Cerddoriaeth

RSS Icon
20 Chwefror 2017

Gwobrau’r Selar: Y Bandana’n brif enillwyr

Y grŵp nad ydynt mwyach, Y Bandana, oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar mewn noson enfawr arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn.

Cipiodd y grŵp o ardal Caernarfon, a chwalodd yn hydref 2016, bedair o wobrau ar y noson – Record Hir Orau, Gwaith Celf Gorau, Cân Orau  a Band Gorau.

Mae’r grŵp wedi bod yn un o’r rhai amlycaf, a mwyaf poblogaidd yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac maen nhw wedi ennill teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar deirgwaith yn y gorffennol yn 2010, 2011 a 2012.

Mae’r aelodau i gyd wedi bod yn gweithio ar brosiectau amgen yn ddiweddar a cyhoeddwyd y byddai Y Bandana’n dod i ben gyda gig olaf yng Nghaernarfon ym mis Hydref.

Roedd Gig Olaf Y Bandana ar restr fer categori ‘Digwyddiad Byw Olaf’ y gwobrau, ond cipiwyd y wobr honno gan Maes B, a ddaeth i’r brig hefyd yng nghategori’r ‘Hyrwyddwr Gorau’.

Cafodd Yws Gwynedd noson dda hefyd yn cipio dwy wobr sef ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ am fideo ei sengl ‘Sgrin’, gan hefyd ennill teitl ‘Artist Unigol Gorau’ am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd yn noson gofiadwy iawn i’r grŵp ifanc o Bwllheli, Ffracas, wrth iddyn nhw gipio’r wobr am y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ yn ogystal â ‘Record Fer Orau’ am eu EP cyntaf, Niwl.  

Yn y categorïau eraill ar y noson, cipiodd Osian Williams o Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog a Siddi y wobr am yr ‘Offerynnwr Gorau’, a Lisa Gwilym ddaeth i’r brig yn y bleidlais dros y ‘Cyflwynydd Gorau’.

“Teg dweud bod heno wedi bod yn noson gofiadwy arall, ac mae mor braf gweld dros 1000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg,” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Holl egwyddor Gwobrau’r Selar ydy bod yr enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais boblogaidd, a does dim amheuaeth bod Y Bandana wedi bod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd hanes y sin Gymraeg. Y nhw ydy grŵp mwyaf llwyddiannus hanes Gwobrau’r Selar, ac mae’n briodol eu bod nhw’n cipio llond trol o wobrau ym mlwyddyn olaf y grŵp. Maen nhw wedi bod yn grŵp pwysig, ac yn haeddu’r clod yma.”

Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2016:

  • Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana
  • Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B
  • Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Lisa Gwilym
  • Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Yws Gwynedd
  • Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Ffracas
  • Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn): Maes B
  • Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Osian Williams
  • Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Fel Tôn Gron – Y Bandana
  • Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Y Bandana
  • Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Fel Tôn Gron – Y Bandana
  • Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Niwl - Ffracas
  • Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Sgrin – Yws Gwynedd

Llun: Y Bandana a’r wobr ‘Record Hir Orau (Y Selar)

Rhannu |