Cerddoriaeth
Tenor enwog yn ymuno ar lwyfan gyda Katherine Jenkins
Cyhoeddwyd y bydd un o denoriaid gorau’r byd yn ymddangos ar lwyfan gyda’r seren canu clasurol Katherine Jenkins OBE yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Dyma fydd trydydd ymddangosiad Noah Stewart yn Llangollen mewn pedair blynedd wrth iddo baratoi i ymuno â’r mezzo soprano o Gymru ar y llwyfan mewn addasiad cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen.
Mae Stewart, sy’n hanu o Harlem, Efrog Newydd, yn edrych ymlaen yn arw i berfformio ochr yn ochr â Katherine wrth iddi bortreadu Carmen y sipsi danllyd, yn Llangollen, sydd yn lle ‘arbennig’ iddo ac yn un o’i hoff leoliadau cyngerdd.
Ar noson agoriadol yr ŵyl eleni ar nos Fawrth, 5 Gorffennaf, bydd yn chwarae prif ran Don José gyferbyn â Katherine.
Dywedodd Stewart: “Rydw i mor gyffrous ac mae am fod yn noson ragorol, ac mae Katherine yn gantores ardderchog ac yn berson gwirioneddol brydferth.
“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen. Mi wnaethon ni ganu yn Proms Glasgow dri haf yn ôl, ac rwy’n meddwl i ni ganu cyfres o ddeuawdau ar y noson olaf. Mae ganddi lais anhygoel ac mae’n ferch mor ddisglair a thalentog
Mae uchafbwyntiau eraill gŵyl eleni - y 70ain ers iddi ddechrau yn 1947 - yn cynnwys y seren bas bariton Bryn Terfel a’r tenor enwog Joseph Calleja ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf, ynghyd â Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues sy’n dod a’r llen i lawr ar yr ŵyl gyda pharti hwyliog ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.
Bydd cyngerdd nos Fercher yn ddathliad o theatr gerdd gyda Kerry Ellis, brenhines y gân ar lwyfannau’r West End, a Collabro a enillodd Britain’s Got Talent yn 2014.
Yn ymuno â nhw fydd doniau Academi Theatr Gerddorol Glasgow, CBC Voices o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cherddorfa Opera Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk.
Bydd cyngerdd nos Wener, Calon Llangollen, yn arddangos y gorau o’r cystadleuwyr rhyngwladol, a bydd hefyd yn cynnwys cystadleuaeth y Pencampwyr Dawns a Swae Carnifal y Caribî.
Daw’r cystadlu i ben ar nos Sadwrn gyda chystadleuaeth enwog Côr y Byd pan fydd corau amrywiol yn ymgiprys am Dlws Pavarotti. Ar y noson hefyd bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan y grŵp lleisiol poblogaidd, The Swingles.
Mae Stewart yn hen gyfarwydd â chwarae rhan Don José.
Dywedodd: “Rwyf wedi chwarae Don José fwy nag unrhyw ran arall ar hyd fy ngyrfa, o leiaf 36 gwaith. Rwyf newydd gwblhau taith 16 diwrnod ledled y DU gyda Scottish Opera gan chwarae’r union ran yma.
“Mae’n gymeirad gwych i’w chwarae a’i berfformio ac mae Don José yn rhywun mor gymhleth sy’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r ferch sipsi hudolus a rhywiol yma. Mae’n stori drasig o driongl serch, ac mae’r opera wedi cael ei pherfformio fwy o weithiau nag unrhyw un arall.
“Rwy’n credu bod pobl yn uniaethu mor hawdd gyda Carmen, Don José a’r Toreador deniadol Escamillo.
“Mae’n mynd i fod yn noson arbennig Rwy’n credu bod pawb yn gyfarwydd â Chân y Blodau o Carmen, mae’n un o’r ariâu operatig mwyaf enwog. Ac mae Don José yn ffigwr mor drasig; mae’n rhan anhygoel.”
Meddai Katherine Jenkins: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr gan fod y rhan yn un yr wyf wedi bod eisiau ei chanu ers amser. Astudiais Carmen yn yr Academi Gerdd Frenhinol cyn i mi raddio a chan fy mod yn mezzo soprano, dyma yw fy hoff opera.
“Rwyf bob amser wedi siarad am wneud hyn a dyma fydd y tro cyntaf y bydd fy nilynwyr yn gallu clywed yr holl arias mewn un noson.
“Rwyf fel arfer yn cynnwys sawl aria operatig yn fy nghyngherddau, ond dw i erioed wedi perfformio holl arias un opera arbennig mewn un cyngerdd.
“Mae Carmen yn gymeriad mor wych ac mae’n un o’r operâu mwyaf poblogaidd. Mae’n mynd i fod yn noson arbennig, ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar ato ac rwyf i’n bersonol yn teimlo’n gyffrous iawn i ddod nôl i Langollen am y digwyddiad cofiadwy yma.”
Mae Stewart wrth ei fodd o gael dychwelyd i Langollen, a dywed ei bod yn fan lle mae pawb yn siarad yr un iaith - iaith cerddoriaeth.
Dywedodd: “Rydych yn cyfarfod â phobl nad ydych erioed wedi eu cyfarfod o’r blaen, pobl o ben draw’r byd, ond eto i gyd rydych yn rhannu cariad arbennig at gerddoriaeth.
“Rwyf bob amser yn cael yr argraff bod pobl yn edmygu, parchu ac yn caru ei gilydd yn Llangollen a cherddoriaeth yw’r glud sy’n clymu pobl at ei gilydd. Mae pawb yn Llangollen yn enillydd.”
Mae cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, wrth ei fodd bod Noah Stewart yn dychwelyd i Langollen ac yn ymddangos ochr yn ochr â Katherine.
Meddai: “Mae hon yn argoeli bod yn noson anhygoel o gerddoriaeth i’r rhai sy’n ddigon ffodus i fod yn y gynulleidfa.
“Mae cael Katherine Jenkins OBE a Noah Stewart ar lwyfan gyda’i gilydd yn dipyn o bluen yn het yr Eisteddfod, byddent yn deilwng o lenwi unrhyw un o neuaddau cyngerdd mwyaf y byd.”
“Mae gennym hefyd rai artistiaid gwych fydd yn ymuno gyda Katherine a Noah ar y llwyfan. Bydd y bariton Adam Gilbert yn chwarae rhan El Dancairo a bydd Lukask Karauda yn chwarae rhan Escamillo.
“Mae gennym hefyd y mezzo soprano o Gymru Caryl Hughes, Aberdaron yn chwarae rhan Mercedes a’r tenor Trystan Griffiths, sy’n hanu o Glunderwen, Sir Benfro fydd El Remenado.
“Bydd cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, dan arweiniad baton Anthony Inglis, a lleisiau Côr Cytgan Clwyd o Ruthun yn ychwanegu at yr hyn fydd yn siŵr o fod yn noson hudolus o gerddoriaeth a drama.”
Am fwy o wybodaeth am yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gan gynnwys tocynnau, ewch i www.international-eisteddfod.co.uk