Cerddoriaeth
Brigyn yn dathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig
Blwyddyn yn unig ers rhyddhau yr albwm lwyddianus 'Brigyn 4', bydd y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts yn cyhoeddi CD newydd sbon arall ar y 5ed o Ragfyr eleni, o'r enw 'Dulog'.
Pam 'Dulog'?
Mae'r albwm wedi ei henwi ar ôl y creadur bach sydd i'w weld yn troedio'r tiroedd ym Mhatagonia. Mae Patagonia yn thema amlwg yn yr albym - gyda chyfeiriadau uniongyrchol at hanes ddiddorol y Wladfa mewn caneuon fel 'Malacara', 'Ana', 'Dôl y Plu', a 'Pentre sydyn'.
Bydd y CD yn cyflawni blwyddyn arbennig o ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Y Wladfa Gymreig.
Ceir ymddangosiad arbennig iawn ar yr albwm gan ddau frawd arall, Alejandro a Leonardo Jones, o Drevelin yn yr Andes.
Bu Alejandro a Leonardo yn rhan o "Her Cylchdaith Cymru" gyda Rhys Meirion a nifer eraill dros yr haf.
Rhwng y teithio, mi fuon nhw yn y stiwdio gyda Brigyn; gyda'r ddau set o frodyr yn cyd-ganu yn y Gymraeg, a'r Sbaeneg!
Wedi ei blethu drwy'r albym, mae sŵn y Bandoneon sy'n cael ei chwarae'n gelfydd gan Nicolas Avila o Batagonia, a ddaeth draw i Gymru yn unswydd yn ystod mis Gorffennaf eleni i deithio led-led y wlad fel rhan o'r grŵp Brigyn.
Yn ogystal, mae'r ddeuawd 'Ffenest' gyda Casi Wyn – sydd wedi dod yn enw cyfarwydd iawn yn y byd cerddoriaeth gyfoes. Mae ei chaneuon yn aml i'w clywed ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Radio 1 yn ddiwedar.
Gyda'r CD yn y siopau cyn y Nadolig – gallwch ddisgwyl clywed mwy o ganeuon newydd 'Dulog' ar donfeddi'r radio ac ar y teledu dros y misoedd nesaf.
25 Tachwedd - Cân newydd yn cael ei chlywed am y tro cyntaf ar C2 BBC Radio Cymru
29 Tachwedd - Mwy o ganeuon o'r CD i'w clywed ar Sesiwn Fach, BBC Radio Cymru
27 Tachwedd - Gyg yng Nghlwb Rygbi Pen-y-Bont ar Ogwr
5 Rhagfyr - CD yn y siopau
12 Rhagfyr - Y Stiwdio Gefn, S4C
14 Rhagfyr - Heno, S4C
20 Rhagfyr - Gig yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd
+ Taith i'w gyhoeddi yn y flwyddyn newydd…