Cerddoriaeth

RSS Icon
11 Mai 2016

Allan yn y Fan yn perfformio dau gyngerdd arbennig efo Malinky

Mae'r band Cymreig blaenllaw Allan Yn Y Fan, diolch i gefnogaeth cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru,yn mynd i berfformio dau gyngerdd ar y cyd gyda Malinky, grŵp canu gwerin blaenllaw o'r Alban, ddydd Iau 8 Mehefin (Memo Trecelyn) a dydd Gwener 9 Mehefin (Neuadd Victoria, Llanwrtyd).

Mae Malinky yn cynnwys tri canwr ac offerynnwyr gwych yn Steve Byrne (aelod sefydlu), Mark Dunlop o Ogledd Iwerddon a Fiona Hunter, canwr Albanaidd y flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Draddodiadol yr Alban 2015, ynghyd â'r cyfansoddwr ac aml-offerynnwr adnabyddus Mike Vass.

Cafodd eu halbwm 2015 "Far Better Days" a gynhyrchwyd gan eu hen gyfaill Donald Shaw ei chanmol i'r cymylau gan y cyfryngau: “Magnificent…a master-class in arrangement..another great release from one of Scotland’s finest.” R2 Magazine; “Full of grit and passion…a sweet and beautiful album.” Songlines

Yn y cyfamser mae Allan Yn Y Fan wedi dadlennu'r chwechawd newydd y llynedd, wedi bod ar daith lwyddiannus arall yn yr Alban yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o wyliau gwerin adnabyddus Prydain.

Dros y gaeaf bu’r band yn canolbwyntio ar wneud eu chweched albwm tra, yn ddealladwy, bu eu prif leisydd Catrin O'Neill hefyd braidd yn brysur gyda genedigaeth ei mab.

Mae'r dyddiadau hyn yn nodi dychweliad Allan Yn Y Fan i'r llwyfan yn eu mamwlad gyda'u perfformiad cyntaf ychydig cyn hynny yng Ngŵyl Gwanwyn Shepley yn Swydd Efrog ar 21/22 Mai.

Bydd y ddau gyngerdd hyn yn rhoi cyfle prin i gynulleidfaoedd yn Nhrecelyn a Llanwrtyd i glywed dau grŵp sy'n cyhwfan y faner dros y goreuon mewn cerddoriaeth draddodiadol ar gyfer eu dwy genedl.

Rhannu |