Cerddoriaeth

RSS Icon
11 Tachwedd 2015

Chwa o ‘Awyr Iach’ gan y cerddor Ynyr Llwyd

Hamddena yn yr awyr iach yng nghanol prysurdeb bywyd yw ysbrydoliaeth y cerddor proffesiynol o Ddyffryn Clwyd, Ynyr Llwyd, wrth iddo gyhoeddi ei albwm byr newydd, ‘Awyr Iach’.

Dyma ei drydydd albwm, ac mae aeddfedrwydd yr artist gyfansoddwr ifanc i’w weld yn glir yn ‘Awyr Iach’ gaiff ei ryddhau ar label Recordiau Aran.

Wedi arbrofi gydag arddulliau cerddorol dros y blynyddoedd, dywed ei fod wedi darganfod ei sain wrth gyfansoddi a chreu’r caneuon i’r albwm newydd, sef sain pop a roc acwstig ysgafn.

“Mae pob artist yn aeddfedu gan dynnu ar ei brofiadau, a dwi’n teimlo mod i wedi darganfod fy llais yn yr EP newydd,” eglura Ynyr, 27 oed.

“Roedd hi’n grêt cydweithio efo criw o gerddorion eraill yn y stiwdio wrth roi’r casgliad diweddara at ei gilydd. Mi ges i’r cyfle i gyd-gynhyrchu’r traciau efo Emyr Rhys yn Stiwdio Aran, gan mod i’n mwynhau’r elfen honno o’r broses hefyd.

“Mi ddefnyddiom ni fand byw i recordio er mwyn ceisio rhoi mwy o gymeriad i’r caneuon, ac yn ogystal â’r offerynnau arferol fel gitârs, drymiau ac allweddellau, rydan ni wedi cynnwys ambell offeryn difyr arall fel y banjo a’r tiwba ar rai o’r traciau. Mae digon o amrywiaeth yma o ran steil a thempo, felly gobeithio caiff y gwrandawyr fwynhad o glywed y deunydd newydd.”

Mae digon o amrywiaeth ym mywyd Ynyr ei hun hefyd, gan ei fod bellach yn rheolwr ar y band function proffesiynol ‘The Right Stuff’, ac yn cadw’n brysur yn cynnal gweithdai cyfansoddi mewn ysgolion.

“Dwi’n hynod o ffodus o fod wedi cael cyfleoedd arbennig fel cerddor efo’r band ‘The Right Stuff’ gan deithio a pherfformio ar fordeithiau i Ynysoedd y Caribî, America, Y Med a Sgandinafia yn y gorffennol. Erbyn hyn, teithio Prydain ydyn ni gan fwyaf yn perfformio mewn gwahanol ddigwyddiadau a phriodasau. Yr amrywiaeth o fewn y gwaith sy’n apelio’n fwy na dim – un wythnos mi fyddwn ni’n perfformio mewn plasdy i fyny yn yr Alban, a’r wythnos ganlynol mi fyddwn ni’n diddannu mewn priodas ar gwch Elizabethan yn hwylio ar y Thames,” eglura Ynyr.

Efallai mai dilyn ôl troed ei fam, y gantores a’r hyfforddwraig canu adnabyddus, Leah Owen, y mae Ynyr wrth gydweithio â phobl ifanc mewn ysgolion. Gyda’i radd feistr mewn cyfansoddi o Brifysgol Bangor yn 2011, mae’n falch o allu cynnig arweiniad i ddisgyblion cerdd TGAU a Lefel A sydd angen cymorth gyda’u gwaith cyfansoddi mewn ysgolion uwchradd yng ngogledd Cymru.

Mae’r gŵr ifanc sydd bellach yn briod wedi cyfansoddi ar gyfer nifer o artistiaid yn y gorffennol, gan gynnwys y gân ‘Adre’n Ôl’ ar gyfer seren y sioeau cerdd, Mark Evans, a aeth ar y pryd yn syth i bumed safle yn siart ‘World Music’  iTunes.

Yn ogystal â chyfansoddi caneuon, bydd Ynyr yn creu cerddoriaeth offerynnol ar gyfer prosiectau cyffrous eraill fel cynyrchiadau dawns dramatig, a chyfansoddi gweithiau ar gyfer y cyfryngau fel cyfres ‘Y Sipsiwn’ ar S4C.

“Mae’n deimlad braf cael rhyddhau caneuon newydd eto ar ôl seibiant o’r recordio. Daeth rhai o’r caneuon ar yr albwm i mi ar ôl wythnos brysur o waith a mynd allan am dro i’r awyr iach. Ac mi gawson ni dipyn o hwyl yn dod â phrif gân yr albwm, ‘Awyr iach’ yn fyw. Mae’r steil yn eithaf gwahanol i’r arfer,” eglura Ynyr.

Mae yna draciau bywiog fel ‘Am y Tro’ a ‘Lliwiau’ ar yr albwm, yn ogystal â chaneuon mwy hamddenol fel ‘Cysur’ a ‘Mynd dy Ffordd dy Hun’. Mae’r trac ‘Un Lleuad’ yn sôn am y pellter fu rhyngddo â’i gariad wrth dreulio cyfnod ar wahân, ond bod y ddau yn gweld yr un lleuad ym mha bynnag ran o’r byd yr oedden nhw. Mae’n drac llawn emosiwn gyda’r lleisiau cefndir a sain gyfoethog y gitâr yn ychwanegu at neges Ynyr yn y gân.

“Mae ‘Am y Tro’ yn gân sy’n dweud sut y gall y pethau sy’n poeni rhywun heddiw ymddangos yn fach a di-bwys erbyn yfory – wrth roi pethau mewn persbectif. Mae’n gân fywiog a bachog gyda’r neges bod yfory ar ei ffordd ac nad oes gennym ni syniad be sy’n ein wynebu, felly waeth i ni heb â phoeni am bethau bychain.”

Er bod Ynyr wedi perfformio a chyfarfod enwogion fel Ronan Keating a Will.i.am yn ystod ei yrfa, ac wedi perfformio mewn llefydd anhygoel fel unig westy saith seren y byd yn Dubai, mae’r cerddor o Brion ger Dinbych yn falch o’i gefndir a’i allu i gyfansoddi a pherfformio yn y Gymraeg.

“Dwi’n hynod o ffodus o gael amrywiaeth yn fy ngyrfa a’m gobaith i ydi parhau i ennill bywoliaeth fel cerddor proffesiynol yma yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Ynyr.

Bydd ‘Awyr Iach’ (Recordiau Aran) yn cael ei rhyddhau ddiwedd Tachwedd a bydd yn y siopau’n fuan neu ar gael trwy www.traciaucymraeg.com. Am fwy o wybodaeth am Ynyr Llwyd ewch i www.ystradmusic.com

Rhannu |