwb Hwyl Hwyr neu Glwb Pop, e-bostiwch clwbhwylhwyr@yahoo.co.uk

Trefnwyd y gweithgaredd gan Fenter Iaith Sir y Fflint fel rhan o’i phrosiect Iaith a Threftadaeth gyda chymorth y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig.

Rhannu |