Cerddoriaeth
Gigs Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith
Lansiodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, gigs Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw gan eu disgrifio fel y 'lein-yp mwyaf cyffrous am flynyddoedd'.
Mae'r gigs – a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherfformiad gan un o sêr ffilm Gruff Rhys, Rene Griffiths o Batagonia. Fe fydd criw rhaglen boblogaidd Ddoe am Ddeg yn arwain sesiwn gomedi ar nos Lun, gyda band lleol Dr Hywel Ffiaidd yn perfformio hefyd.
Fe fydd gan gigs y Gymdeithas flas gwleidyddol: ar nos Fawrth bydd Bryn Fôn a'r Band yn perfformio ar noson i godi ymwybyddiaeth o'r bygythiad i gymunedau Cymraeg. Fe fydd Mici Plwm yn cyflwyno 50 mlynedd o ganu roc dros y Gymraeg mewn cân a ffilm gyda Maffia Mr Huws, Heather Jones a Gai Toms ar y nos Fercher. Fe fydd nos Iau yn noson 'gwrthwynebu'r toriadau' gyda Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog, Crash Disco!, Dau Cefn a Llyr PSI yn chwarae.
Fe fydd Meic Stevens a'i fand, sydd yn teithio yn ôl o Ganada, yn brif atyniad y gig heddwch i gofio Hiroshima ar y Nos Wener gyda chefnogaeth Tecwyn Ifan, Gwilym Morys a Lleuwen Steffan. Yn cloi'r wythnos ar y nos Sadwrn bydd Bob Delyn a Geraint Lovgreen. Bydd yn noson unigryw - am y tro cyntaf mewn Eisteddfod fe fydd celf ymladd Kung-Fu a Taw-Kwondo yn ogystal â'r band lleol Mother of 6.
Mae tocynnau ar werth ar-lein ar www.cymdeithas.org/steddfod, yr Orsaf Ganolog a llefydd eraill, bydd gostyngiad arbennig i rai sy'n prynu tocynnau'r wythnos o flaen llaw.
Yn siarad yn y lansiad, fe ddywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gogledd: “Dyma'r lein-yp mwyaf cyffrous y Gymdeithas am nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi dewis y lleoliad gorau yn y dref ac yn gobeithio y gallwn ni ychwanegu at gyffro yr Eisteddfod yn ei gyfanrwydd.
"Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Bryn Fôn am ei barodrwydd i hedleinio'r gig "Tynged yr Iaith - Dyfodol ein Cymunedau" ar nos Fawrth y Steddfod. Dyma fydd unig gig Bryn efo'r band llawn yn y Steddfod eleni, ac felly rydyn ni'n annog pobl i fynd arein i brynu tocynnau'n gynnar.
“Mi fydd holl weithgareddau'r Gymdeithas yn ystod wythnos yn canolbwyntio ar y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac yn datgan ei bod hi'n bosib i'r Gymraeg fod yn iaith gymunedol o Ben-Llŷn i Wrecsam, o Lanrwst i Fynwy.
"Pwyllgor o bobol leol sydd wedi trefnu'r gigs: mae eu brwydfrydedd nhw yn dangos i ni bod y frwydr o ddiogleu'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ennilladwy, pan ddaw cymunedau at ei gilydd.
“Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi dewis yr Orsaf Ganolog fel lleoliad ein gigs ni eleni hefyd - dyma'r lleoliad gorau ar gyfer gigs yn y gogledd ddwyrain, mae hi'n ganolfan arbennig iawn sydd wedi magu enw da iawn dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r ganolfan yn rhoi llwyfan i rai o fandiau mwyaf gwledydd Prydain a thu-hwnt. Mae'r ganolfan hefyd am y tro cyntaf erioed yn ein galluogi ni i fedru cynnig y profiad cerddorol gorau posib, mewn lleoliad pwrpasol.”
Yn sôn am bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Eisteddfod Genedlaethol, ychwanegodd Osian Jones: “Rydym yn awyddus i weithio mewn ysbryd o bartneriaeth i sicrhau llwyddiant yr wyl eleni. Gigs gwleidyddol fydd y rhai fydd y Gymdeithas yn ei gynnig eleni felly. Yn estyniad naturiol o'r holl arlwy fydd yn cael ei gynnig yn ardal Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”