Cerddoriaeth

RSS Icon
11 Awst 2011

Sengl gyntaf seren West End

Bu wythnos y ‘Steddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn un llawn cyffro i’r canwr Mark Evans. Yng nghanol bwrlwm y maes mi lansiodd y seren West End ei sengl gyntaf ac i brofi ei apel fel artist mi gyrrhaeddodd y sengl dau drac, un cân Gymraeg ac un Saesneg, siartiau caneuon byd iTunes. Roedd Adre’n ôl, sef cân a gyfansoddwyd i Mark gan Ynyr ac Angharad Llwyd, yn rhif 5 rhestr gwerthwyr gorau siart cerddoriaeth Byd iTunes diwrnod wedi’r lansiad!

Mae Mark wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf wrth iddo lwyfannu 8 perfformiad yr wythnos fel y cymeriad Fiyero yn y sioe Wicked yn y West End ynghyd â recordio ei albym unigol gyntaf fydd allan ar label Sain mis Hydref.

"Dyma fy albym gyntaf" meddai Mark "a dwi’n hollol ecseitid!"

"Ym mis Medi 2010, cychwynnais ar y dasg fawr o geisio penderfynu ar ganeuon fy albym gyntaf, a doedd gen i ddim syniad tasg mor anodd fyddai hi. Dwi’n ei chael hi’n anodd i wneud penderfyniadau beth bynnag, ac felly mi gyfyngais ar y dewis drwy wneud yr albym yn un bersonol, yn dilyn fy hynt dros y ddeng mlynedd ers imi adael adre."

Fel Cymro Cymraeg, mae Mark yn falch iawn o’i wreiddiau, ac yn awyddus i gyfleu hynny trwy’r albym a dyna’r rheswm dros recordio oleiaf hanner traciau’r albym yn Gymraeg. Roedd yn awyddus i gyflwyno amrywiaeth o ganeuon fyddai’n siwr o bleisio ei ffans yma’n Nghymru ynghyd a’u ddilynwyr dros glawdd Offa.

Wedi teithio’r wlad yn actio a pherfformio, mae Mark hefyd yn credu’n gryf yn yr angen i roi rhywbeth yn ôl i’w gymuned leol. Mae’r cynllun ‘West End in Wales’ yn syniad a grewyd gan Mark nol yn Awst 2006. Mae’r cynllun cyffrous yma yn rhoi cyfle i bobl ifanc o Ogledd Cymru weithio ochr yn ochr â Mark a’i gyfeillion o Lundain am wythnos bob mis Awst, gan lwyfannu sioe ar ddiwedd y cwrs.

Bydd Mark yn perfformio caneuon o’i albym newydd yng Ngwyl Gobaith, nos Sul 28ain o Awst a bydd Sain yn rhyddhau’r albym i’r siopau mis Hydref. Cyhoeddi’r manylion pellach ynglyn â lansiad yr albym ynghyd ag unrhyw ddigwyddiadau byw ar wefan, tudalen facebook a twitter Mark yn fuan.

Rhannu |