Cerddoriaeth

RSS Icon
12 Awst 2011

Gŵyl yn mynd o nerth i nerth

Mae gŵyl gerddorol fwyaf Dyffryn Conwy, Gŵyl Gwydir yn ei hôl gyda lleoliad newydd ac arlwy gyffrous o artistiaid yn perfformio.

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r trefnwyr wedi penderfynu bod yr amser wedi dod i dyfu, gan benderfynu symud i Glwb Rygbi Nant Conwy.

Fe fydd dau lwyfan yn rhedeg gefn wrth gefn eleni, gan gynnwys un awyr agored, wrth i’r ŵyl gynnig mwy fyth o artistiaid gwych. Ymysg y perfformwyr eleni bydd Sibrydion, Yr Ods, Y Niwl a Cowbois Rhos Botwnnog – rhai o enwau mwyaf y sin.

“Mae’r penwythnos yn dechrau ar nos Wener 9 Medi, a hynny gyda dau o fandiau gorau Cymru, y band syrff sy’n ffres o daith gyda Gruff Rhys, Y Niwl, a’r band poblogaidd Cowbois Rhos Botwnnog,” meddai’r trefnydd, Gwion Schiavone.

Bydd y gŵr lleol, Dan Amor, sydd ar fin rhyddhau ei albwm newydd, ynghyd â’r ddeuawd hynod o gynhyrchiol, Trwbador hefyd yn diddanu’r dorf ar y noson agoriadol.

“Ar ôl noson eclectig i gynhesu’r dorf, bydd yr ŵyl yn codi gêr am hanner dydd ddydd Sadwrn gyda dau lwyfan, un awyr agored ac un o fewn bar y clwb, bydd dros 14 o fandiau yn diddannu,” ychwanegodd Schiavone.

Sibrydion fydd prif atyniad dydd Sadwrn mae’n siŵr, gyda llwyth o fandiau mwyaf cyffrous y sin, fel Yr Ods, Colorama, a Sen Segur yn llenwi’r diwrnod. Mae’r lleoliad newydd yn cynnig cyfle i gyflwyno gweithgareddau amrywiol i’r ŵyl a bydd rhain yn cynnwys DJs, pentref bwyd, pentref plant, pabell arlunio, a stondinau celf a chrefft eleni.


Gigs ‘showcase’

penwythnos yma

I gydfynd â chyhoeddi’r arlwy mae’r trefnwyr yn cynnal dau gig ‘showcase’ y penwythnos hwn – un yn Nhrefriw a’r llall ym Mhorthmadog. Bydd Race Horses, Jen Jeniro ac Y Bandana yn chwarae yn y Fairy Falls, Trefriw nos Wener, 12 Awst, tra bod Mr Huw a Sen Segur yn cymryd lle Y Bandana yng Nglwb Chwaraeon Madog nos Sadwrn, 13 Awst. “Bwriad y gigs yma ydy hyrwyddo’r ŵyl a rhoi cyfle i bobl glywed rhai o’r bandiau sy’n perfformio,” meddai Schiavone.

Lineup lawn Gŵyl Gwydir 2011

Nos Wener 9 Medi, £6, Clwb Rygbi Nant Conwy
Y Niwl
Cowbois Rhos Botwnnog
Dan Amor
Trwbador

Dydd/Nos Sadwrn 10 Medi, £12/6, Clwb Rygbi Nant Conwy
Sibrydion
Yr Ods
Llwybr Llaethog
Jen Jeniro
Colorama
The Keys
Plant Duw
Land Of Bingo
Mr Huw
Yucatan
Houdini Dax
Sen Segur
Tim Ten Yen
Alun Gaffey

Llun: Sibrydion

Rhannu |