Cerddoriaeth
Sŵnami yn mynd o nerth i nerth
Mae wedi bod yn wyth mis anhygoel i’r grŵp ifanc Sŵnami o ardal Dolgellau.
Cafodd yr hogiau eu profiad cyntaf o lwyddiant yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, BBC Radio Cymru wrth iddynt gyrraedd y rownd derfynol.
Er dod yn ail yn y gystadleuaeth honno profodd eu cyfansoddiad ‘Mwrdwr ar y Manod’ yn boblogaidd iawn trwy gael ei chwarae’n aml iawn ar Radio Cymru.
Ond nid Radio Cymru’n unig sy’n mwynhau cerddoriaeth Sŵnami, chwaraewyd y trac ddwywaith gan Jen Long ar Radio 1 ac hefyd gan Adam Walton ar Radio Wales sy’n disgwyl pethau mawr gan y grŵp.
Ond tydi pethau ddim yn gorffen yma. Sŵnami enilliodd Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam gan ddod yn gyntaf allan o saith grŵp ifanc talentog.
Derbyniodd y band wobr o £1000 a chyfle i recordio sesiwn ar gyfer C2. Gallwch ddisgwyl i’r band ryddhau eu CD gyntaf yn y dyfodol.
Mwynhaodd Sŵnami ymddangosiadau yn ddiweddar yn y Sesiwn Fawr a Gŵyl y Glaw ac mae edrych ymlaen am yddangosiad yn Wâ Bala ganol Awst.
Aelodau’r Band yw Ifan Davies (gitar), Ifan Ywain (gitar), Gerwyn Murray (gitar fâs), Tom Ayres (drymiau) and Huw Ynyr Evans (allweddellau).