Cerddoriaeth

RSS Icon
12 Awst 2011

Hyrwyddo a marchnata cerddoriaeth

MAE Cerdd Gymunedol Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau tair blynedd arall o ariannu ar gyfer ei brosiect cerdd Iaith Gymraeg – Ciwdod. Yn cychwyn ar ei 7fed blwyddyn, mae Ciwdod wedi rhoi help llaw i nifer o actau Cymraeg eu hiaith megis Yr Ods, Race Horses (Radio Luxembourg), Plant Duw, a Derwyddon Dr Gonzo i enwi dim ond rhai.

Mae Ciwdod yn gweithio ar lefel sylfaenol yn darparu gweithdai ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes yn yr iaith Gymraeg. Mae hefyd yn gweithio gyda cherddorion mwy profiadol yn darparu mentora, cefnogaeth a chanllaw ar gyfer y rhai sy’n chwilio am yrfa broffesiynol mewn cerddoriaeth.

Eleni, mae Ciwdod yn lansio cynllun arloesol newydd wedi ei anelu at ddatblygu sgiliau ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn hyrwyddo a marchnata cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Bydd y prosiect yn cynnal gweithdai sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cerdd yn cynnwys hyrwyddo, marchnata, rheoli a chynllunio. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn datblygu sgiliau trwy weithgareddau a fydd yn archwilio pob agwedd o greu cerddoriaeth a’i hyrwyddo. Mae’r prosiect yn ceisio cael mwy o bobl ifanc i ymgymryd â rolau ‘tu ôl i’r llwyfan’ yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn parhau ei bartneriaeth sefydledig gyda BBC Radio Cymru yn cynnal gweithdai cerdd ar Daith Ysgolion flynyddol C2. Mae’r daith eleni’n cychwyn yn yr hydref a bydd yn darparu gweithgareddau ar gyfer ysgolion ar draws Cymru.

Mae’r Gyfansoddwraig a’r Cerddor, Mirain Evans wedi cael ei phenodi i redeg y cynllun.

Meddai: “Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda cherddorion ifanc a’u gweld yn cymryd rhan mewn creu cerddoriaeth Gymraeg oddi fewn eu cymunedau eu hunain.”

Rhannu |