Cerddoriaeth

RSS Icon
23 Tachwedd 2015

Albym cyntaf y tenor Trystan Llyr Griffiths

Yn unawdydd cyngerdd poblogaidd ledled Cymru a thros Glawdd Offa, mae rhai o’i uchafbwyntiau llwyfan yn cynnwys ymddangosiadau yn Neuadd Frenhinol Albert, Gwŷl y Gelli gyda Bryn Terfel, Brynfest yng Nghanolfan Southbank, perfformiad cyngerdd o Tristan und Isolde gyda Cherddorfa Philharmonic Frenhinol Lerpwl ynghyd â datganiadau yn St Martin-in-the-Fields a Gwŷl Gerdd Caerdydd. Hefyd, Trystan yw un o’r cantorion cyntaf i dderbyn Gwobr Astudio gan Ymddiriedolaeth Bryn Terfel ac yn 2012 fe’i dyfarnwyd yn Llais i Gymru gan Gwmni Recordiau Decca mewn cyfres deledu ar S4C.

Dechreuodd Trystan ar ei astudiaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym maes Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau cyn cwblhau cwrs Meistr Lleisiol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a chwrs ôl?radd Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae newydd gwblhau ei astudiaethau fel Hyfforddai yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol yn Llundain.

Gwnaeth Trystan ei ymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf yn gynharach eleni fel Ferrando yn Cosi fan tutte ar daith Scottish Opera ac yn ôl adolygiad o’r Opera yn The Guardian ‘The boys – Trystan Llyr Griffiths and Ben McAteer as Ferrando and Guglielmo – sing brightly and stylishly. And yes, they roam the stage with all the right swagger.’

Yn cyfeilio ar y piano i Trystan ar yr albym mae David Doidge. Ar hyn o bryd mae David yn aelod llawn amser o staff cerddorol cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yma, mae wedi gweithio ar nifer o gynhyrchiadau gydag arweinyddion nodedig rhyngwladol ac mae’n cyfuno ei ddyletswyddau yn y WNO gydag ymddangosiadau cyngerdd a datganiadau rheolaidd.

David hefyd oedd yn arwain y Welsh Session Orchestra yn ystod y sesiynau recordio wrth iddynt gyfeilio i nifer o draciau ar yr albym. Mae dau ddeuawd arbennig gyda gwesteion arbennig iawn hefyd – un trac nadoligaidd gyda’r bas baritone byd enwog Bryn Terfel a’r llall gyda’i frawd Gwydion Rhys – trefniant hyfryd gan Jeffrey Howard o Dros Gymru’n Gwlad. Recordiwyd yr albym yn stiwdio sain, Llandwrog, Caernarfon gyda Siwan Lisa Evans yn cynhyrchu.

Magwyd Trystan ar aelwyd gerddorol, gyda’i famgu yn dysgu canu iddo fe a’i frodyr a chwaer pan yn fach fel yr esbonia Trystan; "Mamgu oedd yn nol ni gyd o ysgol, a wedd hi’n rhoi brechdanau jam neu marmaled i ni… fyse ni gyd yn iste na’n gwybod be oedd yn dod nesa ‘reit te, pwy sy am ganu gynta heno?’ a ni’n gyd yn pwyntio bys at un o’r lleill!

"Ond edrych nol, dyma’r dechre gorau posib a dwi’n diolch iddi heddiw – mae di talu ffordd!"

Mae rheini Trystan wedi bod yn gefn mawr iddo yn gorffennol gan annog ei yrfa canu, mae’r ddau yn gerddorol.

"Mae Mam yn canu gyda Parti’r Gromlech, a fuon nhw’n llwyddiannus yn yr Wyl Gerdd Dant eleni, hefyd mae Dad yn canu yn y côr lleol."

Mae Trystan hefyd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn chwarae’n achlysurol i glwb rygbi Crymych – ond fydd na’r un dydd Sadwrn rhydd i’r rygbi rhwng nawr a’r Nadolig gyda chyngherddau wedi eu trefnu bob penwythnos!   

Rhannu |