Cerddoriaeth
Calan a Jamie Smith’s Mabon yw prif artistiaid Cwlwm Celtaidd 2017
Y bandiau gwerin-Geltaidd Calan a Jamie Smith’s Mabon yw prif artistiaid Gŵyl Ryng-Geltaidd Cymru eleni.
Bydd Calan a Jamie Smith’s Mabon yn ymuno ag artistiaid eraill i berfformio ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar Fawrth 10-12fed, ar gyfer yr ŵyl flynyddol sy’n dathlu cerddoriaeth a dawns o’r gwledydd Celtaidd.
Am benwythnos cyfan bydd modd mwynhau perfformiadau, gweithdai, dawnsio stryd yn ogystal â dangosiad o gêm rygbi 6 Gwlad Cymru v Iwerddon ar sgrin fawr am ddim ond £25.
Mae’r band gwerin ifanc o Gymru, Calan, wedi gwneud enw i’w hunain ym Mhrydain a thu hwnt. Byddant yn hyrwyddo eu halbwm newydd, ‘Solomon’ ar daith byd eang yn fuan. Bydd cyfle i glywed blas o'r deunydd newydd yn Cwlwm Celtaidd ar nos Sadwrn, Mawrth 11eg.
Dywed Angharad Jenkins, sy’n chwarae ffidil i Calan; "Dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Cwlwm Celtaidd eleni.
"Mae e’n bleser i fod yn rhan o ŵyl Gymreig, sy’n dathlu cerddoriaeth a dawns y gwledydd Celtaidd i gyd. Yn ogystal â hynny, mae’n braf i gwrdd â hen ffrindiau o Ynys Manaw, Yr Alban a mwy, a hynny ar ein stepen drws. Dwi’n siŵr fydd 'na barti mawr i’w gael ym Mhorthcawl dros y penwythnos!”
Ar nos Wener, Mawrth 10fed, bydd cyfle i fwynhau gêm rygbi 6 Gwlad Cymru v Iwerddon mewn noson hwyliog o gerddoriaeth a dawns gyda pherfformiad gan Jamie Smith’s Mabon i gloi’r noson.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y cyngherddau, neu docyn penwythnos ar wefan Pafiliwn y Grand.