Cerddoriaeth

RSS Icon
23 Chwefror 2017

Rebecca Evans yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd Rebecca Evans yn ymuno â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i ddathlu nawddsant Cymru yn Neuadd Dewi Sant.

Bydd y soprano a’r artistiaid newydd addawol Joshua Owen Mills a Charlie Lovell-Jones yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru gyda cherddoriaeth gan Syr Karl Jenkins, Paul Mealor, Ivor Novello, Morfydd Owen a Joseph Parry.

Ac yntau’n enillydd y fedal gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yn un o feiolinwyr mwyaf addawol y DU, mae Charlie Lovell-Jones, 18 o Gaerdydd, yn dod â’r ddwy sgil i'r llwyfan mewn perfformiad arbennig o gyfansoddiad newydd gyda Rebecca o’r enw Cariad Cyntaf.

Dywedodd Rebecca Evans: "Dwi'n credu bod yr awyrgylch yn mynd i fod yn drydanol.

"Bydd y gerddoriaeth a ddewiswyd yn ysgogi hynny yn sicr, yn enwedig gyda thonau godidog Cerddorfa'r BBC, yn un o'r neuaddau cyngerdd gorau yn y byd (a enwyd ar ôl ein Nawddsant).

"Dylai fod yn gyngerdd i'w fwynhau ac yn gyngerdd i'w gofio. 

"Dwi wedi adnabod Charlie ers tipyn a dwi wrth fy modd ag ef. 

"Mae e mor anhygoel o dalentog ac mae'n chwarae'r ffidil mor ddiymdrech.

"Mae cerddoriaeth yn arllwys allan ohono - mae'n wych ei fod yn gyfansoddwr o fri hefyd."

Ychwanegodd Rebecca: "Dwi'n edrych ymlaen yn arw at ganu gyda Joshua Owen Mills. 

"Mae e mor dalentog a byddwn ni'n canu un o'r deuawdau Cymraeg hynaf erioed a fydd yn gymaint o hwyl, yn enwedig i mi, gan fod fy hen fam-gu wedi chwarae'r piano ym mherfformiad cyntaf erioed o Hywel a Blodwen, gyda Joseph Parry ei hun ar y podiwm!"

Dywedodd Charlie Lovell-Jones: "Dyma'r tro cyntaf i mi berfformio fy ngherddoriaeth fy hun gyda cherddorfa, a dwi'n gyffrous tu hwnt. 

"Mae cael y soprano byd enwog Rebecca Evans yn canu fy ngherddoriaeth yn freuddwyd.

"Dwi wedi gweithio gyda Rebecca o'r blaen ac roeddwn i'n ymwybodol o sut y gallai ei llais ychwanegu at fy ngherddoriaeth.

"Mae'r darn lleisiol yn heriol iawn ac yn llawn lliw, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed Rebecca yn dod â fy nodau i'n fyw."

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau, ewch i http://bbc.co.uk/bbcnow neu ffoniwch Linell Cynulleidfaoedd y BBC ar 0800 052 1812.

Lluniau: Rebecca Evans, Charlie Lovell-Jones a Joshua Owen Mills

Rhannu |