Cerddoriaeth

RSS Icon
16 Mehefin 2011

Soprano o Awstralia yn ennill Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows

Mae soprano ifanc o Awstralia wedi ennill Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows a'r brif wobr o £4,000.

Gwnaeth Suzanne Shakespeare argraff ar y beirniaid Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Hughes yn y diwgyddiad neithiwr a oedd yn rhan o Gŵyl! sef Gŵyl gelfydyddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â phump o unawdwyr eraill a gyrhaeddod y rownd derfynol am y wobr hon sy’n fawr ei bri.

Mae Suanne yn un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd (RCM) Opera Ryngwladol Llundain ac mae ganddi hefyd radd Meistr mewn Cerddoriaeth Perfformio (Prifysgol Melbourne, Awstralia) a Thrwydded Coleg y Drindod Llundain (Anrhydedd) mewn Llais a Piano.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio gyda Syr Thomas Allen mewn rhannau o Mozart Le nozze di Figaro, Krenek's Die Nachtigall ar gyfer Cyfres o CGyngherddau Siambr y RCM, rôl Erato yn Handel Terpsicore ar gyfer Gwyl Handel Llundain, a pherfformio premiere byd gan Dimitri Scarlato 'Rising Stars' yng Nghyfres Cyngherddau Siambr y RCM yn Cadogan Hall.

Ymhlith y cystadleuwyr eraill i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth oedd Kezia Bienek, Justina Gringyte, Ilona Domnich, Mary-Jean O'Doherty a Catrin Aur.
 
Mae cystadleuaeth Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows yn awr yn ei chweched blwyddyn, ac yn ei feirniadaeth dywedodd Gwyn Hughes Jones fod safon gan pob un yn y rownd derfynol yn ardderchog.

Dywedodd Is-Ganghellor, Yr Athro Medwin Hughes: "Rydym yn llongyfarch y bobl ifanc am gystadleuaeth o safon aruthrol. Rydym hefyd yn anfon ein dymuniadau gorau i Stuart Burrows a oedd yn methu bod yn bresennol ond rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn falch iawn gyda’r safon eleni.

"Mae Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows yn mynd o nerth i nerth ac mae’n anrhydedd bod y tenor byd enwog yn rhoi benthyg ei enw i'r gystadleuaeth".
 
Caiff Stuart Burrows ei ystyried yn un o Denoriaid gorau’r byd.Yn un o raddedigion Coleg y Drindod, mae wedi ymddangos yn Opera y Metropolitan, Efrog Newydd am ddeuddeg tymor yn olynol - record ar gyfer unrhyw ganwr o Brydain ac wedi ei wahodd gan y Met ar bedwar achlysur i ymuno â nhw ar daith o amgylch yr UDA.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ganolog i ddatblygu cyfleoedd ym maes y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru a bydd y Brifysgol yn lansio Academi Llais Rhyngwladol newydd Cymru dan gyfarwyddiaeth ei sylfaenydd, y tenor o Gymru Dennis O'Neill CBE, dydd Sadwrn yma, yng nghwmni y Fonesig Kiri Te Kanawa.

Bydd yr Academi yn rhoi hyfforddiant llais uwch i gantorion opera proffesiynol ifanc o bob cwr o'r byd yn ystod cyfnod cynnar eu gyrfaoedd.

Mae'r cwrs MA Astudiaethau Lleisiol Pellach yn cynnwys cyfarwyddyd trwy hyfforddi unigol a dosbarthiadau meistr a bydd pob datganiad lleisiol gan fyfyrwyr yr Academi ar agor i'r cyhoedd.

Llun: Yr enillydd Suzanne Shakespeare gyda’r beiriniad Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones a’r Is Ganghellor yr Athro Medwin Hughes

Rhannu |