Cerddoriaeth

RSS Icon
24 Chwefror 2016

Ar Log ym Mhwllheli

MAE’R grŵp gwerin eiconig, Ar Log, yn dathlu 40 mlynedd eleni.

Mae taith arbennig ar y gweill ond cyn hynny byddant yn perfformio yng Nghlwb Golff Pwllheli ar nos Sadwrn, Mawrth y 5ed.

Ffurfiwyd Ar Log yn Awst 1976 yn arbennig ar gyfer perfformio mewn gŵyl yn Lorient, Llydaw.

Yn dilyn yr ŵyl, penderfynwyd, ar anogaeth y Dubliners, i barhau, ac i geisio ennill eu bywoliaeth yn teithio.

Llwyddwyd i wneud hyn am saith mlynedd gan deithio dramor yn rheolaidd am naw mis o bob blwyddyn.

Maent wedi perfformio mewn un-ar-hugain o wledydd ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop a Gogledd a De America gan hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon Cymru.

Rhwng 1978 a 1996 llwyddodd Ar Log i ryddhau 10 albwm a dwy sengl.

Mae ticedi ar gyfer y noson ym Mhwllheli ar gael yn Tonnau, Pwllheli, neu drwy ffonio 01758 612903.  

Mi fydd y canwr, y bardd a’r actor Dewi Pws hefyd yn ymddangos ar y noson ac mi fydd elw’r cyngerdd yn mynd i gronfa Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016. 

Rhannu |