Cerddoriaeth
Burum yn rhyddhau trydydd albwm o'r enw 'Llef
Bydd Burum yn rhyddhau eu trydydd albwm o'r enw Llef ym mis Mai.
Er taw emyn adnabyddus yw Llef, gwneuthiriad gweddill yr albwm yw trefniannau jazz newydd o hen alawon gwerin Cymraeg.
Recordiwyd y CD yn Sir Benfro, gydag Owain Fleetwood-Jenkins, ar benwythnos oer ym mis Ionawr. Fel ar ei ddau CD blaenorol (Alawon, 2007 a Caniadau, 2012) mae Burum yn parhau i greu cerddoriaeth newydd, cyffrous ac arloesol allan o hen alawon traddodiadol Cymraeg.
Mae Burum ar daith o Gymru i hyrwyddo'r CD newydd, a byddant yn perfformio yn Y Cŵps, Aberystwyth ar Nos Iau 19eg o Fai, Tafarn y Fic, Llithfaen ar nos Wener 20fed o Fai ac yn y Blue Sky Cafe, Bangor ar nos Sadwrn 21ain o Fai. Bydd yr holl gyngherddau yma yn dechrau am 8pm.
Mae Burum y cael ei arwain gan y trwmpedwr Tomos Williams (Fernhill) a'i frawd Daniel Williams ar y tenor sacs, ac mae'r band yn cynnwys sŵn unigryw Ceri Rhys Matthews (Fernhill) ar y ffliwt bren, sydd yn gosod sŵn y band tu allan i fyd y chwechawd jazz arferol, ac yn fwy yn y byd gwerinol.
Cynhwysa Llef nifer o alawon gwerin adnabyddus fel Titrwm Tatrwm, Y Gwydr Glas a Ffarwel i Aberystwyth, ond y cyd-destun a'r hyn sydd yn digwydd yn ystod y gân sydd yn gwneud y fersiynau yma mor unigryw a gwreiddiol.
Mae'r CD hefyd yn cynnwys caneuon llai cyfarwydd o'r traddodiad Cymreig fel Pryd O'wn ar Ddiwrnod a Gwêl yr Adeilad.
Mae Burum wedi bod yn bodoli ers bron i 10 mlynedd erbyn hyn, ac mae'r cyfeillgarwch a'r empathi cerddorol sydd wedi tyfu dros y cyfnod yma yn amlwg i'w glywed yn y gerddoriaeth.
Dros y blynyddoedd diwetha' mae Burum wedi bod ar daith o India ddwywaith, wedi chwarae yng Nghwyl Geltaidd Lorient, Llydaw, ac wedi chwarae yng ngwyliau Jazz Aberhonddu a Teignmouth.
Mae'r band eisioes wedi perfformio yn Nhrefynyw, Caerdydd, Abertawe ac Aberteifi fel rhan o'r daith a maent yn edrych ymlaen ymweld â gogledd Cymru diwedd yr wythnos 'ma.