Cerddoriaeth
Huw Chiswell a'r Band ar lwyfan y Maes nos Wener yr Eisteddfod
HUW Chiswell a’r Band fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes ar nos Wener yn yr Eisteddfod eleni yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau.
Mae’r slot nos Wener wedi datblygu’n un o uchafbwyntiau mawr wythnos yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf, gydag awyrgylch arbennig wrth i bawb baratoi ar gyfer y penwythnos.
Dyma fydd y tro cyntaf i Huw berfformio gyda band llawn ers pedair neu bum mlynedd ac meddai: “Mae cael cyfle i berfformio gyda band llawn yn eithaf anghyffredin erbyn heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen at bawb ddod nôl at ei gilydd ar y llwyfan.
“Roedden ni’n credu y byddai’r slot yma ar nos Wener wythnos yr Eisteddfod yn un werth ei chael, ac yn esgus i gael pawb nôl at ei gilydd mewn awyrgylch arbennig, gan fod ‘na sbel fach ers i ni wneud unrhyw beth ar y cyd.
“Dydyn ni heb benderfynu beth i’w chwarae eto ar y noson, ond mae’n siŵr mai cymysgedd o’r hen ffefrynnau a chaneuon ychydig yn fwy newydd gawn ni ar y noson.
“Cyfle braf i ddod â ffrindiau ynghyd ac ail-fyw rhai o’r profiadau cynnar!
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at y noson yn barod – mae hon yn slot gyda thipyn o draddodiad erbyn hyn, a gobeithio y bydd nos Wener eleni’n ddathliad i goroni wythnos yr Eisteddfod.
“Gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni, gobeithio y bydd nifer fawr o ddysgwyr ar y Maes.
“Mae nifer o’r caneuon cynnar yn adnabyddus i ddysgwyr gan eu bod nhw’n cael eu defnyddio ar rai o’r cyrsiau, felly rwy’n gobeithio y daw carfan fawr atom i fwynhau noson yn yr Eisteddfod ar ôl clywed rhai o’r caneuon wrth ddysgu Cymraeg.”
Yn wreiddiol o Gwm Tawe, bu Huw Chiswell yn aelod o grwpiau pop gan gynnwys Y Crach a’r Trwynau Coch cyn cychwyn perfformio a rhyddhau recordiau fel artist unigol.
Mae’n gyfansoddwr cerddoriaeth, yn offerynnwr dawnus, yn awdur geiriau caboledig, ac yn ganwr ysgubol.
Ac yn ychwanegol at hyn i gyd mae’r elfen arall honno – y ddawn i daro ar yr union air, yr union ddarn o alaw, yr union syniad sy’n cyfleu rhywbeth a all daro rhyw dant “yn nwfn y galon”.
Mae ei ganeuon yn gyfoes ac yn atgofus yr un pryd, ac yn codi o brofiad na ellir fyth ei amau.
Dyma’r noson gyntaf i’w chyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod eleni.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf a thocynnau ar werth o 1 Ebrill ymlaen.
Am wybodaeth a thocynnau ewch i www.eisteddfod.cymru