Cerddoriaeth

RSS Icon
17 Rhagfyr 2015

Meinir y soprano swynol i serennu

Mae un o gantorion ifanc mwyaf talentog gwledydd Prydain yn paratoi i serennu yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y soprano Meinir Wyn Roberts o Gaernarfon, ymhlith yr uchafbwyntiau yng Nghyngerdd Gala Fienna a gynhelir yn Eglwys San Silyn, Wrecsam, ar 2 Ionawr.

Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia a grëwyd gan ddau frawd cerddorol o Wrecsam, Robert a Jonathan Guy.

Mae’r gerddorfa newydd am gymryd cam arall tuag at ddod yn gwbl broffesiynol ar ôl derbyn grant o £5,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Robert hefyd wedi cael ei wahodd i arwain mewn gŵyl yn Jeju, De Corea ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Ond cyn hynny, mae’n edrych ymlaen at y cyngerdd yn Wrecsam gyda Meinir, y mae ei gyrfa hithau hefyd yn blodeuo ar ôl iddi gael ei henwi yn Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Dywed Meinir ei bod wrth ei bodd i gael ymddangos gyda NEW Sinfonia.

Meddai: “Mae’n wych i gantorion fel fi i gael y cyfle i berfformio gyda cherddorfa fawr. Fel arfer, rwyf ond yn cael gweithio gyda phianydd ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr cael gerddorfa fawr y tu ôl i chi.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych ac roedd ennill cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Llangollen yn gychwyn haf anhygoel i mi.

“Mi es ymlaen i ennill prif ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod ac yna hedfan draw i Columbus, Ohio i berfformio fel unawdydd yng Ngŵyl Gymreig Gogledd America.”

Ychwanegodd: “Rwy’n mwynhau gweithio gyda NEW Sinfonia ac mae Robert Guy wedi bod yn wych wrth ganiatáu i mi ddewis y darnau y byddaf yn eu perfformio.

“Rwyf wedi dewis rhai ffefrynnau personol, fel Cân Rusalka i’r Lleuad, Piangero gan Handel, aria Norina gan Gaetano Donizetti a Je Veux Vivre o Romeo a Juliette.”

Mae golygon Meinir, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, ar yrfa yn y byd opera, ac unwaith y mae hi wedi cwblhau ei Gradd Meistr mewn Cerddoriaeth yn Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ei bwriad yw mynychu clyweliadau i geisio sicrhau lle mewn ysgol opera.

Meddai: “Rwy’n gorffen fy ngradd meistr yr haf nesaf, ac yna rwy’n gobeithio cael lle mewn ysgol opera yn Llundain. Dyna lle dwi eisiau bod a’m breuddwyd yw bod ar y llwyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru neu yn Covent Garden neu unrhyw un o’r lleoliadau opera mawr.

“Rwy’n gwybod bod angen mwy o brofiad arnaf o ran canu prif rôl ac rwy’n mynychu dosbarthiadau actio fel rhan o’m gradd meistr. Ond opera yw popeth i mi. Dyna rwyf am ei wneud, dyna yw fy mreuddwyd.”

Bu Robert a Jonathan ill dau yn astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion a’u cenhadaeth fel mentoriaid yw gwneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Robert: “Mae pethau’n mynd yn dda iawn gyda’r NEW Sinfonia, y gwnes i a Jonathan ei sefydlu dros bedair blynedd yn ôl. Breuddwyd y ddau ohonom yw cael cerddorfa cwbl broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru, ac yn araf bach mae’r freuddwyd yn troi’n ffaith.

“Erbyn hyn mae gennym dros 40 o gerddorion a’r nod yw cael cerddorfa cwbl broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru.

“Mae pethau’n mynd yn dda ac rydym yn perfformio’n rheolaidd sawl gwaith bob mis. Weithiau bydd gennym dros 40 o gerddorion yn y gerddorfa ac weithiau 10 neu lai. Dyna pam rydym wedi penderfynu galw’r gerddorfa yn NEW Sinfonia.”

“Mae cael artist unigol fel Meinir Wyn Roberts yn perfformio gyda ni yn anhygoel. Mae ganddi lais rhyfeddol, a heb os mi fydd hi’n seren enfawr yn y dyfodol.

“Rydym eisoes wedi perfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, ac oedd yn brofiad rhagorol wrth i ni gael gweithio gyda’r cyfansoddwyr Karl Jenkins a’r Athro Paul Mealor, a ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer priodas Dug a Duges Caergrawnt.

“Byddwn yn perfformio cyngerdd mawr ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf ochr yn ochr â thri chôr blaenllaw arall sydd yn wych. Erbyn hyn rydym yn cael gwaith rheolaidd gan berfformio ddwywaith, tair gwaith neu hyd yn oed bedair gwaith y mis.”

Mae’r cerddorion sy’n rhan o NEW Sinfonia i gyd rhwng 18 a 28 oed, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o ogledd Cymru.

Maent yn ymarfer yn eglwys Bresbyteraidd y Drindod yn Wrecsam, lle mae côr Cantorion y Rhos, y mae Robert hefyd yn ei arwain, hefyd yn perfformio.

Dywed ei frawd iau Jonathan, sy’n chwarae’r clarinét, ei fod ef hefyd yn gyffrous wrth weld sut y mae NEW Sinfonia yn datblygu.

Dywedodd: “Mae cydweithio gyda fy mrawd yn wych ac mae’n gweithio cystal oherwydd ein bod yn ymddiried yn ein gilydd.

“Mae’n deimlad braf gweld ein breuddwyd o gerddorfa wirioneddol broffesiynol wedi ei lleoli yng ngogledd Cymru ac sy’n cynnwys cerddorion o’r ardal, yn cael ei gwrieddu. Rydym wedi gweithio’n anhygoel o galed am dros bedair blynedd i sefydlu NEW Sinfonia, a does dim amheuaeth bod y cerddorion yn credu’n llwyr yn yr hyn rydym yn ei wneud.”

I gael mwy o wybodaeth a thocynnau, sy’n £12, consesiynau £10, myfyrwyr a rhai dan 18 oed £3 neu £25 am docyn teulu, ewch i www.newsinfonia.org.uk ac am fwy o wybodaeth am Meinir Wyn Roberts, ewch i www.meinirwynrobertssoprano.com. 

Rhannu |