Cerddoriaeth

RSS Icon
29 Medi 2016

Prosiect cydweithiol Bendith yn mynd ar daith

Mae prosiect cydweithiol y bandiau Cymraeg Colorama a Plu, ‘Bendith’, yn cael ei ryddhau -  eu halbwm gyda thaith a fydd yn ymweld â Salford, Caernarfon a Chaerdydd yr wythnos nesaf.

Wedi adolygiadau da ar gyfer eu sengl ‘Danybanc’ a gafodd ei ryddhau’n ddigidol ar 9 Mai, bydd yr albwm ‘Bendith’ yn cael ei ryddhau ar 7 Hydref, gyda’r prosiect yn ymweld â Eglwys  Sacred Trinity Salford ar 6 Hydref,  Galeri, Caernarfon ar 7 Hydref ac Eglwys St Ioan, Treganna ar 8 Hydref.

Dywed Marged Rhys o Plu: “Rydym wedi’n cyffroi ac yn edrych ymlaen yn fawr i fynd â Bendith ar daith a chael ensemble anhygoel yn ymuno ar y llwyfan.

"Dyma’n unig gigs yng Nghymru fel Bendith yn y dyfodol agos felly rydym yn gobeithio gweld cymaint o bobl a phosib i’n clywed yn fyw.”

Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan wreiddiau – ymdeimlad o le, teulu a chartref.

Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely.

 

Wedi ei ryddhau ar label Agati, bydd yr Albwm ar gael ar ffurf CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify, Amazon o Hydref 07, 2016 ac eisoes ar gael o siopau lleol.

 

Mae tocynnau ar gael o wefan www.bendith.cymru

Rhannu |