Cerddoriaeth

RSS Icon
03 Mawrth 2016

Stereophonics fydd prif sêr cyngerdd mawreddog yn Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yr haf hwn

Yn perfformio gyda’r rocwyr o Gymru ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf bydd Catfish a'r Bottlemen sydd wedi ennill Gwobr Brit a gwesteion arbennig eraill.

Mae disgwyl i hyd at 20,000 o bobl fynychu'r gig, yr un cyntaf ers i Motorhead a Twisted Sister berfformio yn y cae ras yn 1982.

Treuliodd y brifysgol a’i phartner VMS Live fisoedd yn trefnu'r digwyddiad gyda'r nod o gynnal diwrnod o gerddoriaeth fyw o'r radd flaenaf i’r rhanbarth.

Meddai Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Mae hyn wedi cymryd llawer o amser ac ymdrech gan VMS Live a ninnau ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y perfformwyr gwych hyn yn ymddangos yma yn ystod yr haf.

"Mae'n fwy na 30 mlynedd ers i'r stadiwm gynnal cyngerdd felly mae cael enw mawr fel Stereophonics, a sêr ar eu cynnydd fel Catfish a'r Bottlemen, yn gamp fawr i ni.

"Rydym yn gobeithio mai’r sioe hon fydd y gyntaf o nifer o sioeau byw fydd yn digwydd yn y stadiwm dros y blynyddoedd nesaf wrth i'n perthynas â VMS Live dyfu’n gryfach."

Ychwanegodd: "Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddod â mwy o enwau mawr i Wrecsam, felly cewch wybod mwy yn y man."

Gyda’u gwerthiant gyrfa o 10 miliwn o albymau, mae gan y Stereophonics haf prysur iawn o’u blaenau gyda 10 o ddyddiadau wedi eu trefnu eisoes, gan gynnwys prif slot yng Ngŵyl Ynys Wyth ym mis Mehefin.

Dywed y grŵp Catfish and the Bottlemen o Landudno, a enillodd y wobr orau am m Ddod i Amlygrwydd yng Ngwobrau’r Brits yr wythnos ddiwethaf,  eu bod yn ‘gyffrous iawn’ ynglŷn â chwarae yn y sioe yn Wrecsam.  

Yr artistiaid fydd y cyntaf i chwarae gig byw yn y stadiwm ers Gŵyl Wrecsam 1982, pan chwaraeodd y cewri roc caled Motorhead, Budgie, Tank, Raven, Orion a Twisted Sister yng nghartref clwb pêl-droed y dref.

Ystyrir Stereophonics - Kelly Jones yn canu a chwarae gitâr, Richard Jones ar y gitâr fas, Adam Zindani ar gitâr a Jamie Morrison yn drymio – fel un o’r bandiau gorau yn y wlad, ac mae ei halbwm Rhif 1 diweddaraf, Keep The Village Alive, yn cynnwys y senglau poblogaidd C'est La Vie, I Wanna Get Lost With You a Song for the Summer.

Bydd y tocynnau yn mynd ar werth dydd Gwener yma am 9am. Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.stereophonics.com neu i wefan ddigwyddiadau newydd-ei-lansio y brifysgol www.glyndwr.ac.uk/en/events

Rhannu |