Cerddoriaeth

RSS Icon
23 Awst 2016
Gan IESTYN JONES

Cian Ciáran yn edrych ymlaen at ddathlu ail-lansiad Fuzzy Logic y Super Furry Animals

MAE hi ychydig dros flwyddyn ers i Cian Ciarán ddychwelyd i’r sin cerddorol gyda’r Super Furry Animals yn dilyn seibiant estynedig.

Ar ôl yr ‘hiatus’ o chwe blynedd, gofynnais i Cian, sy’n wreiddiol o Bentraeth, Ynys Môn, os oedd o wedi disgwyl cymaint o groeso nôl efo’r band.

Meddai: “Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i ddisgwyl. Ar ôl chwe blynedd i ffwrdd, doeddem ni ddim yn gwybod os oedd pobl yn dal yn ymwybodol ohonom. Ond, ie, roedd o’n groeso cynnes ac yn galonogol iawn. Fe wnaeth i ni eisiau dyfalbarhau a gwneud mwy.

“Y llynedd, fe wnaethom ddwywaith cymaint ag yr oeddem wedi’i gynllunio, ac mae pethe wedi treiddio i mewn i’r flwyddyn hon.”

Rŵan, mae’r grŵp newydd gyhoeddi taith newydd ar ddiwedd y flwyddyn, i chwarae eu sioeau mwyaf ers blynyddoedd, gan gynnwys noson yn y Roundhouse yn Llundain a noson arbennig yn y Motorpoint yng Nghaerdydd.

Nod y daith fydd dathlu ail-lansiad eu halbwm cyntaf, Fuzzy Logic. 

“Mae’n 20 mlynedd ers dechreuodd y cyfan ac i Fuzzy Logic gael ei ryddhau,” meddai Cian.

Mae’r fersiwn newydd o Fuzzy Logic yn cynnwys record finyl a thraciau bonws o’r archifau i gyd-fynd â’r fersiwn wreiddiol.

Bydd ffyddloniaid y grŵp yn dal i gofio’r gigs mawr a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Bangor a’r Pafiliwn yn Llangollen flynyddoedd yn ôl, ond fydd y band yn ymweld â gogledd Cymru y tro yma?

“Gŵyl Rhif 6 yw’r prif ddigwyddiad cyn belled ag y mae gogledd Cymru yn y cwestiwn ar hyn o bryd. Mi fasa gwneud sioe ein hunain yn y gogledd yn wych ond, am y tro, y prif ffocws yw perfformio sioe wych yng Ngŵyl Rhif 6.”

Dyma’r tro cyntaf i’r Super Furry Animals chwarae yng Ngŵyl Rhif 6 ac mae’n swnio fel bod Cian yn edrych ‘mlaen at y gig.

“Mae gen i lawer o atgofion melys o Bortmeirion,” meddai. “Fel hogyn ifanc, dwi’n cofio cael amser gwych yn chwarae yno; i mi mae’n lle cyfarwydd.

“Es i i’r ŵyl ychydig o flynyddoedd ac mi wnes i  fwynhau; mae’n lleoliad swreal sy’n addas i gerddoriaeth y band.

“Dydan ni heb chwarae yn y gogledd orllewin ers Pesda Roc  yn 2004.

“Mae tri allan o bump ohonom yn dod o’r gogledd, felly mae’n achlysur arbennig.

“Er fy mod i’n byw yng Nghaerdydd rŵan, dwi’n dal i weld gogledd Cymru fel cartref.”

Ar ôl ffurfio yn 1993 ac yna arwyddo gyda’r label Creation yn 1995 (label Oasis a Primal Scream), fe gafwyd llwyddiant masnachol gyda’u halbwm cyntaf Fuzzy Logic.

A wnaeth y bachgen diymhongar o Bentraeth ddisgwyl y fath lwyddiant, mor fuan?

“Dim rili. Cymerais flwyddyn allan o’r coleg i wneud y mwyaf o’r cyfle gan feddwl y gall hyn fod fy unig gyfle.

“Ymhen dim roddem ni yn Stiwdios Rockfield yn recordio. Roedd bod mewn stiwdio yn beth eitha’ cyfarwydd ond roedd cael y cyfle i recordio mewn stiwdio mor eiconig a chyfoethog mewn hanes yn brofiad yn ei hun.”

Gyda Fuzzy Logic yn ennill canmoliaeth eang ac yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar y radio, cychwynnodd y Super Furries ar gam nesaf eu taith wrth ddechrau’r gwaith ar eu halbwm nesaf, Radiator.

Erbyn hyn, roedd Cian yn perfformio ar Top of The Pops ac yn wyneb rheolaidd yn yr NME a’r cylchgrawn Melody Maker.
Ond, sut ddigwyddodd hyn i gyd? Sut ddechreuodd y Super Furries?

“Roedd fy mrawd yn chwarae drymiau i Catatonia ar y pryd ac wedi bod isio dechrau’r SFA ers perth amser.

“Roeddwn i newydd symud i Gaerdydd yn 1994, roedd Gruff hefyd newydd symud i Gaerdydd ar ôl cyfnod yn byw yn Barcelona (Roedd Bunf a Guto eisoes yno wrth gwrs). 

“Roedd yr hogiau wedi recordio ychydig o demos gyda Rhys Ifans yn canu ac roeddent wedi bod yn recordio llawer o synths ac effeithiau gwahanol, felly roedd angen pumed aelod er mwyn ymgorffori’r miwsig i mewn i sioe fyw.

“Roeddem yn ymarfer o dan y bwâu rheilffordd yn y dref neu yn  hen stiwdio ‘Big Noise’.

“Roedd o’n hwyl ond roedd pawb  yn dal i ganolbwyntio ar y miwsig. 

“Chwaraeodd y band dair gig cyn i mi ymuno â nhw. Erbyn iddynt ddechrau chwarae’n fyw roedd Rhys wedi gadael i ddilyn ei yrfa actio ac roedd Gruff yn canu.

“Fy ngig gyntaf gyda’r band oedd mewn lleoliad o’r enw The Monarch yn Llundain. Yn fuan ar ôl hynny, mi wnes i lofnodi gyda’r label. Mae gen i fy mrawd i ddiolch a’r ffaith yr oeddwn yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

“Rhoddais gynnig i astudio cerddoriaeth ym Manceinion ond nid oedd lle i fi yno, ond cefais gynnig lle mewn ysgol ffilm yng Nghasnewydd. 

“Dyna sut wnes i lanio yng Nghaerdydd. Bryd hynny, roedd pawb yn mynd i’r un clybiau ac i mewn i’r un gerddoriaeth. Mae’n debyg mai tynged oedd o!” eglurodd  gyda’i acen ogleddol sydd mor gryf ag erioed .

Yn ystod ei yrfa fel cynhyrchydd, mae Cian wedi gweithio gyda sawl artist yn cynnwys y Kaiser Chiefs a’r Manic Street Preachers; mae o hefyd wedi ennill gwobr BAFTA am y trac sain i Pen Talar.

Fel disgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, beth oedd ei obeithion a’i uchelgeisiau bryd hynny?

“Fel y rhan fwyaf o hogia’ yn eu harddegau, nid oeddwn yn gallu aros i adael yr ysgol,” meddai gan chwerthin.

“Ar ôl ysgol mi es i goleg celf ym Mangor. Roeddwn yn byw am y penwythnos, pryd byddem yn mynd i bartïon mewn coedwigoedd ac ar draethau.

“Hefyd, dechreuais arbrofi gyda gwneud cerddoriaeth o amgylch yr amser yma gyda grŵp electronica o’r enw Wwzz, roedd hyn yn rhan fawr o fy addysg gerddorol.

“Roedd hi’n amser cyffrous i gerddoriaeth, roedd ‘Acid House’ yn gwneud ffordd i ‘Tecno’ a ‘Hardcore’ yn datblygu i ‘Jungle’ ac yn ei dro i ‘Drum and Bass’.”

Ar ôl gadael Coleg Menai ym Mangor, aeth Cian i astudio ffilm yng Nghasnewydd, cyfrwng sy’n dal yn ei swyno hyd heddiw.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi gwneud ychydig o draciau sain i gyd-fynd â chynyrchiadau teledu a ffilm.

“Hoffwn wneud mwy o hyn gan y bydd yn gyfle da i weithio gyda ffilm eto.

“Cefais fy swyno gan ffilm ers gwylio ffilmiau Scorsese a Kubrick. 

“Dwi wastad wedi bod â diddordeb, dyna pam wnes i benderfynu gwneud ffilm yn y coleg.

“Mi faswn wrth fy modd cyfarwyddo ffilm un diwrnod, fodd bynnag, mae’n fyd newydd i mi, felly, am y tro, dim ond breuddwyd yw hi!” 

Yn fwy diweddar, mae Cian wedi gorffen ei sgôr gerddorfaol lawn gyntaf yn seiliedig ar yr hen stori garu drasig yn Nant Gwrtheyrn, Rhys a Meinir.

“Roedd gennai syniadau a chaneuon yr oeddwn wedi bod yn eu casglu a’u cofnodi ers blynyddoedd.

“Yna, tua phum mlynedd yn ôl, penderfynais  wneud defnydd o’r traciau hyn drwy edrych ar ychydig o wahanol lwybrau i wireddu’r prosiect.

“Clywais stori Rhys a Meinir yn fachgen ifanc, gan fy nhad, felly mi wnaeth daro tant dwfn gyda mi.

“Ar ôl ambell i wrthodiad a chyfres o gyfarfodydd mi gefais fy nghyflwyno i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

“Roedd yn broses hir ac yn gromlin ddysgu serth,” esboniodd, “ond, gobeithio y bydd yn werth yr ymdrech!”

• Mae’r Super Furry Animals yn chwarae Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ar nos Sul, 4 Medi.
• Bydd Rhys a Meinir yn cael ei berfformio yn Pontio, Bangor ar 19 Tachwedd.

Llun: Cian Ciarán gan KAREN F

Rhannu |