Cerddoriaeth

RSS Icon
31 Mawrth 2017

Calan yn rhyddhau pedwerydd albwm

Mae Calan, y band o Gymru sydd wedi ennill clod am eu sain pop-gwerin swmpus a'u hegni gwefreiddiol, ar fin rhyddhau eu pedwerydd albwm: 'Solomon'.

Wedi eu hysbrydoli gan straeon a chwedlau Cymru, maent yn plethu alawon traddodiadol gyda churiadau cyfoes, wrth i’r delyn, gitâr, acordion a’r ffidlau chwalu’n ddigyfaddawd drwy’r hen ganeuon.

Arbrofi yw'r gêm i Calan – y nod yw rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth ein cyndeidiau - cewch ddawnsio, neidio, a gollwng eich peint i fiwsig na wyddoch ei fod yn 200 oed!

'Kân' yw trac agoriadol yr albym newydd – cân sy’n cynnwys harmoniau brodorol arswydus yr hen ganu pwnc – hanner canu, hanner llafar-ganu ac mi glywir yn aml ers stalwm wrth adrodd salmau yng nghapeli Sir Benfro. 30 eiliad yn ddiweddarach, mae'r cwbl wedi trawsnewid i mewn i rap ddwyieithog i gyfeiliant curiadau hip-hop llesmeiriol.

Er hyn, mae Calan yn dal i barchu'r hen gerddoriaeth, ac o dro i dro maent yn cofio i'w chwarae yn dryw i'r traddodiad…nes i'r bâs gicio nôl i mewn unwaith eto!

Mae'r sengl, 'Apparition' (ynghyd â fideo newydd) yn olrhain hanes y tylwyth teg.

Yn ôl dyddiaduron y Parch. Edmund Jones, daroganwr yng Nghymru yn y deunawfed ganrif, nid creaduriaid swynol a phert mo rhain, ond cythreuliaid arswydus fyddai'n herwgipio pobl ar eu ffordd yn ôl o'r dafarn min nos.

Dywedir eu bod wedi ffoi gyda dyfodiad y diwydiant haearn a glo, ond mae Calan yn cadw'r atgofion yn fyw gyda ffidlau ffrwydrol, offer taro trwm a dawnsio cyfoes.

Mae 'Solomon’ yn adrodd hanes dyn sy'n gweiddi am gymorth Beiblaidd gan ei fod yn methu'n lân a bachu hogan – dim Tinder i'w helpu yn yr hen ddyddiau!

Cawn hefyd y clasur 'Pe Cawn i Hon', ond y tro yma i gyfeiliant Ffender Stratocaster ac amp vintage

 'The Big D' sy’n cloi’r albym, ac mae’n agor gyda dawns glocsen fodern – stepiau traddodiadol y bencampwraig Beth yn asio'n berffaith gyda synau sosbenni, padellau a size 15s byddarol Patrick.

Dyma gerddoriaeth sydd wir yn hanesyddol, ac yn ddarn annatod o arlwy draddodiadol cyfoethog Cymru.

Er bod Calan yn hen ddigon gwybodus am y sachbib Gymreig, a'i bwysigrwydd o fewn y traddodiad...prif nod eu defnyddio yw byddaru’r rhai sy'n gwrando. 

Rhyddheir ‘Solomon’ 14 Ebrill cyn i Calan fentro ar daith – gan berfformio mewn 26 o leoliadau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban ym mis Ebrill a Mai – ac yna ymlaen i Borneo Rainforest Festival, Denmarc, UDA, Tsiena, Awstralia a Phortiwgal -  mae'n dipyn o newid o'u dyddiau cynnar yn bysgio ar strydoedd Caerdydd! 

Noson lansio – 14 Ebrill yn Buffalo Bar, Caerdydd – mynediad am ddim.  Alun Gaffey yn westai gwadd a set gan Calan.

Rhannu |