Cerddoriaeth

RSS Icon
26 Mai 2011
Karen Owen

Lleuwen a Llydaw

MAE cartref dros-dro Lleuwen Steffan yn lle “bywiog ond heddychlon, tawel ond egnïol” ac yno y cyfansoddwyd holl ganeuon ei halbwm newydd, ‘Tân’. Er hynny, mae’r gantores a’r gyfansoddwraig yn methu dweud yn bendant a fydd hi’n setlo a bwrw gwreiddiau yn Llydaw.

Rhyw unwaith bob mis, rhwng gweithio yn yr unig ysgol uwchradd iaith Lydaweg, Lise Diwan, a pherfformio’n achlysurol mewn sioeau cerdd Llydaweg, fe fydd Lleuwen Steffan yn dychwelyd i Gymru. Picio, fel petai.

Dyna sy’n cadw hiraeth draw rhag y ferch bengoch o Ddyffryn Ogwen sydd yr un mor gyfforddus yn canu ar lwyfan clwb jazz Ronnie Scott’s yn Llundain ag yr ydi hi yng ngŵyl werinol Lorient; neu’n diddanu’r literati Cymreig yn noson cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yng Nghaernarfon, fel yr oedd hi nos Iau yr wythnos diwethaf (19 Mai).

“Dw i’n gweld fy nheulu yn aml, felly mae’r hiraeth yn cadw draw oddi wrtha’i, diolch byth,” meddai Lleuwen Steffan wrth Y Cymro. “Dw i wedi bod yn ôl i Gymru bob mis ers y Nadolig yn gigio.

“Mi fuish i yma yn Ebrill efo 30 o Lydäwyr ifanc o Lise Diwan – maen nhw’n awyddus i ddysgu Cymraeg a gwneud teithiau cyfnewid efo Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, fy hen ysgol i. Yn mis Medi, mi fydda’ i’n cychwyn gneud gradd Llydaweg, trwy’r post, efo Prifysgol Rennes.

“Does gen i ddim cynlluniau na bwriadau pendant i aros yn Llydaw. Ond eto, does gen i ddim cynlluniau pendant i beidio aros chwaith. Gawn ni weld…”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |