Cerddoriaeth

RSS Icon
30 Ionawr 2017

Cwlwm Celtaidd 2017 yn cynnal cystadleuaeth corau plant

Cynhelir cystadleuaeth corau plant am y tro cyntaf fel rhan o’r ŵyl ryng-Geltaidd Cwlwm Celtaiff ar 12 Mawrth, ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.

Bydd plant ysgolion cynradd o dde Cymru yn cael y cyfle i berfformio a chystadlu yng nghystadleuaeth corawl cyntaf Cwlwm Celtaidd. Bydd plant ifanc dan 11 oed yn perfformio caneuon o draddodiadau gwerin o Gymru a thu hwnt.

Bydd y gystadleuaeth gorawl yn ychwanegu at gystadleuaeth Cerddor Ifanc yr Ŵyl sydd wedi bod yn croesawu offerynwyr ifanc, 10 i 18 oed, o’r gwledydd Celtaidd i gystadlu a pherfformio.

Enillydd Cerddor Ifanc yr Ŵyl yn 2016 oedd Aneirin Jones, ffidlwr 18 oed o Bontardawe.

Bydd Aneirin yn perfformio gydag enillydd y wobr yn 2015, Dylan Cairns-Howarth yn yr ŵyl eleni.

Dywed Aneirin: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad hynod o wych wrth i bob beirniad roi cyngor ynglŷn a fy mherfformiad, boed yn sylwad technegol neu sut i wella fy mherfformiad ymhellach.

"Fu'n gyfraniad enfawr i’r ffordd rwy’n ymdrin, perfformio ac ymarfer fy repertoire.”

Ymysg y perfformwy yr yr ŵyl eleni mae Jamie Smith’s Mabon a Calan.

Llun:  Aneirin Jones gyda beirniaid y gystadleuaeth y llynedd

Rhannu |