Cerddoriaeth

RSS Icon
26 Mai 2011

Sesiwn Fawr wahanol

WEDI cyfnod tawel am ddwy flynedd bydd y Sesiwn Fawr yn chwythu mewn i Ddolgellau mis Gorffennaf eleni. Ond gŵyl bur wahanol fydd y Sesiwn newydd, gŵyl fydd yn parhau am wythnos gyda’r pwyslais yn amlwg ar draddodiadau gwerin Cymru.

Serch y cyfeiriad newydd yma bydd yr ŵyl yn cychwyn ar nos Wener, 15 Gorffennaf efo gig roc mewn pabell ar y Marina – Y ‘Stafell Ddirgel efo Yr Ods enillwyr band y flwyddyn BBC Radio Cymru eleni, After an Alibi a enillodd ‘Brwydr y Bandiau’ ym Maes B Eisteddfod Glyn Ebwy, y band ifanc cyffrous o Gaernarfon Y Bandana, Y Candelas a’r Creision Hud heb anghofio Crash Disco a’r grŵp ifanc cyffrous o ardal Dolgellau Sŵnami.

“Da ni wedi llwyddo i gael enwau mwyaf y sin roc yng Nghymru i ddod i’r ‘Stafell Ddirgel,” meddai Bethan Ruth trefnydd y noson.

“Mae’r grwpiau yn gyffrous iawn a dwi’n siŵr y cawn ni noson wych.”

Nôl i’r gwreiddiau gwerin fydd hi ar y dydd Sadwrn gyda nifer o artistiaid gwerin gorau Cymru yn ymddangos yn y babell. Prif grŵp y noson fydd Mynediad am Ddim a fydd yn ymddangos yn Nolgellau am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Hefyd yn perfformio bydd Calan, Cowbois Rhos Botwnnog, y band gwerin/roc cyffrous Adran D a’r ffidlwr anhygoel o’r Bala Billy Thompson a’i fand.

Mae tocynnau ar gyfer y penwythnos eisoes ar werth trwy ffonio 01341 421800.

Yn dilyn y penwythnos agoriadol cynhelir nifer o ddigwyddiadau mwy lleol eu naws mewn gwahanol leoliadau yn Nolgellau a’r cyffiniau yn arwain at benwythnos ola’r Sesiwn ar ddydd Sadwrn, 23 Gorffennaf, Y Dyn Gwyrdd a’r Wiber. Yn seiliedig ar ddwy chwedl leol cynhelir diwrnod o ddawnsio traddodiadol.

Bydd tîm y Dyn Gwyrdd a thîm Gwiber Coed y Moch yn ymdeithio trwy ddawns tuag at sgwâr Dolgellau, a fydd ar gau i drafnidiaeth, lle cynhelir ymryson ddawns, Bydd un o’r timau yn cael eu coroni yn bencampwyr am y flwyddyn.

Rhannu |