Cerddoriaeth

RSS Icon
20 Mai 2011
Karen Owen

Ei chalon dal yn Eifionydd

MAE’R nyth ar y gainc, a’r gainc ar y pren, a’r pren ar y bryn, a’r bryn ar y ddaear, a’r ddaear ar ddim…

Cainc ydi teitl cryno-ddisg newydd Gwyneth Glyn, ac mae’n gasgliad o ddeg o ganeuon sy’n dod ynghyd ar ddiwedd blwyddyn o golledion – a dathlu bywyd newydd – yn hanes y gantores sy’n wreiddiol o Eifionydd.

Wedi profi cryn hanner dwsin o brofedigaethau yn ystod y misoedd a aeth heibio, ac wrth iddi hi ei hun wynebu ar y profiad o ddod yn fam am y tro cyntaf o fewn yr wythnos nesaf, mae Cainc yn cysylltu ddoe a heddiw iddi.

Ar glawr y CD, mae Gwyneth Glyn yn cyflwyno’r caneuon i’r “rheiny sydd wedi bod… a’r rhai newydd sydd ar y ffordd”…...

…..Caneuon sydd wedi hel “fel caseg eira” ydi’r deg trac ar Cainc, yn ôl Gwyneth Glyn, ac os ydyn nhw’n awgrymu ychydig o hiraeth am y bobl sydd wedi’i gadael hi, mae gan Gwyneth ei hun hiraeth am ardal ei mebyd hefyd.

“Ar ôl symud i Gaerdydd, dw i’n gweld fy nghynefin mewn ffordd wahanol iawn,” meddai. “A dw i’n meddwl ei bod hi’n wir i mi ddeud na dydi fy nghalon i erioed wedi gadael Eifionydd, er fy mod i bellach yn byw yn y brifddinas."

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |