Cerddoriaeth

RSS Icon
06 Ebrill 2016
Gan KAREN OWEN

Aled Jones ar frig y siartau

MAE albwm newydd gan Aled Jones yn canu deuawd ag ef ei hun yn blentyn wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol.

Ar ôl ailddarganfod y recordiadau olaf ohono fel soprano bachgen, nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen, cafodd y syniad o’u defnyddio i ganu deuawd rhwng y bachgen a’r dyn.

Mae One Voice bellach yn curo albwm Adele 25 yn siart Amazon.

“Mae’n anhygoel bod ar y blaen i Adele yn y siart – sy’n rhywle nad ydw i erioed wedi bod o’r blaen ynddo yn fy mywyd cynt,” meddai’r canwr adnabyddus sy’n wreiddiol o Sir Fôn.

“Dw i’n edrych arno bob hanner awr oherwydd dw i prin yn ei gredu.”

Dywedodd fod ei lwyddiant wedi creu cryn argraff ar ei blant, Lucas ac Emilia.

“Maen nhw wrth eu boddau efo cerddoriaeth,” meddai.

“Ond dydyn nhw ddim yn tueddu i wrando llawer arnaf fi. A phan glywodd fy mab fod ei dad ar y blaen i Adele yn y siart roedd o’n meddwl mai camgymeriad oedd hynny!”

Mae Aled Jones ar fin cychwyn taith o gyngherddau mewn eglwysi cadeiriol pryd y bydd yn canu rhai o’r hen ffefrynnau yn ogystal â chaneuon o’r albwm newydd.

Rhannu |