Cerddoriaeth

RSS Icon
15 Awst 2016

Colorama a Plu yn rhyddhau Bendith

Mae albwm prosiect cydweithiol y bandiau Cymraeg Colorama a Plu, Bendith, yn cael ei ryddhau yn fuan. 

Wedi adolygiadau da ar gyfer eu sengl Danybanc a gafodd ei ryddhau’n ddigidol o 9 Mai, bydd yr albwm Bendith yn cael ei ryddhau ar 7 Hydref gyda’r prosiect yn mynd ar daith yr un wythnos.  

Dywed Carwyn Ellis o Colorama: “Rydym i gyd mor falch o’r albwm – mae wir yn gywaith berffaith o gerddoriaeth Plu a’n un innau gyda llawer o bwyslais ar harmonïau lleisiol ac offeryniaeth wahanol.” 

Mae caneuon yr albwm wedi eu hysbrydoli gan wreiddiau – ymdeimlad o le, teulu a chartref gyda rhan helaeth o’r caneuon wedi eu seilio ar ardal benodol o Sir Gaerfyrddin sy’n agos iawn at galon Carwyn ac wedi enwi nifer o’r caneuon. 

Cafodd yr albwm ei recordio yn stiwdios Acapela, Drwm a Masonic Lodge a’i chyd-gynhyrchu gan Mason Neely.

Mae llawer o gerddorion eraill yn ymddangos ar yr albwm gan gynnwys Georgia Ruth a Patrick Rimes sy’n ychwanegu naws mwy cerddorfaol i’r caneuon.

Dywed Elan Rhys o Plu:  “Rydym mor falch o’r caneuon ac yn ddiolchgar iawn i Mason am sgorio rhannau cerddorion ychwanegol.

"Maen nhw wir yn ychwanegu rhywbeth i’r gerddoriaeth sy’n anfon ias lawr fy nghefn i!” 

Wedi ei ryddhau ar label Agati, bydd yr albwm ar gael ar ffurf CD mewn siopau ac yn ddigidol ar iTunes, Spotify, Amazon o 7 Hydref. 

Rhannu |