Cerddoriaeth
Cyfle i ennill Tlws Sbardun a £500
Unwaith eto eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cystadleuaeth i wobrwyo cân werinol ac acwstig ei naws, gyda Thlws Sbardun a £500 yn wobr i’r enillydd.
Mae’r gystadleuaeth yn ddathliad o gyfraniad Alun ‘Sbardun’ Huws i fyd cerddoriaeth a llenyddiaeth Cymru, fel un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig y blynyddoedd diwethaf.
Elidyr Glyn, cerddor ifanc o ardal Caernarfon oedd enillydd cyntaf y wobr y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, a derbyniodd dlws hyfryd o waith yr artist, Carwyn Evans, i’w gadw am flwyddyn.
Dros y misoedd diwethaf, mae Elidyr wedi bod yn perfformio ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â chael cyfle i recordio sesiwn arbennig ar gyfer BBC Radio Cymru fel enillydd cyntaf Tlws Sbardun, fel rhan o gyfres o sesiynau gan nifer o artistiaid.
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o gynnal cystadleuaeth Tlws Sbardun unwaith eto eleni.
"Roedd safon y gystadleuaeth y llynedd yn arbennig o uchel, gyda nifer yn haeddu derbyn y Tlws, a gobeithio y gwelwn gystadleuaeth o’r un anian eto eleni ym Môn.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwenno a chyfeillion Sbardun am gynnig y gystadleuaeth, gan roi cyfle i berfformwyr a chyfansoddwyr Cymraeg fynd ati i greu cân newydd a gwreiddiol.
"Roedd cyfraniad Sbardun i’r sîn ac i Gymru yn enfawr, a braf yw gwybod bod modd dathlu hyn unwaith eto eleni drwy’r gystadleuaeth hon.”
1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth a dylid cyflwyno’r gân ar gryno-ddisg neu MP3. Caniateir cywaith.
Mae ffurflenni cais ar gael yn y rhestr testunau neu ar-lein, http://www.eisteddfod.cymru/cystadlu/rhestr-testunau
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Linda Griffiths a Dewi Pws.
Mae’r Tlws a’r wobr ariannol yn rhoddedig gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.
Llun: Alun ‘Sbardun’ Huws