Cerddoriaeth

RSS Icon
18 Awst 2011

Clasuron cynnar Godre'r Aran

Mae Cwmni Sain yn ei hystyried hi’n fraint cael cyhoeddi casgliad o rai o glasuron mwyaf y byd cerdd dant, sef y caneuon cyntaf i gael eu recordio gan Gôr Godre’r Aran, dan arweiniad y diweddar Tom Jones, Llanuwchllyn.

 

Cyhoeddwyd y record gyntaf gan Gwmni Delysé yn 1954, ac ar honno mae’r gosodiadau enwog o “Caru Cymru” Crwys, “Adar Rhiannon” Gwenallt a “Twm Penceunant” W.J.Gruffydd.

 

“Mae miloedd ohonom yn cofio’r argraff a wnaed gan y caneuon hyn yn y 50au a’r 60au”, meddai Dafydd Iwan o gwmni Sain. “Roedd rhywbeth ysgytwol o newydd yn y canu; lleisiau cryf a soniarus, ond yn canu gyda dealltwriaeth dwfn o’r geiriau. Ac y mae’r apêl yn dal hyd heddiw, a llawer wedi gofyn am gael rhoi’r clasuron hyn ar Gryno-Ddisg”.

 

Dilynwyd y recordiad cyntaf hwnnw gan un arall yn 1967, hefyd ar label Delysé, ac yn awr y mae traciau’r ddwy albwm i’w clywed eto ar CD “Clasuron Cynnar Godre’r Aran” (SAIN SCD 2640).

Rhannu |